BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
6ed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Dyddiadur: bore Sul

Dyddiadur dyddiol olaf Lowri Johnston am yr wythnos o Faes B a gigs y Steddfod.






Diwrnod olaf yr Eisteddfod!
Dwi methu credu pa mor gyflym mae'r wythnos wedi hedfan a chyn lleied o amser sydd ar ôl cyn dychwelyd i realiti!

Dwi ddim yn gorfod gweithio heddiw, felly dwi'n cysgu ychydig yn hwyr, ond gan ei bod yn danbaid yn y babell ni allaf aros ynddi'n rhy hir.

Cawod griced
Dwi'n osgoi'r ciw am gawod ar y Maes Ieuenctid ac yn cerdded draw i'r Clwb Criced gerllaw, lle mae'n bosib cael cawod am ddim - chware teg i bobl y Clwb!

Teimlo llawer yn well ar ôl cael cawod ac yn y prynhawn rydyn ni'n teithio draw i Glwb Pont Ebwy i far Abri er mwyn ymlacio yn yr haul gyda pheint o seidr oer wrth wrando ar Aun Tan Lan yn gwneud set acwstig - hyfryd!

Rydyn ni'n aros yno nes i gig y noson ddechrau drws nesaf yn y Clwb.

Mae'r tocynnau wedi'u gwerthu i gyd ac mae'n noson wych, ond dwi wedi blino cymaint erbyn y diwedd, ac mae'n berwi yn y gig gan fod y lle yn orlawn o bobl feddw a chwyslyd yn dawnsio'n wyllt! Joio!

Doniolwch
Allan i aros am fws y Tafod felly, sy'n rhedeg rhwng y Maes Ieuenctid a gigs y Gymdeithas, ond rydyn ni'n penderfynu mynd i nôl bwyd Tsieiniaidd tra'n aros, mewn lle o'r enw'r Wui Wui - enw sy'n ein diddanu am oriau (oce, falle i'r alcohol ei wneud yn ddoniolach!).

Ond, wrth adael y Wui Wui gyda ein Wui Wui Special (!), rydyn ni'n cymryd y tro anghywir ac yn mynd ar goll mewn stâd o dai yng Nghasnewydd.
Am ffordd i orffen Steddfod!

Chwarae teg, cawsom gymorth gan y bobl leol a ddangosodd y ffordd gywir inni. Dal tacsi yn ôl wedyn, wrth inni golli'r bws olaf yn ôl i'r Maes Ieuenctid, ac yn syth i'r Gorlan am gwpanaid o de!

Mae'r lle'n llawn - mae cymaint mwy o bobl yma nawr nag oedd ar ddechrau'r wythnos.

Gan ei bod hi'n noson olaf - pa ffordd well i orffen na mynd i eistedd o gwmpas y goelcerth?! Fel pob noson arall ynte!

Dydy hi ddim yn arbennig o brysur o gwmpas y tân a dweud y gwir a dwi'n ei chael hi'n anodd iawn i gadw fy llygaid ar agor, ond dwi'n goroesi tan tua pump y bore ac yna mae'r gwely'n galw - am y tro olaf am flwyddyn arall!

Llwyddiant mawr
Mae wedi bod yn Eisteddfod wych - er yn wahanol i'r rhai blaenorol, gyda diffyg Maes-B ar y Maes Ieuenctid.

Dwi ddim yn meddwl i hynny wneud cymaint o wahaniaeth â hynny a dweud y gwir gan i'r gigs i gyd fod yn llwyddiant mawr.

Teimlaf, er hynny, i bobl fod yn fwy tueddol o aros ar y Maes Ieuenctid am y noson yn lle mynd i gigs, gan eu bod yn bell.

Roedd hyn yn sicr yn wir ar ddechrau'r wythnos - efallai ddim cymaint erbyn y diwedd.

Byrgyrs neisia yn y byd
Rhaid diolch i bawb am wneud yr Eisteddfod yn gymaint o lwyddiant - yn enwedig y Gorlan am y te, y pot nwdls a'r byrgyrs neisa' yn y byd!

Bu cymaint o uchelbwyntiau yn ystod yr wythnos fel na allai'u rhestru nhw i gyd!
Hwyl am flwyddyn arall... Fe'th welaf chi oll yn y Faenol flwyddyn nesaf!





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy