BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SADWRN
5ed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Dyddiadur: fore Gwener

Lowri Johnston - gigwraigDyddiadur dyddiol Lowri Johnston o Faes B a gigs y Steddfod

Ar ôl treulio'r noson yng Nghaerdydd nos Fercher, dwi'n teimlo llawer yn well dydd Iau. Mae'n syndod cymaint o wahaniaeth mae noson dda o gwsg yn gwneud i rywun! Felly dwi'n ceisio ffeindio fy ffordd yn ôl o Gaerdydd - dwi'n casáu dreifio mewn dinasoedd ac ar y draffordd - felly dwi ddim yn mwynhau'r siwrnau o gwbl.

Yn syth i faes yr Eisteddfod ar ôl dychwelyd, gweithio tan dri unwaith eto ac yna draw i weld gem bêl droed rhwng Cymdeithas yr Iaith a bandiau y Sîn Roc Gymraeg, ac mae'n gêm ddiddorol a dweud y lleiaf.

Dwi ddim yn gwybod llawer am bêl droed, dwi ddim am esgus mod i, ond dwi'n gwybod digon i wybod bod Cymdeithas yr Iaith wedi ennill o saith gôl i bump! Llongyfarchiadau iddynt...

Am dro o gwmpas maes yr Eisteddfod wedyn. Mae llawer o stondinau diddorol ar y maes, ond dwi'n teimlo bydd angen wythnos gyfan arall arna i er mwyn cael cyfle i'w gweld nhw gyd!

Profi gwaed
Dwi'n casáu gwaed, ac yn casáu nodwyddau gyda chas perffaith. Er hynny, dwi'n cael fy mherswadio i gael fy ngwaed wedi profi i weld pa grŵp gwaed sydd gen i. Mae'r nodwydd yn fach iawn iawn (iawn) - a dweud y gwir, dwi ddim yn siŵr os dwi'n cael ei alw yn nodwydd gan ei fod mor fach, ond dwi am wneud er mwyn fy ngwneud i deimlo'n well mod i wedi bod yn ferch ddewr!

Felly, dyna fi, yn eistedd ar y gadair gyda fy mys bawd yn barod i gael ei bigo a nghalon yn curo ffwl pelt. Cau fy llygaid yn dyn, ac yn gweddïo i Dduw na fydd y dyn yn dwyn fy ngwaed i gyd. Un pigad bach, ac mae popeth drosodd. Agor fy llygaid a dwi dal yma, mae fy mawd dal yn sownd i'm llaw, ac yn bwysicach fyth, dwi'n cymryd bod gen i waed ar ôl! Y cam nesaf fydd rhoi gwaed...

Mae'n debyg mai O negatif yw fy ngrŵp gwaed, a dwi'n cael daliwr allweddu bach del i ddangos i'r byd. Ar ôl yr holl ddewrder, dwi'n teimlo mod i'n haeddu sglodion, felly draw i nôl bwyd. Dwi bron â chael harten pan mae'r dyn wrth y cownter yn gofyn am £4 am sglodion a 3 darn o chicken nuggets (dylanwad fy ffrind sy'n Gardi) a dyna fy arian am y dydd wedi mynd!

Mynd i bwdu yn y babell roc am ychydig, ac yn gweld Meic Stephens yn chwarae set wych. Mae e'n llawn hwyl, er ei bod yn danbaid yn y babell, ond mae'n werth berwi yno i glywed 'Ysbryd Solfa'.

Yn ôl i'r babell wedyn, a gorwedd yn yr haul am ychydig o oriau gan drafod pa gig i fynd i weld heno. Cymdeithas yr Iaith sy'n mynd â hi yn y diwedd, er bod y gig yn TJ's yn ein denu gan fod Drumbago, Mwsog, Cate Timothy a'r Poppies yn chwarae yno. Ond, y peints rhad a Pep Le Pew, Lo-Cut a Sleifar a Jakakoyak sy'n mynd â hi, felly draw i Glwb Pont Ebwy.

Noson wych, ac o fewn dim mae'n amser dychwelyd i'r maes pebyll, ac ar ôl tipyn o drafferth i ddod o hyd i'r babell (dim fy mai i - gormod o bebyll newydd wedi cyrraedd yn ystod y dydd), rydyn ni'n mynd draw at y goelcerth gan aros yno tan oriau mân y bore, ac mae'n dechrau goleuo wrth i ni gropian draw at y babell.

Diwrnod diddorol iawn, dwi methu credu pa mor gyflym mae'r wythnos yn hedfan, gyda dim ond dwy noson ar ôl!





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy