BBC HomeExplore the BBC
Er gwybodaeth, nid ydym yn diweddaru’r wefan hon mwyach. Rhagor o wybodaeth yma

SADWRN
18fed Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Gigs: nos Wener

PanicsLowri Johnston yn drist yn Noson olaf y Panics gyda Mim Twm Llai a Meic Stevens.





Eryr - band o Ben Llŷn sy'n agor gig Nos Wener Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod. Oherwydd bysiau araf, dwi'n colli rhan fwyaf o'u set ond yn gweld eu cân olaf - Gwenu ar Dduw.

Dyma fand addawol iawn, gyda gitarydd gwych a llawer iawn o botensial.

Noson drist
Gig olaf Y Panics yw hi heno, ac felly mae'n noson drist iawn i'r ffans hardcore yn y gynulleidfa! Mae'n set sy'n llawn o'r ffefrynnau - er, dwi ddim yn siŵr o ddechrau'r set gyda Byth mynd i newid gan ei fod yn rhy araf, a ddim yn dal sylw y gynulleidfa. Plentyndod sydd i ddilyn, sy'n gân hollol ffantatsig am golli plentyndod.

Fflur sy'n chwarae'r gân yma'n acwstig, a dyw ei llais ddim yn un cryf iawn, yn enwedig dros gleber y gynulleidfa.

Dwi ddim yn deall pam mae pobl yn talu i fynd i weld gigs os am eistedd yno'n siarad yn uchel ac anwybyddu'n llwyr beth sy'n digwydd ar y llwyfan.
Prin oedd hi'n bosib clywed Fflur dros yr holl sŵn, ond mae pethau'n dechrau gwella wrth i ganeuon gyda mwy o egni yn perthyn iddynt gael eu chwarae.

Er mai dyma gig ola'r band, dyw pob aelod o'r band ddim yn bresennol - gydag absenoldeb Iwan Evans ar y Sacsaffon a Nia Medi yn canu.

Ond, mae Fflur yn ddigon abl i gymryd yr awenau, ac yn ein harwain trwy set gyfan o ganeuon gwych megis Dyn Tywydd, Dinas, Mr Bean Machine, Elin Royles a fy ffefryn i (fel brodor o Gaerfyrddin), sydd am ferched siop sglodion yng Nghaerfyrddin.

Reit emosiynol
Mae'r gân olaf yn reit emosiynol - yn enwedig i bobl fel fi sydd wedi bod yn dilyn y band yma ers oesoedd! Mae'n gymaint o drueni eu bod yn dod i derfyn, does dim band tebyg iddynt ar y Sîn ar hyn o bryd, ac mae grwpiau gyda merched yn sylfaen iddynt yn bethau prin iawn yng Nghymru. Anioddefol sydd i orffen, ac mae pawb yn dawnsio'n wyllt. Pob lwc i aelodau'r band - gan obeithio nad hwn fydd y diwedd.

Dim byd syfrdanol
Mim Twm Llai sydd i ddilyn - set da, ond dim byd syfrdanol. Mim Twm Llai Tafarn yn Nolrhedynyn uchafbwynt i mi, ac mae'r set yn llawn o ganeuon o'i albwm O'r Sbensh.

Meic ar ei orau
Ac yna'r Brawd Hwdini ei hun - Meic Stevens - i orffen. Yn wahanol i'r tro dwetha' i mi ei weld yng Nghlwb y Quins yng Nghaerfyrddin, mae ar ei orau heno, yn llawn hwyl ac i'w weld yn mwynhau ar y llwyfan.

Meic StevensEr hynny, dyw e ddim yn dod yn ôl am encore er gwaetha' gofynion y gynulleidfa. Mae diffyg Ysbryd Solfa hefyd yn siom, ond mae'n chwarae'r Brawd Hwdini sy'n wych.

Noson dda iawn, gyda amrywiaeth o fandiau - o'r hen i'r ifanc - yn plesio'n arw.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy