BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau


Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

CefndirSyched am wybodaeth yn Sycharth

Tomen Sycharth yn y coed y tu cefn i'r ffermdyMae olion un o hen gartrefi enwocaf Cymru o fewn tafliad carreg i Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod.





Ond er cymaint o enwogrwydd sydd i Sycharth ychydig iawn ohonom allai ddod o hyd i safle llys enwog Owain Glyndwr yn hawdd.

Ac o ddod o hyd i'r fan - a ganmolwyd mor llaes gan hen feirdd yr uchelwyr - ar ochr y B4580 o Lansilin i Lanrhaeadr ym Mochnant ychydig sydd yna i'w weld ar wahân i dwr o goed ar godiad tir a chwpwl o byllau llonydd islaw.

Spencer Smith yn sefyll lle tybia'r oedd porth SycharthOnd i lygaid craffach mae gan Sycharth yn 'dweud' llawer mwy.Ac un sydd wedi treulio oriau'n archwilio'r safle ydi archeolegydd o'r enw Spencer Smith.

Mae cael eich tywys o gwmpas y safle yn ei gwmni ef yn daith i'r gorffennol wrth iddo ddehongli cyfrinachau ffurf y tir a chanlyniadau archwiliadau geoffisegol y mae wedi eu cynnal yno.

Yn ôl Spencer Smith yr oedd y codiad tir lle safai'r llys ei hun yn gnewyllyn pentref prysur gyda'i lys, ei efail, ei felin a'i lynnoedd magu pysgod.Safai llys cyfraith lle mae adeiladau fferm Bryn Derw heddiw gyda rhai o'r troseddwyr euog yn cael eu cludo i'w crogi ar lechwedd gyferbyn - sy'n cael ei nodi fel 'golfa' ar rai mapiau.

Lllechwedd sy'n cael ei adnabod fel GolfaTra bo archwilwyr eraill wedi canolbwyntio ar y bryncyn ei hun mae diddordeb Spencer Smith wedi cyfeirio ei archwiliadau tuag at yr hyn sydd ynghudd dan wyneb y tir o gwmpas y bryn.

Mae o'n barod wedi cynnal archwiliadau geoffisegol sydd wedi esgor ar lawer o wybodaeth ddifyr a phwysig.

Does yna ddim llawer o bwrpas cynnal mwy o archwiliadau ar y domen ei hun gan ein bod yn gwybod yn barod beth sy'n mynd i gael ei ddatgelu.

"Mae'r cyfrinachau pwysig yn y tir o gwmpas y bryn," meddai.

Ei gasgliad hyd yn hyn yw fod Sycharth yn ganolbwynt i faestref brysur o rhwng 100 a 150 o werinwyr.

Defaid yn pori lle'r oedd pentref llys Owain Byddai'r faestref wedi ei lleoli i'r gogledd o'r llys ac yn y fath fodd fel na fyddai'r uchelwyr yn y llys yn gorfod edrych arni.

"Mae hynny'n dangos dull soffistigedig o gynllunio ac ymwybyddiaeth o drefn gymdeithasol bendant ar ran Owain, meddai gan ychwanegu fod cyfeiriadau at Cae Pentre ar hen fapiau fel pe byddent yn cadarnhau ei ddamcaniaeth am leoliad y faestref.

Tuag at greu ei ddarlun o lys Owain dywed iddo bwyso'n drwm ar gywydd adnabyddus Iolo Goch i Sycharth.

Yr hyn ydan ni'n ei gael yn y cywydd hwn ydi disgrifiad manwl a ffeithiol o lys Owain gyda Iolo yn eich tywys dros bont sy'n arwain at brif borth ac wedyn o gwmpas y llys ei hun ac mi allwch chi ddychmygu hyd yn oed heddiw beth oedd o'n ei weld o sefyll ar y safle," meddai.

Mae'n mynd mor bell a dweud fod cywydd Iolo yn gwneud iawn am y ffaith nad oes yna arolwg swyddogol wedi goroesi am Sycharth, yn wahanol i rai o gestyll eraill Cymru.

"Mae cywydd Iolo yn llenwi y bwlch hwnnw gan fod Iolo yn rhestru yr hyn a wêl o gyrchu am Sycharth o'r de lle'r oedd y prif borth," meddai.

Mae hefyd yn amau i'r cywydd gael ei gyfansoddi i ddathlu gwelliannau i'r llys wedi i Owain ddychwelyd yn eithaf cyfoethog o ryfeloedd tramor.

Yr oedd Sycharth yn adeilad trawiadol, does dim amheuaeth am hynny. Mi gafodd ei ddisgrifio gan y Tywysog Harri fel well built.

.Tomen Sycharth Mae'n rhaid iddo fod yn lle go sylweddol i greu y fath argraff ar etifedd coron Lloegr," meddaiRhannodd Spencer Smith ei syniadau am Sycharth mewn darlith i Gymdeithas Hanes Llansilin yn gynharach eleni - 600 mlynedd i'r mis i'r adeg y llosgwyd y llys i'r llawr gan y Saeson.

Ers hynny y mae wedi codi rhywfaint yn rhagor o arian i gynnal archwiliadau pellach.

Pwysleisiodd nad yw hynny'n golygu gwaith tyllu ond archwiliadau geoffisegol a fydd yn datgelu faint mwy o gyfrinachau sydd yna dan ddaear las Maldwyn..






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy