BBC HomeExplore the BBC
Er gwybodaeth, nid ydym yn diweddaru’r wefan hon mwyach. Rhagor o wybodaeth yma

LLUN
9fed Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Gigs: The Poppies, Kenavo, Frizbee, Ashokan

Clawr Hirnos gan FrizbeeYn agor gig Cymdeithas yr Iaith nos Fawrth mae The Poppies o Aberystwyth. Band arall Sam Mozz yw The Poppies, ac mae ganddo bresenoldeb da ar lwyfan, gan ddal sylw y gynulleidfa.



Dyma fand unigryw yn y Sîn Roc Gymraeg - er eu bod yn swnio fel sawl band Saesneg arall gyda 'The' yn rhan annatod o'r enw (The Strokes, The Hives ayyb) - a dylanwad Led Zeppelin yn amlwg.

Anghofio gwenu
Mae digon o fynd i'w caneuon a phwyslais ar y dryms a'r bass, a phresenoldeb yr harmonica mewn cwpwl o ganeuon (mae prinder mawr o'r offeryn gwych yma ar y Sîn Roc Gymraeg!).

Dyma fand roc sy'n llawn haeddu ei le a dwi'n edrych ymlaen at glywed mwy ganddynt.

Dwi'n teimlo ar adegau eu bod ychydig yn ddi-fflach ar lwyfan - pob un yn canolbwyntio cymaint ar eu hofferynnau fel eu bod yn anghofio gwenu a chael hwyl.
Cofier - os bydd y band yn mwynhau, bydd y gynulleidfa yn mwynhau!

Gan mai parti maes-e.com yw heno, mae'n amhosib mynd bum munud heb glywed y cwestiwn angenrheidiol hwnnw, "Wyt ti ar y maes?"! Ac mae'r band nesaf - Kenavo - yn cyflwyno Tai Haf i Nic Dafis - y dyn a ddechreuodd y wefan flwyddyn a hanner yn ôl.

Dawnus iawn
Prosiect dau frawd - Rhys a Chynan Llwyd o Aberystwyth yw Kenavo - ac mae'n amlwg bod Cynan yn MC dawnus iawn, gyda llawer o botensial - er nad yw ond yn bymtheg oed.

Dyma'r tro cyntaf i mi glywed Kenavo, a rhaid dweud fy mod i wedi fy mhlesio gan griw sy'n amlwg am gael hwyl, yn enwedig yn ystod y gân olaf lle mae Rhys Llwyd yn dod i ymuno â'r ddwy ddewr sy'n dawnsio i chwarae'r dryms.

Ar y bass mae Iestyn Jones, sydd hefyd yn chwarae bass i'r Panics, ac mae ei bresenoldeb a'i ddawn amlwg yn rhan mawr o'r perfformiad - er nad yw'n rhan flaen o'r band ar y llwyfan.

Yn dilyn bîts hip-hopaidd Kenavo mae Frizbee o Flaenau Ffestiniog.
Mae'r band yma newydd ryddhau eu albwm cyntaf - Hirnos, ac mae'r set heno'n llawn o ganeuon o'r cd yma, gyda ychydig o ganeuon ychwanegol.

Perfformiad gwych gan y band - Dora Gusan a Hirnos yn ddau o'm ffefrynnau i am y noson. Mae'n debyg bydd gan y band ep newydd allan erbyn y gaeaf - gwyliwch allan amdani.

Dawnsio'n wyllt
Ac i orffen y noson mae Ashokan, o Bontypridd. Ar ôl rhyddhau eu halbwm cyntaf Diolch am ddal y gannwyll ddechrau'r flwyddyn, mae'r band yn gweithio ar ganeuon newydd, a cawn flas ar rheina heno.

Mae gan y caneuon newydd sŵn trymach na'r rhai ar Diolch am ddal y gannwyll.

Braf clywed Y boi sydd methu ffonio nôl yn ôl yn fyw ac yn iach, ac mae'r gynulleidfa yn dawnsio'n wyllt trwy gydol y set. Mae'r band yn llawn egni heno, ond teimlaf fod y set wedi gorffen braidd yn sydyn - lle'r oedd yr encore?! Heblaw am hynny, does gen i ddim byd negyddol i ddweud am y band - na'r noson a dweud y gwir. Noson wych yn llawn o fandiau newydd, ifanc a ffresh y Sîn Roc Gymraeg - pob un ar ei orau, a'r gynulleidfa i gyd i'w gweld wedi mwynhau.

Lowri Johnston





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy