BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SADWRN
5ed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
'Y Byd - safon nid ffrwcs'

Y BydAnogaeth i fynd allan i genhadu ac i efengylu dros Y Byd a gafwyd gan Huw Edwards ddydd Iau.






Anogaeth hefyd i fuddsoddi yn y papur newydd dyddiol Cymraeg sydd ar y gorwel.
"Ac os na allwch chi fforddio buddsoddi i danysgrifio o leiaf."

Yn annerch cynulleidfa yn y Babell Lên dywedodd Mr Edwards fod yn rhaid i'r "cyfle mawr olaf hwn i sefydlu papur dyddiol Cymraeg" lwyddo a galwodd ar y gynulleidfa i anwybyddu y rhai hynny sy'n codi pob math o ofnau a darogan pob math o anawsterau ynglŷn â'r fenter.

"Mae yna unigolion yng Nghymru - wnai mo'u henwi nhw - sydd bob amser yn barod i ladd ar brosiectau fel hyn - ond rhaid eu hanwybyddu," meddai.

Galwodd hefyd am sicrhau y bydd Y Byd, pan y'i cyhoeddir yn bapur "safonol.

"Rhaid iddo fod yn bapur y bydd pawb yn cydnabod ei fod yn safonol - nid yn ffrwcs," meddai.

Yn safonol, ychwanegodd, o ran ei iaith ac o ran ei newyddiaduraeth.

"Dylai'r papur hwn fod yn anelu at y safon uchaf a gwneud hynny yn gwbl falch ac yn agored," meddai.

Ond pwysleisiodd nad yw bod yn safonol yn golygu na fyddai'n apelio at "bob math o bobl".

Gwadodd Mr Edwards hefyd na fyddai Y Byd yn "disodli" cyhoeddiadau Cymraeg eraill fel mae rhai yn ofni.

Yn hytrach, bydd yn creu marchnad newydd iddo'i hun.

Anfonodd y gynulleidfa o'r Babell Lên gyda'r anogaeth i fod yn "gyfeillion" i'r Byd "ac os yn gallu fforddio hynny, yn fuddsoddwyr."

Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd sôn wrth eraill am y fenter ac "efengylu" drosto a "thaenu'r neges" amdano.

"Mae'n allweddol bod y cyfle mawr olaf hwn i sefydlu y papur dyddiol Cymraeg yn llwyddo a dyna pam ei bod yn bwysig fod y genedl yn cefnogi y fenter hon," meddai.

"Mae angen inni efengylu yn ein ffordd ein hunain o safbwynt Y Byd a pheidio â gwrando ar y sawl sydd yn gweld problemau," meddai.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy