BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
6ed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cystadleuaeth

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 


Luned Emyr, cyflwynwraig Sioe Gelf Celfyddyd dilyn y Steddfod
Sŵn, siom a chnu yn yr Eisteddfod
Wynebau collwyr, pobl wedi eu lapio mewn cnu a synau steddfodol fydd yn mynd â bryd tri sy'n cymryd rhan mewn prosiect celfyddydol ar gyfer S4C ar Faes Eisteddfod Eryri.

Mae'r prosiect tb cael ei drefnu gan y rhaglen Y Sioe Gelf.gyda chanlyniad yr arbrawf yn cael ei ddangos ar rifyn arbennig o'r Sioe Gelf nos Sul, Awst 7 ar S4C am 9.30pm.

"Bydd y prosiect yma yn cyffwrdd â nifer o ymwelwyr â'r Ŵyl ac yn cyfrannu at y bwrlwm o greadigrwydd sydd i'w brofi ymhobman yn ardal yr Eisteddfod," meddai Nici Beech, Comisynydd Adloniant FfeithiolS4C:

Y tri fydd yn cymryd rhan yw:
Dyl Mei o Borthmadog, Gwynedd:
Bydd Dyl Mei, sy'n gynhyrchydd recordiau, yn cofnodi'r wythnos ar ffurf recordiad arbennig yn cofnodi amryw o synau a sylwadau ar y maes, ac o'r gweithgareddau oddi arno hefyd.

Bydd yn defnyddio recordydd digidol i recordio synau o bob math gan roi popeth at ei gilydd i gefndir trac dawns. Bydd modd gweld y broses gymysgu yn digwydd ar gyfrifiadur symudol.

Meddai, "Mi fydd yn dipyn o sialens. Does gen i ddim syniad beth sy'n mynd i ddigwydd! Rwy'n edrych ymlaen yn fawr."

Dewi Glyn Jones, Pontllyfni, Gwynedd:
Mae'r ffotograffydd Dewi Glyn Jones yn bwriadu cofnodi'r ymateb amrywiol gan unigolion nad ydynt wedi llwyddo i gyrraedd llwyfan yr Eisteddfod ar ôl perfformio yn y rhagbrofion.

Portreadau fydd y rhain o unigolion, ac mae cynlluniau i arddangos y gwaith yn ystod yr wythnos wrth i Dewi geisio dal yr amrywiaeth o emosiynau a deimlir wrth golli!

Meddai, "Dydw i erioed wedi cystadlu mewn unrhyw eisteddfod a does gen i ddim llawer o awydd eistedd yn y pafiliwn ond mae'r prosiect yma yn rhoi cyfle i mi daro rhyw olau newydd ar y rhagbrofion."

David Greenslade, Caerdydd:
Bydd y bardd a'r artist perfformio, David Greenslade, yn defnyddio cnu amaethyddol, sydd yn ddeunydd tenau, tebyg i gauze, fel deunydd crai ar gyfer ei brosiect ef.

Bydd yn gwahodd rhai o'r bobl fydd yn crwydro'r maes i lapio'u hunain yn y cnu.

Wedi iddyn nhw gael eu gorchuddio'n llwyr, bydd ymwelwyr eraill â'r maes sy'n digwydd pasio yn gweld symudiadau sy'n cynyrchioli rhyw fath o ail-eni, wrth i'r unigolion ddiosg y cnu.

Bydd ymateb y cyhoedd i'r broses sy'n digwydd o flaen ei llygaid yn rhan hanfodol o'r prosiect.

Meddai, "Cefais y syniad am y prosiect hwn ar ôl i mi ymweld â Sorbia, rhan o'r Almaen, lle maen nhw'n hoff iawn o nadroedd, ac yn ystyried y neidr yn ffigwr mytholegol.

"Dwi am ddefnyddio'r cnu, sy'n ddeunydd tebyg iawn i barasiwt, i greu neidr mytholegol yn yr Eisteddfod i gynrychioli ail-eni. Dwi'n edrych ymlaen at lapio côr, ac efallai aelodau'r Orsedd, yn y deunydd!"

'Trawsdoriad difyr'
Dywedodd Geraint Ellis, cynhyrchydd gyda'r Sioe Gelf, y bydd y prosiect yn cynnig trawsdoriad difyr nid yn unig o ran y meysydd celfyddydol ond hefyd y profiadau amrywiol i bawb fydd yn gweld y gwaith o flaen eu llygaid yn ystod yr wythnos.

Ac meddai Luned Emyr, cyflwynydd Y Sioe Gelf, "Gan fod yr elfen gyhoeddus yn rhan ganolog o waith artist, bydd ymateb a chyfraniad y gynulleidfa yn rhan ganolog o'r prosiect. Mae'r hinsawdd gelfyddydol yng Nghymru heddiw yn un ddeinamig a chyffrous, a'r gobaith yw y bydd prosiect comisiwn y Sioe Gelf yn tanlinellu hyn ac yn agor drysau i feddwl, trafod a chreu."

Gweithdai
Mae'r tynnwr lluniau Dewi Glyn hefyd yn rhan o weithdai arbennig yn stondin S4C ar ddydd Sadwrn cynta'r Eisteddfod i hyrwyddo cyfres gelf newydd i bobl ifanc, Cer i Greu, sy'n dechrau fis Medi.

Yn y gyfres bydd pobl ifanc yn cael y cyfle i greu darn o gelf i'w arddangos mewn man cyhoeddus.

Cynhelir y gweithdai yn stondin S4C ar y maes a bydd cyfle i hyd at 25 person ifanc rhwng 8 ac 16 oed gymryd rhan mewn dwy sesiwn, un am hanner dydd, a'r ail am 2.00pm. Gellir archebu lle drwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141 neu trwy ymweld â stondin S4C fore Sadwrn, Gorffennaf 30.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy