BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SADWRN
5ed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Barddoniaeth y cwrw

Catrin a Sian wrth y bar"Dydio'n beth braf medru trafod pethau yn y Steddfod dros beint fel hyn?"






Cafodd y bar ar faes yr Eisteddfod gymeradwyaeth frwd bardd cadeiriol y llynedd, Twm Morys a oedd ymhlith y fintai gyntaf ar y maes i godi'r bys bach ddydd Sadwrn.

Iechyd daA pha gwmni gwell iddo na phrifardd arall, Myrddin ap Dafydd, un o'r beirniaid a swynwyd gan awdl Twm y llynedd a'r ddau yn rhagweld llwyddiant mawr i'r fenter newydd hon.



Lleoli da
Byddai ambell i sinig yn dweud fod y ddau far ar y maes wedi'u lleoli gyda rhywfaint o ddoethineb - y drws nesaf i'r Babell Lên - lle'r oedd Twm a Myrddin yn oelio'r awen, a'r llall y drws nesaf i safle'r BBC.

Ond un peth yw lleoliad peth arall yw cynnyrch - a chafodd lager Carreg - oedd ar werth gyda'r Guinness a'r Carlsberg a'r Brains SA - ganmoliaeth hael Phillip Evans o Benybont-ar-Ogwr yr oedd ei wraig yn derbyn tystysgrif ym Mhabell y Dysgwyr ddydd Sadwrn.

PhillipYn ddi-Gymraeg dywedodd Phillip mai dyn cwrw yn hytrach na lager yw ef ond fod i Carreg flas digon chwerwaidd gan beri ei fod yn apelio at ddant yfwyr cwrw hefyd.

"Mae 'da fe ben da ac mae'n ffres a blas rhywfaint yn Almaenaidd arno fe," meddai wedi ei lwnc ystyriol cyntaf.

Efallai nad oedd ei eiriau yn farddoniaeth ond yr oeddan nhw yn siwr o fod yn fiwsig i glustiau eraill sy'n debyg o hel wrth y bar a chanmolodd Myrddin a Thwm, hwythau, ansawdd y Guinness.

Maen nhw wedi addo cyfraniad barddonol am y bar i Gymru'r Byd cyn diwedd yr wythnos - wrth i'r awen chwyddo a'r Guinness dreiddio.

Yn y cyfamser, trosglwyddodd Twm englyn am gwrw Steddfod gan Hwfa Môn i'n hytyriaeth:
Ai gwyl maent yn ei galw? - Gwyl yfed
Gwyl ofer y cwrw,
A'r gynghanedd yn feddw,
Araf y llusg, ar fy llw!

"Saith marc," meddai Myrddin.

Medd-ygol!
A "reit brysur," oedd disgrifiad Catrin Edwards y tu ôl i'r bar fore Sadwrn. Yn dod o Landdona, Sir Fôn, mae hi yn astudio Cymraeg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd pan nad yw yn gwneud gwaith buddiol fel hyn.

DisgwylGyda hi y tu ôl i'r bardd roedd Sian Williams o Ddinbych sy'n fyfyrwraig meddygaeth yng Nghaerdydd.

Bydd sawl un o selogion y bar yn falch o dderbyn ei ffisig hi yn ystod yr wythnos!
Iechyd da.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy