BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SADWRN
5ed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Adolygiad: Ar y ffin

Aron Elias yn rapioFe gafwyd gornest rhwng pedwar o feirdd dinesig Cymru a thri o rapwyr blin y sîn roc Gymraeg ar nos Fercher y Steddfod.

Roedd noson Ar y Ffin wedi ei threfnu gan yr Academi a'i hysbysebu fel noson i weld 'beirdd yn ymrafael ag artistiaid hip-hop'. Camwch i law chwith y llwyfan MC Saizmundo, MC Sleifar ac Aron Elias, camwch i'ch seddi ar y llaw dde, Emyr Lewis, Grahame Davies, Elinor Wyn Reynolds a Lisa Tiplady.

Roedd y gynulleidfa'n disgwyl gornest galed - roedden nhw eisiau gweld gwaed geiriol ar y carped, dyrnau dychan yn cael eu taflu, sgarmes syniadol rhwng y beirdd 'sidet' (disgrifiad Emyr Lewis ei hun) ac angry young men y rantio a'r rhegi.

Chafwyd mo'r ymryson byr-fyfyr rhwng y ddwy grefft 'roedd llawer wedi ei ddisgwyl ond roedd 'na densiwn cystadleuol rhwng y ddau griw, fymryn yn nerfus, ar y llwyfan.

MC Saizmundo daflodd y dwrn cyntaf drwy fachu'r meic a gorchymyn i'r beirdd eistedd i lawr yn barod i wrando arno'n bwrw ei lid yn erbyn y byd i guriad y bît. Cymerodd ei sweips arferol at y cyfryngis arferol ac roedd yn sicr yn edrych yn flin, ond er gwaethaf ei haeru a'i herio daeth Emyr Lewis yn ôl efo reflex action effeithiol yn reit gynnar yn y frwydr gan dynnu rhywfaint o'r gwynt cychwynnol o hwyliau'r hip-hopwyr.

MC Saizmundo yn gorffen eu rap cyntaf Wedi i Saizmundo orffen ei gân, cododd y Prifardd at y meic a chyhoeddi mewn llais pwyllog: "Wel, roedd 'na rywbeth reit neis am y gân yna yndoedd? Chwarae teg iti ngwash i!".

A dyna osod y cywair am weddill y noson gyda'r beirdd a'r rapwyr yn cyflwyno eu gwaith am yn ail ar lwyfan Clwb Whiteheads, Casnewydd. Galwodd Sleifar y beirdd yn depressing a chyflwynodd her i Grahame Davies godi ar ei draed i rapio, ond cadwodd y beirdd eu pennau drwy daflu sylwadau nawddoglyd at y rapwyr, fel egluro ystyr y geiriau 'llyfr' a 'chynghanedd' iddyn nhw.

Doedd dim amheuaeth nad oedd y beirdd yn teimlo dan fygythiad gan y tri young pretender ymosodol, oedd wedi dod i chwilio am ffeit. Roedden nhw wedi dod i'r frwydr gyda'u harfau yn barod i herio'r beirdd a'u statws uwch o fewn y diwylliant Cymraeg traddodiadol. Ar y dechrau roedd yn ymddangos bod egni ansefydlog y rapwyr yn mynd i fynd â'r dydd, ond cadwodd y beirdd eu cŵl - gan orfod gweithio'n galetach i ennill ffafr y dorf heb gimics eu gwrthwynebwyr.

Elinor Wyn Reynolds yn darllen ei gwaithFe gafwyd hiwmor a llinellau cofiadwy gan y ddwy ochr: rant Sleifar yn erbyn cyfforddusrwydd Cymry'r Brifddinas sy'n 'darllen Barddas tra'n bwyta Tapas' a'i fygythiad i fynd i Bontcanna i losgi 'Cameo man' ar un llaw, a llinellau mwy myfyrgar, ond yr un mor fachog, y beirdd nad oedd ganddyn nhw ofn gwneud hwyl am ben eu delwedd mwy traddodiadol ddosbarth canol.

Ond er gwaethaf y gwahaniaethau ymddangosiadol rhwng y ddwy garfan yr un oedd eu testunau ar y cyfan - y Fro Gymraeg, euogrwydd o fyw yng Nghaerdydd, y de a'r gogledd, y cyfryngau, y Cynulliad, cyfforddusrwydd bywyd dosbarth canol, ac yn y blaen.

Daeth yn amlwg fod y ffin rhwng y ddwy grefft, fel yr awgryma teitl y noson, yn denau iawn. Y farn gyffredinol oedd mai'r arddull yn unig oedd yn wahanol rhyngddyn nhw mewn gwirionedd. Pe bai rhai o'r beirdd wedi adrodd eu gwaith i fît ac wedi magu ychydig o 'agwedd', fydden nhw ddim mor wahanol â hynny i'r rapwyr (gorau oll pe baen nhw'n gwisgo cap pêl-fasged o chwith am eu pennau hefyd). Ac, heb drimings y rhegi, y bîts a'r rantio, fyddai gwaith rhai o'r rapwyr ddim yn hollol allan o'i le mewn noson gaws a gwin o ddarllen barddoniaeth.

Roedd y farn am bwy wnaeth 'ennill' yn gymysg - rhai'n credu bod herio hyderus y rapwyr wedi chwalu ceidwadaeth y beirdd, eraill yn credu bod cynildeb a hunan-reolaeth y beirdd wedi cario'r dydd yn erbyn act mwy un-dimensiwn ymfflamychol y rapwyr. Y farn, ar y cyfan, oedd bod y rapwyr yn fwy adloniannol ond y beirdd efallai'n aeddfetach yn eu mynegiant.

Roedd y diolch am hyn yn bennaf i Emyr Lewis oedd yn feistrolgar yn ei put downs i lifeiriant angstaidd y rapwyr: "Mae 'na rywbeth i'w ddweud am gynildeb yn does?" meddai â'i dafod yn ei foch ar ôl un perfformiad gan Aron. Ac roedd ei gerdd ddychan i rant y rapwyr a'i gerddi, yr un mor ddychannol, i'r bardd dwys traddodiadol - Ynof a Marwnad Galar - hefyd yn feistrolgar.

Efallai mai ganddo fo y cafwyd y clyfrwch a'r hiwmor cynnil ond roedd pawb yn unfarn mai gan Sleifar y cafwyd y tân a gadwodd y noson yn fyw - y ddau yma, yn eu harddulliau hollol wahanol, oedd sêr y noson yn ôl llawer o'r gynulleidfa. Wedi dweud hynny, cafodd pob un o'r artistiaid ymateb da gan y gynulleidfa, oedd wrth eu boddau â'r sioe o wrthgyferbyniad.

Oedd, roedd 'na elfen o set-up efo'r Academi wedi dewis artistiaid y noson yn fwriadol i sicrhau'r gwrthgyferbyniad mwyaf eithafol rhwng y ddau griw. Ond ar dystiolaeth y trafod, y dyfynnu a'r buzz yn y gynulleidfa ar ddiwedd y noson, roedd yn llwyddiant ysgubol - noson mwya roc a rôl y Steddfod!

Mwy o'r un peth os gwelwch yn dda!



Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy