BBC HomeExplore the BBC
Er gwybodaeth, nid ydym yn diweddaru’r wefan hon mwyach. Rhagor o wybodaeth yma

LLUN
16eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

Cefndir Cyngerdd Cwmderi

Mae cast Pobol y Cwm yn paratoi i ysgwyd y Pafiliwn eisteddfodol i'w seiliau yn ystod noson sy'n addo bod yn un o uchafbwyntiau'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd - cyngerdd Deri Ddathlu ar nos Wener, Awst 6, am 8.00.



I ddathlu pen-blwydd y gyfres, a gynhyrchir gan BBC Cymru a'i darlledu ar S4C, bydd cyn-aelodau ac aelodau cyfredol y cast yn portreadu 30 mlynedd o'r gyfres, flwyddyn wrth flwyddyn, trwy ganeuon poblogaidd y dydd gan olrhain y gyfres o'i dechrau arbrofol i'w safle heddiw fel y gyfres Gymraeg fwyaf poblogaidd.

Llachar a bywiog
Ond nid teyrnged ffurfiol fydd hon, wrth i wynebau cyfarwydd y sebon ddiosg dillad eu cymeriadau am rywbeth llawer mwy llachar a bywiog er mwyn perfformio rhai o anthemau cerddorol y gwahanol flynyddoedd.

A does dim prinder o ddoniau lleisiol gyda llawer o actorion Pobol y Cwm yn gantorion cydnabyddedig.

Mae Huw Euron, sy'n chwarae'r di-glem Darren, yn faswr a hyfforddir gan Stuart Burrows, ac yn enillydd yn y Genedlaethol ei hun. Yn y cyngerdd fe fydd yn perfformio Pan Fo'r Nos yn Hir o'r flwyddyn 1977, y flwyddyn bu Ryan Davies, a gyfansoddodd y gân, farw. Yn wir bydd mab Ryan, Arwyn Davies, ei hun yn perfformio ar y nos ac yntau yn un o actorion mwyaf amlwg y gyfres lle mae'n portreadu Mark Jones.

Ac yn deyrnged i'r Jonsiaid , bydd Arwyn, sydd yn gyfansoddwr ei hun, yn perfformio'r gân Have You Met Miss Jones?

Daeth Gillian Elisa, sy'n chwarae Sabrina, i amlygrwydd fel cantores bop yn y 70au cyn ymuno â chast Pobol y Cwm.

Fe fydd hi yn ddi-os yn sicr o siglo ambell i sail gyda'i llais pwerus, a fydd wythnos yn ddiweddarach yn difyrru cynulleidfaoedd Gwyl Caeredin.

Band merchedBand merched
Fe ddylai grwp Girls Aloud wylio'u hunain hefyd wrth i Catrin Arwel, Shelley Rees a Helen Rosser-Davies ffurfio band merched yn arbennig i'r achlysur.

Bydd mwy o gerddoriaeth yn dod o gyfeiriad Catrin Brooks, Emyr Wyn, aelod blaenllaw o Mynediad Am Ddim wrth gwrs, Donna Edwards, Lisa Victoria a Rhys Ap Williams ymysg eraill.

"Mae'r cast yn edrych ymlaen yn arw," meddai Medwyn Parri, cynhyrchydd y cyngerdd. "Mae'r nifer o gantorion da sydd yn y cast yn anhygoel. Maen nhw'n griw dawnus iawn a mi fydd hwn ymhell o fod yn deyrnged sych a ffurfiol. Mae pawb yn hyderus y bydd hi'n noson hwyliog iawn."

Bydd ambell wyneb o'r dyddiau cynnar hefyd yn ymuno yn y dathlu, gyda Huw Ceredig, yr enwog Reg Harries, Lis Miles (ei wraig Megan), Gaynor Morgan-Rees (Nerys Cadwaladr), Glan Davies (Clem) ac Islwyn Morris a chwaraeai'r annwyl Mr Tushingham oll yn cymryd rhan.

Bydd Deri Ddathlu yn cael ei ddarlledu ar S4C, Hydref 16, sydd 30 mlynedd i'r diwrnod ers i bennod gyntafPobol y Cwm gael ei darlledu.

Mae tocynnau ar gael trwy wefan yr Eisteddfod ar www.eisteddfod.org.uk neu trwy ffonio 0845 122 1176.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy