BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau


Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Twm MorysMae buddugoliaeth Twm Morys yn yr Eisteddfod Genedlaethol wedi atgoffa Monica Jones o'r Gaiman o'i ymweliad ef ac Iwan Llwyd ar Wladfa rai blynyddoedd yn ôl.
Yn awr yn byw yng Nghymru yr oedd Monica a'i gwr Gwyn yn cadw Gwesty Tywi yn Stryd Michael D. Jones yr adeg honno.


Arbenigwyr ar y grefft o wyntyllu geiriau i bob cyfeiriad fel yr oedd yn amlwg pan groesawyd Twm Morys ac Iwan Llwyd ar eu hymweliad dan Groes y De.

Roedd Gwesty Tywi, ar y pryd, yn fwy o dy mawr a dim byd yn debyg i'r gwesty bach cysurus gwladfaol sydd wedi ei ddatblygu erbyn hyn i groesawu gwesteion Cymraeg yn yr Hen Iaith. Ond er hyn, dangoswyd gwerthfawrogiad arbennig ganddynt am y croeso - y canu a'r dathlu gan y Gwladfawyr wrth eu derbyn fel cewri'r gair i'n plith lle gwelaf farddoniaeth yr Hen Iaith yn marw yn y calonnau.

Be ddigwydda i brif wobr Eisteddfod y Wladfa ymhen ychydig genhedloedd tybed?

Siop Mr Puw
Heb ofn yn eu hetiau, roedd Twm Morys ac Iwan Llwyd, yng nghwmni Nia Williams (wyres i'r gwladfawr, llenor a phrifardd, R Bryn Williams), Meic & Pelsi Hughes o Gwmni Telegraffiti (El Dorado), yn ymddiddori pawb ac oeddent yn galw'n aml yn siop fach "Mr Puw" (chwedl Twm ac Iwan) lle gwerthwyd cwrw oer neu ddau.

Gwir enw Mr Puw yw Horacio Marras, disgynnydd Huw Puw oedd yn berchennog ar westy lle arhosodd aelodau o gang Butch Cassidy a'r Sundance Kid pan yn y Gaiman).

Yn Eisteddfod 2002, enillwyd y brif wobr gan Myrddin ap Dafydd, prifardd teilwng heb os ond roeddwn yn hanner disgwyl i Twm Morys gipio'r dydd a chlywais wedyn mai trwch blewyn oedd y gwahaniaeth rhwng Twm a'r enillydd.

Oedd Dafydd Parri, tad Myrddin ap Dafydd yn athro hanes ar Gwyn fy ngwr, tra yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst. Plannodd yr athro hadau derw o "ymwybyddiaeth" hanesyddol fel hoelion aur mewn carreg. Felly, dathlais y bardd ifanc, gwarchodwr etifeddiaeth gwlad y beirdd a chantorion.

Edrych ymlaen
Ond, fel pawb arall yng Nghymru, edrychwn ymlaen at weld Twm yn eistedd yn ei gadair haeddiannol yn fuan.

Ar Sul cyntaf Eisteddfod Meifod 2003 yr oeddwn wedi ei throi hi am adref gyda'r teulu ac arhoswn ym mhentref Meifod er mwyn ymofyn un neu ddau o bethau i'r daith. Dyma fodur glas gyda gyrrwr mawr yn tynnu ein sylw, neb llai na Twm Morys.

Dyma gychwyn sgwrs. Gofynnais iddo "Wyt ti wedi paratoi dy pen-ôl?". Edrychodd yn syn arnaf wrth gwrs a dweud mewn dychryn, "Mae'n ddrwg gen i!"

A dyma fi yn ail ofyn ac yn ychwanegu; "Wrth gwrs, eleni wyt ti'n mynd i roi dy ben ôl yn y gadair Dwi'n gwybod mai ti sydd yn mynd i ennill tro yma."

Ond nid oedd Twm yn medru rhannu ei gyfrinach hyd yn oed dan yr amgylchiadau ymosodol yma ac actiodd Twm ei syndod yn wych a chollais fy sicrwydd.

Dangosais grys pêl-droed streipiau gwyn a glas awyr Yr Ariannin iddo gan obeithio y buasai yn dilyn enghraifft Ifan Prys (enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd yn ystod gêm Cwpan y Byd yn erbyn Lloegr).

Gofynnais, "Hwyrach wyt ti isio gwisgo hwn ddydd Gwener nesa?"

Ac yn ddistaw gwenodd mewn murmuron o eiriau bach caled, "Ddim fi sydd wedi #$%#@# ennill y gadair!" er mwyn gwneud i ni feddwl fel arall.

I newid y pwnc gofynnodd Twm am y gadair enillais i yn eisteddfod y Wladfa 2001 ac os oeddwn yn bwriadu dwad a hi yma i Gymru. "Na," dwedais yn bendant, mae yn nwylo diogel Delith Puw de Jones, fy mam, a beth bynnag, mae'n perthyn i'r Wladfa a'i hanes a yno y bydd o'n aros am oes oesoedd.

'Paid â'n siomi
Cyn ei throi hi o Feifod, atgoffais Twm am eiriau y diweddar Irma Hughes de Jones (prifardd arall o'r Wladfa) cyn iddi hi ddwad i Gymru am y tro cyntaf ("Paid â siomi fi Gymru fach") ac wrth ddal ymlaen gyda'r ymosodiad "Paid â'n siomi i Twm bach!" Dathliad mwyaf yr Eisteddfod yw cadeirio prifardd ac i un sydd wedi profi'r teimlad bythgofiadwy hwn yn y Wladfa, gwn nad oes cymhariaeth.

Ac ar brynhawn Gwener nid oedd neb llai na Thwm ei hyn i ddathlu machlud mwynder Maldwyn.

O'r diwedd dyma Heilyn yn eistedd yn ei gadair mewn gwledd o addurniadau ar ôl blynyddoedd o farddoniaeth a chynganeddu di-gadair.

Ac mewn llawenydd a balchder gwelodd y dorf Twm yn y gadair brydferth fawr, fel y bardd (mawr nid prydferth hynny yw) a chrud wedi ei lunio o dderw, prif goeden y derwyddon Celtaidd.

Oedd o'n gwyntyllu yn ei gadair fel Owain Glyndŵr mewn gwledd yn ei Gymru fuddugol wrth i galonnau bawb garlamu mewn hapusrwydd am Y Bardd!

Uno mewn dathliad
Uno i ddathlu llwyddiant ein gwaed yw'r gyfrinach - yma fan hyn ac acw fan draw. Mae'r teimlad unedig hwn braidd yn absennol ar draws ein gwaed fel arfer ac am y rheswm hwn mae'r Celtiaid wedi colli' eu gwledydd hwyrach?.

Uno mewn canmoliaeth a dathlu er mwyn hybu ein pobl a'n llwyddiant, nid gweithio yn erbyn ac ar draws er mwyn ymfalchïo yn aflwyddiant y llall. Y tro hwn yr oedd y dathlu yn unedig a phoblogaidd.

Rwyf innau'n cloi y dathliad hwn gydag englyn gan Twm ac Iwan Llwyd sy'n hongian ar hen waliau Gwesty Tywi yn Y Gaiman wedi ei lunio mewn llythrennau Celtaidd gan Sioned Glynn yn dilyn ymweliad a gynorthwyodd yr Hen Iaith i fyw mor bell o'i chynefin.

Nid ty^ ydi Gwesty Tywi - ond gwlad
a gwledd a chwmpeini,
a chân syn achau inni,
a'r hen iaith, mae'n Gaer i ni.
Iwan Llwyd a Twm Morys

Buddugoliaeth Twm

Y Gadair i Twm






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy