BBC HomeExplore the BBC
Er gwybodaeth, nid ydym yn diweddaru’r wefan hon mwyach. Rhagor o wybodaeth yma

LLUN
9fed Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Gigs: nos Sadwrn olaf

JavaFfordd wych o gloi'r Steddfod meddai Lowri Johnston a fu'n dilyn y gigs am wythnos i BBC Cymru'r Byd





Ar ôl ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith nos Fercher, band ifanc o Lambed, Java, sy'n agor y noson.

Gwelais y band yma yn chwarae dros flwyddyn yn ôl yng ngŵyl Miri Myrddin, a doeddwn i ddim wedi fy mhlesio ar y pryd.

Ond rhaid dweud iddynt ddatblygu llawer iawn ers hynny nes bod fel band gwahanol y mwynheais eu set yn fawr iawn.

Maent yn egniol a'u caneuon yn roc gwych sy'n ymylu ar elfen o hip-hop ar adegau.
Da iawn wir, a llongyfarchiadau iddynt.

Dwi'n edrych ymlaen at glywed mwy gan y band yma, a'u gweld nhw'n datblygu ymhellach.

Fy mhlesio
NAR sy'n dilyn. Rhaid cyfaddef nad ydw i'n gwybod llawer am y band yma.

NARDyma'r tro cyntaf imi eu gweld yn fyw a chefais fy mhlesio - caneuon da a digon o amrywiaeth.

Mae ganddynt albwm newydd allan o'r enw Narmagedon, sy'n swnio'n gret ac yn un gwerth ei phrynu.

Fersiwn grêt
Dyma'r ail dro i mi weld Winebago wythnos yma, a set dda iawn arall - reit debyg i nos Fercher.

Unwaith eto, uchafbwynt y set i mi yw Ffarout - eu fersiwn nhw o gân Ffa Coffi Pawb.

Winebago Dyma'r unig gân sydd wir yn aros yn fy nghof - dwi ddim yn siŵr os ydy hyn yn beth da achos nid eu cân nhw ydy hi, ond mae'n fersiwn grêt ta beth.

Mi fydd y band yn rhyddhau eu EP cyntaf - Hyder Bregus - ar Hydref 16, ac edrychaf ymlaen yn eiddgar at hyn.

EP newydd
Noson lansio EP newydd Anweledig - Byw - yw hi heno, ac mae'r band yn hwylus ac yn llawn egni fel arfer! Ceisiwch gael gafael ar gopi o'r ep achos mae'n grêt!

Mae'r lle yn llawn (gyda 500 o docynnau wedi eu gwerthu mae'n debyg!) ac mae'n danbaid ar y llawr ddawnsio.

Er hyn, mae pawb dal i ddawnsio'n wyllt ac i fwynhau mas draw! Graffiti Cymraeg oedd yr uchafbwynt i mi dwi'n meddwl - a Sosban Fach wrth gwrs! Ceri C yn llawn egni fel arfer ac yn ein diddanu am y set gyfan. Gwych!

Ffordd grêt o orffen yr Eisteddfod, diolch i Gymdeithas yr Iaith am y gigs gwych trwy gydol yr wythnos!





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy