BBC HomeExplore the BBC
Er gwybodaeth, nid ydym yn diweddaru’r wefan hon mwyach. Rhagor o wybodaeth yma

LLUN
23ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau


Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

Cefndir Prysurdeb trefnydd

Hywel Wyn EdwardsHoli Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Gogledd.






A: Faint o amser gymerodd o i drefnu'r Steddfod ym Meifod?
A: Fe wnaethom ni ddechrau chwilio am faes yn 1995. Y syniad gwreiddiol oedd dychwelyd i Fachynlleth lle'r oedd yr Eisteddfod yn 1981. Yna, cynigiodd rywun Fferm Mathrafal ym Meifod ac ar ôl cerdded y caeau daethom i ddealltwriaeth gyda'r diweddar David Jones a'i briod, Beryl. Cafodd Meifod sêl bendith mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llanfair Caereinion fis Mai 1997 ac agorwyd swyddfeydd yn Y Trallwng fis Hydref 2001.

A: Faint mae'n ei gostio i gynnal yr Eisteddfod?
A: Ar gyfartaledd, mae'r gost tua £2.5m gyda rhyw 10% yn cael ei godi'n lleol. Y nod yma oedd £210,000 ac y mae £220,000 wedi ei godi.

Yn ogystal â phwyllgorau apêl ym Maldwyn fe fu yna bwyllgorau dros y ffin yng Nghroesoswallt, Amwythig, Wolverhampton, Coventry, Newcastle under Lyne a Stoke on Trent hefyd.

Mae Meifod yn un o'r lleoedd agosaf ar gyfer Cymry sy'n byw yn Lloegr.

A: Faint o bobl fu'n trefnu?
A: Rhwng swyddogion yr Eisteddfod a phobl leol rhyw 500 o bobl. Bu trigolion Maldwyn yn wych ac wedi ymfalchïo yn y ffaith fod yr Eisteddfod yn ymweld â'u hardal.

Dyma'r tro cyntaf iddi fod yn y cylch er 1965 pan gafodd ei chynnal yn Y Drenewydd.

A: Faint o brysurdeb fuo yna?
A: Bu'n wyllt iawn y misoedd diwethaf. Allai'r postman ddim credo faint o lythyrau oeddem ni'n eu derbyn!

Mae mwy wedi cystadlu eleni nag erioed o'r blaen gydag o gwmpas 700 o ymgeision ysgrifenedig - bron i 200 yn fwy na'r record a dorrwyd yn Ninbych yn 2001.

Mae 45 wedi cystadlu am y goron a naw am y Gadair.

Mae yna nifer fawr o gystadleuwyr llwyfan hefyd.

A: Pam yr holl ddiddordeb ym Meifod?
A: Mae'n anodd dweud ond mae Meifod yn lle hawdd ei gyrraedd o bob rhan o Gymru dim ond ychydig dros awr o Gaernarfon ac Aberystwyth a rhyw ddwyawr a hanner o Gaerdydd. Mae'n lle sy'n gyfleus i bawb.






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy