BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
6ed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Gigs: Winebago, Mozz, Jakakoyak ...

WinabegoBand cynta'r noson yn TJ's yw Winebago o Fethesda, grŵp a ffurfiwyd flwyddyn a hanner yn ôl, ac sydd wedi bod yn cael tipyn o sylw yn ddiweddar.



Fe welais i'r band yma yng nghlwb y Toucan mewn gig Abri ddiwedd Gorffennaf, a dwi ddim yn meddwl bod eu perfformiad nos Fercher cystal ag oedd e bryd hynny. Er hynny, fe fwynheais eu set, yn enwedig eu fersiwn nhw o gân Ffarout gan Ffa Coffi Pawb. Mi fyddant yn rhyddhau eu EP cyntaf - Hyder bregusar yr 16eg o Hydref ar label Rasal.

Bandiau'n rhy debyg
Dwi'n teimlo mai'r broblem yn y Sin Roc Gymraeg yw bod llawer o'r bandiau yn swnio'n debyg iawn, yn mynd i'r un cyfeiriad ac yn dueddol o sôn am yr un pethau. Mae gan Winebago rhywbeth bach ecstra i'w gynnig - dwi ddim yn siŵr beth eto, ond dwi'n gobeithio y cawn glywed llawer mwy gan y band yma, ac y byddant yn datblygu gyda'r profiad.

Ond band y noson yn bendant yw Mozz, o Aberystwyth. Ar ôl ffurfio bedair blynedd yn ôl a dod i amlygrwydd yn haf 2003, mae'r band gwych yma wedi penderfynu bod hi'n amser dod i ben. Dywedodd Dylan (ay'n chwarae'r allweddellau) am y sefyllfa;

"Mae Mozz wedi penderfynu cymryd amser allan, ac ein gig ola' ni fydd yn TJ's ar y nos Fercher yn yr Eisteddfod. Hoffwn i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth, yn enwedig y 'Khan a'n holl ffrindiau ni."

Mwy o Mozz?
Newyddion trist iawn - mae Mozz yn un o fandiau gorau Cymru, ac maent yn sicr wedi gadael eu marc ar y Sin. Ond, y newyddion da yw bod "rhywbeth yn y pipeline ar gyfer rhai aelodau Mozz yn y dyfodol agos." Gwyliwch y gofod!

Fel rhywun sydd wedi bod yn dilyn Mozz ers iddynt ymddangos haf diwethaf, dwi'n meddwl mai dyma oedd y gig gorau i mi ei weld - ac roedd Dylan yn cytuno;

"Dwi'n meddwl falle mai heno oedd ein gig gorau ni, roedd yr ymateb yn wych a'r gynulleidfa'n grêt - yn llawn o'n ffrindiau ni a phobl sydd wedi bod yn gefnogol iawn i ni dros yr amser. Roedd e'n ffordd wych i orffen."

Set yn llawn o'r ffefrynnau oedd hi - o 'Edrych ar y merched' i 'Phatt Lezz', 'Madarch Hud' ac eu fersiwn o 'Black Magic Woman' i orffen. Beth sy'n arbennig am Mozz yw eu bod nhw'n canu am yr hyn sy'n berthnasol iddyn nhw - merched, ysgol, rhieni sy'n gwneud nhw'n grac - ac mae'r gonestrwydd yma'n beth pwysig ac anghyffredin yn y Sîn Gerddoriaeth.

Cân olaf y noson yw 'Anturiaethau Ysgol Sul', sy'n cael ymateb gwych gan y gynulleidfa. Da iawn i chi Mozz, wnawn ni ond gobeithio nad hyn fydd y diwedd.

JakokoyakNesaf i ymddangos oedd Jakakoyak, ac mae'r set yn llawn o ganeuon o'i albwm gwych 'Am cyfan dy pethau prydferth'. Fy hoff gân i am y noson oedd 'Paid a gadael i nhw dynnu fi lawr'. Mae ei gerddoriaeth yn hollol chilled a phrydferth - bron yn gwneud i chi gysgu. Cymaint felly mod i yn cwympo i gysgu ac yn gorfod gadael oherwydd salwch, felly yn anffodus fe gollais y band olaf - Sherbet Antlers v. Llwybr Llaethog. Sori!

Er hynny, noson grêt!





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy