BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
6ed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Cas-newydd: Gwilym dydd Gwener

Mae Gwilym Owen yn darlledu bob bore ar y Post Cyntaf o Gasnewydd





Bore Gwener - a'r bore cyntaf i mi allu cyrraedd yma heb fynd ar goll rhwng Y Fenni a'r Maes.
Ond allai ddim beio'r Sanhedrin am hynny!

Ac mae hi wedi body yn werth cyrraedd yma bob dydd i gael croeso gan y tywyswyr llon yn eu crysau cochion.

Criw gwerth chweil o bobl ifainc croesawgar a pharod eu cymwynas.
Ar brawf a dalodd ar ei ganfed yw hwn.

Llwyddiant y ddiod
Ac rwy'n meddwl hefyd fod arbrawf dod ag alcohol ar y Maes wedi llwyddo er gwaetha'r codwyr bwganod.arwydd y ddiod

Dydw id dim wedi gweld neb yn feddw ar y Maes hyd yma.

Ond mi rydwi wedi gweld rhai o'n harweinwyr eisteddfodol yn bihafio fel tasan nhw wedi bod ar y pop. Yn codi eu lleisiau, yn pwyntio eu bysedd ac, ar un achlysur, yn cau dwrn wrth anghytuno â'i gilydd.

Plentynnaidd ac anghwrtais a dweud y lleiaf ac mi fyddwn i'n awgrymu iddyn nhw i gyd dreulio awry n y Babell Heddwch ar y maes efo'i gilydd heddiw i ddod at eu coed.
Neu hyd yn oed stondin UCAC lle mae rhywun yn barod i dylino pennau pobl dan straeon.

Ennill a cholli
Llongyfarchiadau rwan i Emyr Williams, gohebydd eisteddfodol y Daily Post gan y bydd, erbyn amser cinio heddiw, yn dderwydd er anrhydedd yng Ngorsedd y Beirdd.

A bu bron iddo â chael sgŵp i ddathlu'r achlysur trwy gyhoeddi ddechrau'r wythnos mai Meri Huws fyddai Cadeirydd newydd Bwrdd yr Iaith - ond daria, roedd Golwg wedi dweud yr un peth rai wythnosau'n ôl.

Tua'r goelcerth
A llongyfarchiadau i Ms Huws, hefyd.
Dyma ail gyn gadeirydd Cymdeithas yr Meri HuwsIaith i esgyn i swydd sy'n talu £31,000 y flwyddyn am ddau ddiwrnod yr wythnos o waith.

Arian, efallai, a gaiff ei drosglwyddo i goffrau gwag y Steddfod unwaith y caiff Ms Huws a chyd-gwangocrats eu taflu ar goelcerth Rhodri Morgan.

Colledion
Ac yn wir, wythnos o golledion ydi hon wedi bod i'r Archdderwydd, Robyn Llŷn.

Mae o ar fin colli'i swydd, collodd ei limpyn gyda'r Sanhedrin Eisteddfodol a chollodd eu cydymdeimlad wrth gyfeirio at foch yn sathru'r winllan.

Ond, yn bwysicach na dim, fe gollodd un o'i gyfflincs gwerthfawr o aur Tregaron ac ar ffurf draig.

Felly, ddraig fach, tyrd ynôl i liniaru hiraeth Mr Llŷn fel y galwyd o yn y Daily Post yn ystod yr wythnos.

Aros yn y cof:
A beth fydd yn aros yn y côf wrth deithio'n ôl i'r gogledd yn nes ymlaen heddiw.

Y ddau ymgeisydd am swydd yr Archdderwydd yn cerdded ochr yn ochr yng ngorymdaith yr Orsedd.

Sgwn i sut y bydd hi amser cinio heddiw pan gyhoeddir y canlyniad?

Cofio hefyd am basio y stondin leiaf ar y Maes - y stondin Materion Cymreig - a chanfod llywydd ein Cynulliad Cenedlaethol yn eistedd yn yr haul yn trefnu'r dyfodol, mae'n siwr.

A gwrando ar Rhodri ein Prifweinidog hoff yn doethinebu am lys Ifor Hael.

A meddwl; diawcs, roedd yn well gen i Rhodri y jocar a'i hwyaden ungoes na'r athronydd o hanesydd ar Faes Casnewydd.

A dyna'r lle i minnau dewi fallae.

O Barc Tredegar, ffarwel.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy