BBC HomeExplore the BBC
Er gwybodaeth, nid ydym yn diweddaru’r wefan hon mwyach. Rhagor o wybodaeth yma

LLUN
16eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

Cefndir Llys Ifor Hael

Maen nhw ymhlith y llinellau mwyaf adnabyddus o farddoniaeth yn yr iaith Gymraeg.

Drain ac ysgall mall a'i medd
Mieri lle bu mawredd.



Disgrifiad Ieuan Brydydd Hir o'r hyn a welodd yn ystod ymweliad a Llys Ifor Hael yn 1780 - noddwr rhai o feuirdd mwyaf Cymru yn y canol oesoedd gan gynnwys Dafydd ap Gwilym.

Mae safle Llys Ifor Hael o fewn cyrraedd hawdd i faes yr Eisteddfod yng Nghasnewydd - od fydd hi ddim yn hawdd dod o hyd iddo.

Bu Ieuan Brydydd Hir - Evan Evans - yn giwrad ym Maesaleg dim ond milltir o Wernyclepa lle mae olion y llys.

Yn ei englyn dirdynnol yn dilyn ymweliad ag olion yr hen lys lle bu beirdd a chyfeddach dywed:
Llys Ifor Hael, gwael yw'r gwedd - yn garnau
Mewn gwerni mae'n gorwedd;
Drain ac ysgall mall a'i medd,
Mieri lle bu mawredd.

Bydd llawer yn synnu mai Ifor ap Llywelyn o'r ardal hon - sy'n cael ei hystyried mor Seisnig erbyn heddiw - oedd prif noddwr Dafydd ap Gwilym.

Yn wir, cyflwynodd Dafydd gywydd iddo yn ogystal â chadwyn o englynion a dwy awdl

Hyd y mae iaith Gymraeg,
A hyd y tyf hadau teg
Hardd Ifor hoywryw ddefod,
Hir dy gledd, heir dy glo.
meddai Dafydd yn ei gywydd.

Dywedodd am Ifor hefyd:
Ifor ydoedd afradaur,
O'i lys nid âi bys heb aur.
Doe yr oeddwn ar giniaw
I'w lys yn cael gwin o'i law.

Yr oedd Ifor hael yn un o hynafiad teulu enwog Morganiaid Plas Tredegar a sefydlwyd ei lys yng Ngwern y Clepa oddeutu'r drydedd ganrif ar ddeg.

Chwilio am Lys Ifor





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy