BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

LLUN
7fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Nodiadau: Mawrth

Nodiadau dyddiol o Faes Casnewydd.
Creu hanes a chwilio am feirdd del






Beirdd del
Y cwestiwn yr oedd rhai yn ei ofyn fore Mawrth oedd; ai Jason Walford Davies yw'r prifardd mwyaf hawddgar ers blynyddoedd.

Barn rhai o'r merched mai ef yw ond yr oedd eraill o'r farn fod Ceri Wyn Jones yn rhagori.

Hyd y gwyddom dydi'r pwn ddim i lawr i'w drafod ar raglen y Babell Lên.

Ond mae'n ddifyrrach na sawl peth sydd.

Rhaglen sâl
Dau beth sy'n digwydd ar drydydd diwrnod yr Eisteddfod. Mae'n dechrau glawio ac mae Rhaglen y Dydd yn dechrau datgymalu.

Hynny yw, os ydych ddigon ffodus i fod yn berchen Rhaglen.

Er mai ond dydd Mawrth yw hi a mwy o Steddfod o'n blaenau nag sydd tu ôl inni mae copïau o raglen y Dydd yn brinnach na phupur a dim un ar werth ar y Maes.

Yn anffodus, arwydd yw hyn fod llai wedi eu hargraffu yn hytrach na bod mwy yn prynu.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, mai ond 3,000 a argraffwyd eleni o gymharu a'r 6,000 arferol oherwydd eu bod yn hwyr yn cael paratoi yn dilyn newid staff.

Ychwanegodd mai 'gliw gwyrdd' sy'n peri iddyn nhw ddatgymalu mor sydyn a bod hon yn broblem mae'r Eisteddfod yn ceisio'i datrys.

Cau'n gynnar
Un o'r rhesymau dros gynnal prif seremonïau yr Eisteddfod yn hwyr yn y dydd yn hytrach nag oddeutu dau o'r gloch y pnawn fel ers talwm oedd i gadw pobl ar Faes y brifwyl yn hirach.

Ac efallai eu bod yn gwneud hynny ond ni ellid peidio â sylwi yn ystod seremoni'r Coroni ddydd Llun gymaint o stondinau oedd wedi cau eu drysau a noswylio.

Ailadrodd
Mae'n ymddangos bod hanes yn ailadrodd ei hun yn Eisteddfod Casnewydd.

Pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn y gornel hon o Went yn 1988 y darogan a'r cwyno oedd na fyddai fawr neb yn teithio cyn belled.

Fodd bynnag, dangosodd y bobl leol gymaint o ddiddordeb yn ystod y dyddiau cyntaf y perswadiwyd eraill i deithio o bellafoedd Cymru o ganol yr wythnos ymlaen gan ei gwneud yn Eisteddfod hynod lwyddiannus o ran niferoedd a dylanwad.

Ac yn wir, mae'r un peth i'w weld yn digwydd eto. Y darogan gwae a'r ymwelwyr lleol niferus dros y Sul gyda'r ffigurau hyd yn hyn yn cystadlu'n dda a'r llynedd ac yn well na thair blynedd yn ôl.

"Mae'r ffigurau yn galonogol iawn," meddai R Alun Evans wrth dynnu sylw at yr ailadrodd diddorol hwn.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy