BBC HomeExplore the BBC
Er gwybodaeth, nid ydym yn diweddaru’r wefan hon mwyach. Rhagor o wybodaeth yma

LLUN
16eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
» Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

Cefndir Y BBC yn y Steddfod

Beti GeorgeBydd canolfan BBC Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn gornel fywiog a difyr gydol yr wythnos gyda rhaglenni di-ri yn cael eu darlledu o stiwdios radio a theledu yno.



Bydd canolfan BBC Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn gornel fywiog a difyr gydol yr wythnos gyda rhaglenni di-ri yn cael eu darlledu o stiwdios radio a theledu yno.

Eleni bydd y stiwdios yn rhai y bydd modd gweld i mewn iddyn nhw, fel y gall pobol weld eu hoff gyflwynwyr wrth eu gwaith, pobol fel Eleri Sion a Jonsi, Beti George a Hywel Gwynfryn.

Bydd cynnwrf hefyd o gyfeiriad y stiwdio fawr ar yr un safle, gyda bandiau ac unigolion yn difyrru'r dorf gydol yr wythnos, o hanner dydd hyd at 2.30 bob dydd.

Ar y dydd Llun bydd digon o gyfle i sgrechian gwerthfawrogiad wrth i Max N a Dylan Davies ddiddori'r dorf. Ar y dydd Mawrth, Caryl Parri Jones a Huw Chiswell fydd yn perfformio; ddydd Mercher bydd Pheena a Frizbee yn darparu'r adloniant, ar ddydd Iau bydd yr hen law Meic Stevens yn perfformio cyn un o ddoniau newydd Cymru, Daniel Lloyd, ar ddydd Gwener Elin Fflur ac Alun Tan Lan fydd yn diddannu wrthi gyda Bryn Fon a'r Band a Ryland Teifi yn cloi wythnos wych ar y dydd Sadwrn.

Bydd myrdd o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn nghornel BBC Cymru o'r maes, a digon i ddal sylw a diddanu.

Ar radio...
Mae Radio Cymru yn addo gwasanaeth di-dor ar y tonfeddi, yn llythrennol felly wrth i'r orsaf ddarlledu trwy'r dydd a'r nos yn ystod wythnos y Brifwyl.

Hywel Gwynfryn a Nia Lloyd Jones fydd yn dod â holl ddigwyddiadau'r llwyfan a miri'r maes yn fyw ar y dydd Sadwrn cyntaf,gydag Eleri Siôn wedyn yn ymuno â Hywel weddill yr wythnos yn Eisteddfod Casnewydd gan ddod â chyffro'r seremonïau a'r cystadlu a bwrlwm y maes hyd y diwedd.

Un o raglenni rheolaidd yr wythnos fydd Tocyn Wythnos lle bydd Beti George yn edrych ar ddigwyddiadau'r dydd, o'r prif seremonïau i'r digwyddiadau ymylol yng nghwmni llu o gyfranwyr, o feirniaid swyddogol ac answyddogol, buddugwyr a chyfranwyr bywiog a bachog.

Ymysg y llu o leisiau fydd Dylan Iorwerth, Twm Morys, Geraint Lewis, Hywel Teifi, John Meirion Morys a Kevin Roberts.

Bydd C2 hefyd yn pacio'i babell ac yn ei throi hi am gynnwrf y Steddfod, gan ddod â chynnyrch newydd yr wyl, o CDs i gylchgronau a nwyddau, a hefyd holl egni Maes B a phrif berfformiad pob nos.

Huw Stephens a Beca Evans fydd yn cyflwyno Anweledig, Meinir Gwilym, Bryn Fon, a llawer mwy tra bydd Dafydd Du yn cadw trefn o'r stiwdio.

Bydd Radio Cymru hefyd yn dod â chyngherddau'r Brifwyl yn fyw i glydwch eich lolfa gan gynnig gwledd gyfoethog o rai o ddoniau cerddorol y dydd.

Yn Cyngerdd y Gerddorfa o'r Eisteddfod Genedlaethol bydd Beti George ac Alwyn Humphreys yn cyflwyno Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gyda'r unawdydd Julian Lloyd Webber ar y soddgrwth yn perfformio gweithiau Hoddinott, Elgar a Dvorak. Bydd y cyngerdd hwn hefyd yn cael ei ddarlledu gan BBC Cyru ar S4C.

Ar Deledu...
Bydd prif gyflwynydd teledu'r Brifwyl, Huw Llywelyn Davies yn dathlu mwy na'r Eisteddfod ar y maes yng Nghasnewydd eleni - sef dathlu 25 mlynedd o ddarlledu o'r Eisteddfod.

"Eleni yng Nghasnewydd, mi fyddai'n cyflwyno'r Eisteddfod ar y teledu am y bumed flwyddyn ar hugain yn olynol, ac yn mwynhau cymaint ag erioed," meddai Huw

Bydd Alwyn Humphreys yn darlledu'n fyw o'r Brifwyl o 10 y bore ar S4C digidol. Cewch gwmni Huw a'i gyd-gyflwynwyr Lisa Gwilym, a Shân Cothi bob prynhawn o ddydd Llun ymlaen am 3.30pm. Gyda'r nos, bydd Huw a Lisa Gwilym yn cyflwyno uchafbwyntiau'r cystadlu, holl glecs y maes a chyfweliadau gyda'r buddugwyr yn fyw o'r stiwdio fawr ar safle BBC Cymru ar y maes..

Ar y we...
Bydd Cymru'r Byd yn yr Eisteddfod am yr wythnos gyfan yn casglu adolygiadau, digwyddiadau, adroddiadau a lluniau di-ri, gan ddarparu darlun llawn o hwyl yr wyl trwy lun a gair ar www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2004 ac yn Saesneg ar www.bbc.co.uk/eisteddfod2004.Mae'r safle hon hefyd yn cynnig erthyglau a gwybodaeth am holl ddigwyddiadau'r eisteddfod.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy