BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

LLUN
7fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Adolygiad : Syth o'r Nyth

Logo Maes CDim nostalgia i Eisteddfotwyr?
Perfformiad Maes C, nos Sul, Awst 1af, 2004.

Mae' n nhw'n dweud fod 'Nostalgia'n Gwerthu' ond yn amlwg nad yw hyn yn wir mewn cyd destun Eisteddfodol.

Dim ond llond llaw o bobl a drodd allan i Faes C i weld sioe cafwyd ei hysgrifennu, yn wreiddiol i'w pherfformio yn Theatr Fach y Maes -Tŷ Ddewi, gan LLio Silyn a Janet Aethwy.

Er mai siomedig iawn oedd y gefnogaeth roedd yr arlwy yn bleser llwyr.Yn y sioe cawn bytiau hunangofiannol am ddyddiau plentyndod ac arddegol. Ar y cyfan darnau doniol ddifyr a geir , wedi ei bupuro yma a thraw gydag ambell i sylw bachog neu grafog.

Y ddwy a ysgrifennodd y gwaith oedd hefyd yn ei berfformio. Roedd gwylio'r ddwy yn datgelu digwyddiadau a theimladau difyr o'u plentyndod eu hunain fel gael cip yn eu dyddiaduron , atgyfnerthir y teimlad yma gan bod y ddwy yn wir yn darllen o lyfrau/ ffeiliau yn ystod y perfformiad.

Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i ar dân i weld y perfformiad yma gan bod y ddwy awdur bellach yn eu pedwardegau. Meddyliais yn siŵr na fyddai cynnwys y monologau yn berthnasol i rywun o'm cenhedlaeth i sydd dros ddeng mlynedd yn fengach. Ond fe'm profwyd yn anghywir, mae'n amlwg o'r perfformiad fod y teimladau yr awn ni drwyddyn nhw yn ystod y blynyddoedd yn deimladau oesol. O'r cynnwrf a deimlwyd o gael mynd i aros, pan yn chwech oed, at nain 'ar fy mhen fy hun', i wefr y gusan gyntaf ,a'r siom cyntaf yn parhau.

Gwnaed defnydd celfydd o gerddoriaeth yn ystod y perfformiad, i'n tywys o un flwyddyn i'r llall . Mi oedd hyn ychydig yn gymysglyd i mi gan nad yw fy ngwybodaeth am gerddoriaeth y 60au a'r 70au mor wych â hynny, ac fe aeth ar goll yn llwyr ar fy nghyfaill ,Cenin, a hithau newydd droi yn ddeunaw.Wedi deud hyn , er nad oeddem yn medru gosod y gerddoriaeth yn ei gyd-destun cronolegol , roedd hefyd yn arf i osod teimlad y darn neu ddarnau oedd i ddilyn ac felly yn ffordd wych o bontio rhwng y darnau .

Noson dda iawn i unrhyw un sy'n hoffi nostalgia, ond gan i gymaint o amser a theimladau fynd i baratoi y darnau mae hi'n bechod na roddwyd fwy o sylw am y noson ac efallai y gallai Llio Sylyn a Janet Aethwy fod wedi perfformio o flaen y maint o gynulleidfa yr oeddent yn ei haeddu yn hytrach na'r pymtheg oedd yno.

Adolygiad gan Beth Angell.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy