BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SADWRN
5ed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Nodiadau: Sadwrn - Sul

Cysgodi dan y deriDan y deri rhag y gwres
A hwythau rywle rhwng Tyddewi a Meifod roedd ffigurau diwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd o 16,000 yn llawer mwy calonogol nag yr oedd neb wedi'i ddarogan.



A chyda heulwen haf toesi'r maes yr oedd arwyddion prysurdeb yn gynnar ar Barc Tredegar fore Sul hefyd ac erbyn diwedd dydd yr oedd 14,000 wedi ymweld - gwelliant sylweddol ar yr 11,000 yn Nhyddewi a Meifod.

Plant Cymraeg
Gan adlewyrchu natur yr ardal yr oedd cyfran o'r ymwelwyr yn Gymry di-Gymraeg lleol; yno i hebrwng eu plant Cymraeg a gymerai ran mewn gwahanol weithgareddau.

"Can I look at my Hwiangerddi book when we get to the car?" holai un ferch fach ei rhieni wrth gerdded at y meysydd parcio nos Sadwrn.

Colli blodau
Yn y pafiliwn mawr ei hun gall cystadleuwyr sy'n dioddef o aflwydd y paill chwarae eu rhan yn ddibryder gan fod hon yr Eisteddfod gyntaf heb ardd o flodau o flaen y llwyfan.

Elfed RobertsEglurodd Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, mai'r rheswm am hynny yw i "set" y llwyfan gael ei newid eleni er mwyn i'r gynulleidfa weld yn well beth sy'n digwydd yno.

Un o ganlyniadau hynny, fodd bynnag, fu gorfod chwynnu'r blodau a fu'n harddu blaen y llwyfan dros y blynyddoedd.

Symud cymanfa
Rhywbeth arall sy'n debyg o ddiflannu maes o law ydi'r Gymanfa Ganu draddodiadol ar ail nos Sul yr Eisteddfod.

Wel, nid yn gymaint ddiflannu ond symud - i'r nos Sul gyntaf fel y bydd yr Eisteddfod yn cyrraedd uchafbwynt y cloi ar ei hail nos Sadwrn ac eisteddfodwyr yn gallu cychwyn am adref ddydd Sul.

Agoriadol
Does yna ddim bwriad, fodd bynnag, i roi'r farwol i'r cyngerdd a'r seremoni agoriadol ar nos Wener yn ôl Dafydd Whittallis gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, Dafydd Whittall, er mai ond mymryn dros fil a'i mynychodd eleni.

Y rheswm am hyn yw fod yr Eisteddfod yn awyddus i gael y gweithgareddau agoriadol o'r neilltu a bwrw iddi'n syth gyda'r cystadlu fore Sadwrn cyntaf yr Wyl.

Stiwardio amyneddgar
Efallai ei bod yn rhy gynnar i ganu clodydd yn rhy uchel mor gynnar yn yr wythnos ond yr argraff mae rhywun yn ei gael yw fod y drafnidiaeth eisteddfodol yn llifo'n eithriadol o hwylus - er mai bore a nos Lun fydd y prawf go iawn cyntaf.

Yn y meysydd parcio eu hunain canmolodd mwy nag un hynawsedd y stiwardiaid.

Mae eu hir amynedd a'u dawn i frathu tafod hefyd yn destun edmygedd wrth iddyn nhw drafod yr unigolion hunanol hynny sy'n teimlo eu bod nhw yn haeddu lle gwell, a nês, na phawb arall i barcio gan greu ciwiau wrth ddadlau'u hachos gyda stiward.

Fel yr awgrymodd Hywel Gwynfryn mae angen arwydd clir yn gorchymyn gyrwyr i barcio'n syth ac yn ddiddadl lle maen nhw'n cael eu rhoi.

"Lle i barcio ydi maes parcio," meddai, "ewch i'r Maes i siarad!"

Yng nghysgod pîn
Llygedyn o haul ac mae'r proffwydi tywydd amatur yn darogan Meifod arall o ran haul a gwres yng Nghasnewydd.

Ond beth bynnag y gwres bydd Parc Tredegar yn brafiach lle na Maes Mathrafal y llynedd - oherwydd bod yno goed i gysgodi oddi tanynt rhag yr haul.

Cysgod rhag haulYn barod mae pobl wedi bod yn bachu seddau am sgwrs dan gysgod y deri a'r pîn lle mae'r awel yn feinach a'r tymheredd yn ffeinach.

Hen, hen gynneddf fel y dynfa honno at lannau dyfroedd.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy