BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

LLUN
7fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Cas-newydd - Gwilym dydd Mawrth

Gwilym OwenMae Gwilym Owen yn y Steddfod ac yn darlledu ar y Post Cyntaf bob dydd.





Y babell goll
Ac mi ddechreua i heddiw efo dipyn o ddirgelwch sy wedi bod yn gur pen i rai eisteddfodwyr.

A hynny ydi, sut i ddod o hyd i Babell y Cymdeithasau.

A hynny oherwydd nad pabell mohoni leni a dydi hi ddim ar y Maes ychwaith.

Mae hi ar lawr uchaf un o hen adeiladau Ty Tredegar ei hun ac mae'n rhaid ichi fod yn dipyn o giamstar i ddod o hyd iddi.

A wyddoch chi beth oedd yr hen adeilad yn ei ddydd?
Coeliwch neu beidio, bragdy.

Ydi, mae trefnwyr Prifwyl Casnewydd yn mynnu cael blas yr hen alcohol nay m mhob man eleni.

Carthion gwyl
Ac er gwaetha'r holl sôn am gynni ariannol y Steddfod mae'n werth galw heibio i'r toiledau newydd sbon sy wedi eu codi ar gyfer y Sanhedrin yn y Pafiliwn.

Cyfleuster sy'n hynod o foethus ac yn reit handi ar gyfer hacs y wasg hefyd.

Ond mae na un embaras bach, mae na hen synau aflafar ych a fi yn eich byddaru chi bob tro mae'r merched yn tynnu'r tsiaen fel petai.

Sgwn i pam?

Hirddydd haf
Gall heddiw fod yn ddiwrnod maith i ni aelodau Llys yr Eisteddfod oherwydd os oes gennym ni gwestiynau i'w gofyn am y cynlluniau ar gyfer y dyfodol yna mae'n rhaid iddyn nhw aros ar y Maes tan ar ôl chwech.

Bryd hynny, yn y Babell Lên, y mae'r Sanhedrin yn barod i ymateb.

Tybed ydi hi'n haws trafod y problemau mawr sy'n wynebu'r Steddfod gyda'r nos?
A minnau wedi credu 'rioed mai gweithredu yn wyneb haul llygad goleuni ydi'r traddodiad!

Her adroddiad
Ac yn yr ysbryd hwnnw rydw i am ofyn cwestiwn bach digon pigog rwan.

Ar waelod y rhaglen ar gyfer Cyfarfod Blynyddol y Llys sydd i'w gynnal fore Iau mae yna nodyn yn cyhoeddi y bydd Adroddiad Blynyddol 2003 ar gael ar wefan yr Eisteddfod neu drwy'r post o'r brif swyddfa.

Er chwilio bob dydd ers wythnosau ym mol yr hen gyfrifiadur nis ymddangosodd y cyfryw adroddiad.

Beth yn union, felly, a gyflwynir yn y cyfarfod fore Iau? Drosodd atoch chi barchus ysgrifennydd y Steddfod.

Cân di bennill
Ac yn ôl at ddoe i orffen a digwyddiad pur hanesyddol.

Dyma'r diwrnod pan fu i Robyn Llyn droi at Jonsi o bawb am ddyfyniad i grisialu ei obeithion ynglŷn â safiad aelodau'r Orsedd pan ddaw hi'n amser iddyn nhw fel aelodau o Lys yr Eisteddfod bleidleisio ar fater Cymreictod yr Wyl.

Cofiwch, medda fo, mai Cymraeg a Chymraeg yn unig ydi iaith yr Orsedd.

Roedd yn ddyletswydd arno, meddai wedyn, gofyn ichi gadw eich hun yn bur.

Pwy fasa'n ei ddychmygu ef a Jonsi yn canu o'r un llyfr emynau?
O Barc Tredegar, bore da.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy