BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
6ed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Nodiadau: dydd Iau

Nodiadau dyddiol o Faes Casnewydd.
Bu dydd Iau yn ddiwrnod o gyfathrebu - ac o fethu cyfathrebu . . .

Cenhadaeth Tom
Yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Cymry Ariannin ym Mhabelly Cymdeithasau heddiw, talwyd teyrnged i'r diweddar Tom Gravell - perchen garej o Gydweli yr oedd ei gariad tuag at Batagonia a'i phobl yn ddihysbydd.

Ymwelodd â'r Wladfa 13 o weithiau i gyd ac atgoffwyd y cyfarfod gan lywydd y Gymdeithas, Cathrin Williams, y byddai bob amser yn sicrhau y byddai'n mynd a phregethwr gydag ef.

"Yr oedd yn rhoi pwys mawr ar hynny," meddai.

Swadan a Phwnsh
Mae Rheol Gymraeg yr Eisteddfod dan lygaid barcud yn y brifwyl hon.

A dydd Mercher, gwaharddodd awdurdodau'r Eisteddfod sioe Pwnsh a Jiwdi rhag perfformio yn Saesneg.

Ond yn fwy dramatig fyth cerdddodd y gynulleidfa allan o gyfarfod yn trafod datganoli a drefnwyd gan fudiad Cymnru Yfory wedi i un o'r arbenigwyr a fu'n gweithio ar Adroddiad Richard fynnu siarad yn Saesneg.Torrwyd ar draws yr Athro Laura McAllister a gwrthodwyd apêl yr Archesgob Barry Morgan am "degwch" i'r siaradwraig.

Nid pob Cymro pybyr oedd yn cydweld a'r ymateb a chlywyd yr Arglwydd Elis Thomas yn gweiddi "Ffyliaid" ar y protestwyr gan fynnu mai rheol "llwyfan" yr Eisteddfod yw'r rheol Gymraeg.

Ar dy alwad di . . .
Bu cyfarfodydd yr Eisteddfod hon yn hynod rydd o dramgwydd ffonau symudol.

Ond o bosib mai ym mhabell Cymdeithas Cymru Ariannin y cafwyd y profiad mwyaf gogleisiol.

Llywydd y gymdeithas wedi mynd am dro o gwmpas y Maes.

Yr ysgrifennydd yn ei galw ar ei ffôn symudol.

Y ffôn yn canu ym mag y llywydd, ar lawr yn y babell wrth draed yr ysgrifennydd!

Llwyddiant baledwr
Bu'n rhaid disgwyl yn hir ond ddoe enillodd y baledwr o Sarn Mellteyrn, Llŷn, Harri Richards, y wobr gyntaf am faled gyfoes am yr eildro.

Cyflawnodd yr un gamp o'r blaen yn Eisteddfod Casnewydd un mlynedd ar bymtheg yn ôl - yng Nghasnewydd!

Yn ffarmwr wedi ymddeol mae'n gystadleuydd rheolaidd yn yr Eisteddfod a daeth yn ail ym Meifod y llynedd.

Yn ddealledig
Cafwyd gwers Gymraeg annisgwyl yn dilyn cyfarfod Y Byd a anerchwyd gan Huw Edwards y pnawn yma.

Clywyd un o'r gynulleidfa, ar ôl dod o'r cyfarfod yn dweud wrth gyfaill:

"Run ni fod i wneud un o ddau beth - un ai tanysgrifio neu rhyw air arall. Beth bynnag oedd hwnnw'n i feddwl.""Buddsoddi?"
"Ie. Be mae hwnnw'n i feddwl."

Gan brofi sut y gall y cyfathrebwr gorau, yn wir, gymryd yn ganiataol weithiau fod pawb yn ei ddeall - a hwythau ddim!





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy