BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

LLUN
7fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Nodiadau: dydd Mercher

Nodiadau dyddiol o Faes Prifwyl Casnewydd

Y ffraeo'n parhau






Dyw hi ddim yn edrych fel pe byddai'r cymylau yn debyg o godi oddi ar yr ymrafael rhwng yr Archdderwydd a gweddill yr Eisteddfod.

Cychwyn pethau oedd yr Archdderwydd yn dyfynnu geiriau Saunders Lewis am foch a gwinllan yng nghyswllt Cyngor yr Eisteddfod.

Y cam nesaf oedd Llywydd y Llys ac aelod o'r Cyngor, R Alun Evans, yn ceryddu Mr Lewis a galw am ymddiheuriad ganddo am ei alw o a'i debyg yn foch.

Yr Archdderwydd wedyn yn taro'n ôl gan ddweud iddo gael ei frifo gan ymateb penaethiaid Steddfodol i'w sylwadau.

"Bu un neu ddau ohonyn nhw yn arbennig o ffiaidd eu beirniadaeth," meddai heb enwi neb gan ychwanegu i un fod â'r wyneb i ofyn am ymddiheuriad cyhoeddus yng nghyfarfod yr Orsedd ddydd Gwener.

"Ond does gen i ddim i ymddiheuro amdano," meddai.

Yn wir, mae o wedi gwadu mai at Gyngor yr Eisteddfod yr oedd yn sôn wrth ddefnyddio'r gair "moch" yn y dyfyniad o waith Saunders Lewis.

"Os yw aelodau'r Cyngor yn teimlo mai atyn nhw yr oeddwn yn cyfeirio maen nhw'n groendenau iawn gan orfodi rhywun i feddwl a oes ganddyn nhw rywbeth i'w guddio," meddai gan ychwanegu ei bod yn sefyllfa ryfedd iawn pan yw'r Archdderwydd yn cael ei feirniadu am ddyfynnu Saunders Lewis o bawb.

Un o ganlyniadau hyn oll yw bod mwy o edrych ymlaen nac arfer at gyfarfod nesaf yr Orsedd ddydd Gwener - diwrnod olaf Robyn Lewis fel Archdderwydd a'i gyfle olaf i daro n- neu dalu'n ôl.< b>Fflagio
Gallai fod yn waith difyr, os nad buddiol, i rywun: cyfrif faint o faneri banc yr HSBC sy'n cwhwfan ar y Maes.

Mae'n ymddangos fod baneri'r banc hwn yn fwy niferus na rhai neb arall ar y Maes.

Ac maen nhw wedi codi'r cwestiwn - beth a ddigwyddodd i faner yr Eisteddfod.

Mae rhai yn cofio, yn ôl yn y dyddiau pell pan oedd arian yn y coffrau, yr Eisteddfod yn talu rhai miloedd ar bunnau i rhyw gwmni am ddyfeisio baner gyda'r llythyren E ( am Eisteddfod) arni i'w chwhwfan uwchben y pafiliwn.

Baner heddiwOnd welwyd mohoni ers rhai blynyddoedd bellach.

Myni wel sbent a defnyddio idiom farddol ac arian y byddai'r steddfod yn falch iawn o'i gael heddiw.


Hanfod pob papur newydd yn ôl ambell un ydi croesair da.

A'r hyn maen nhw'n i feddwl wrth groesair "da" ydi un sydd ddim yn rhy hawdd i'w wneud.

Yn ôl hynny mae croesair y sampl o bapur newydd dyddiol Y Byd sy'n cael ei rannu am ddim ar y Maes yn un o'r croeseiriau gorau a welwyd erioed yn y Gymraeg gan beri i groeseirwyr brwd dynnu gwallt eu pennau mewn rhwystredigaeth.

Hynny, nid yn gymaint am fod y cliwiau yn astrus a chlyfar ond oherwydd bod yna gliwiau ar gyfer sgwariau nad ydynt yn bod a sgwariau heb gliwiau nad ydynt yn bod - neu rhyw ddryswch croeseiriol tebyg.

Fel y dwedodd un croeseiriwr: "Hyd yn oed os bydd Y Byd yn dod allan yn ddyddiol mi gymrith wythnos i wneud y croesair a fydd raid iddyn nhw byth dalu gwobr gan ei bod yn amhosib ei orffen beth bynnag!"

Newid cystadleuaeth
Un o gystadlaethau rheolaidd yr Eisteddfod Genedlaethol yw un "Tlws Sefydliad y Merched".

Ond heddiw clywyd rhywun yn awgrymu tybed na fyddai cystadleuaeth Sefydliad y Merched Tlws yn fwy diddorol!





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy