BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
6ed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Cas-newydd: Gwilym dydd Iau

Gwilym OwenMae Gwilym Owen yn darlledu ar y Post Cyntaf bore o faes Prifwyl Casnewydd:






Llifeiriant Rod. . .
Casgliad o friwsion bach ysgafn, pryfoclyd, y bu imi eu blasu ar y maes yma sydd gen i heddiw.

Fel canfod y gwleidydd lliwgar hwnnw, Rod Richards, sydd yma'n gweithio yn ôl y sôn fel sylwebydd cyfryngol.

Llif RodMae o wedi penderfynu mynd o gwmpas y lle yn cario llif gadwyn - chainsaw i chi a fi.

Ond llif heb beiriant na dim arall ydi hon. Yn wir, mae hi mor aneffeithiol a gwleidydd diblaid a diswydd.

Ond mae'n gimic sy'n tynnu sylw.

Rhydd fynediad
Un arall sydd wedi tynnu sylw ato'i hun yr wythnos hon ydi Robin Llywelyn. Mae o wedi ennill gwobr goffa Daniel Owen am nofel a gobeithio y medra io ddarllen hon.

Mae o hefyd wedi bod yn llymeitian ar y maes yn ei wisg orseddol a rŵan mae o wedi argymell y dylai'r Cynulliad roi digon o arian i'r Steddfod fel gall pawb ddod i mewn heb dalu.

Ysgwn i a fydd o'n gweithredu'r un athroniaeth tua Phorthmeirion.

Doethinebu?
Golygfa drista'r Steddfod hyd yma, i mi, oedd dod ar draws stondin fach yn arddangos pum math o dylluanod .

Dyna lle'r oedd y pumawd yn syllu'n freuddwydiol ar y cannoedd o'u cwmpas a rhyw olwg drist arnyn nhw fel petaen nhw'n gofyn iddyn nhw'u hunain; Ysgwn i ddaw Hogia'r Wyddfa heibio i'n gweld ni.
Tw whit Tw hw.

Cwm-gymeriad
A dyna ichi'r hen BBC wedyn yn trefnu sesiynau trafod i ddathlu pen-blwydd Pobol y Cwm yn 30 oed.

Rhoi cyhoeddusrwydd cadarnhaol i'r hen gyfres annwyl mae'n debyg oedd y nod.

Och a gwae, be ddigwyddodd? Huw Ceredig yr actor a Meic Povey yr awdur yn rhoi swadan galed i'r criw presennol ac yn awgrymu eu bod nhw wedi colli'r plot.
Biti garw.

Hap a damwain
A biti hefyd na fuasai trefnwyr Hapnod, loteri fawr newydd yr Eisteddfod wedi gallu cyhoeddi dogfen ymuno â'r fenter mewn Cymraeg cywir.

Gyda chymaint o bryder am y rheol Gymraeg y dwthwn hwn mae'n drueni fod cynifer o frychau ar y ffurflen liwgar.

Wele'r dydd
Gweld hefyd fod Hafina Clwyd yn y Western Mail wedi penderfynu mai Y Dydd ac nid Y Byd fydd teitl y papur dyddiol Cymraeg newydd.

Ac roeddwn i wrth fy modd gweld y camgymeriad.

Y Dydd, wedi'r cyfan, oedd unig raglen newyddion Gymraeg go iawn sy wedi bod ar y teledu yng Nghymru erioed.

Ac er y dylwn i ddatgan diddordeb personol mae colled fawr ar ei hôl hi a dwi'n siŵr mai teimlo'r golled honno yr oedd Hafina wrth fynd ati i sgriblo.
Go dda chi.

Bydded goleuni
Ac i orffen, un sylw bach personol arall.
Yn y cyfarfod arbennig o Lys yr Eisteddfod yn y Babell Lên nos Fawrth rhyfedd oedd nodi fod yna ddigonedd o oleuni ar y swyddogion ar y llwyfan ond bod y gynulleidfa druan yn eistedd yn y tywyllwch.

Wn i ddim a oedd hynny yn drefniant arwyddocaol ai peidio.

Gobeithio nad felly y bydd hi yn y cyfarfod blynyddol y bore ma.

Yn wyneb haul llygad goleuni mae piau hi bawb.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy