BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau


Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

CefndirAdnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

Tomen MathrafalCyfle i ddod i adnabod rhywfaint ar fro Eisteddfod 2003. Rhestr amrywiol o ffeithiau diddorol






Bydd yr eisteddfod eleni ar Faes Mathrafal. Mathrafal oedd yr enw ar brif lys hen dywysogion Powys hyd at y drydedd ganrif ar ddeg. Dyma Aberffraw neu Ddinefwr Powys. Daeth yn enw wedyn ar un o dair talaith farddol Cymru.

Argae Llyn Clywedog a godwyd yn y chwedegau yw'r uchaf ym Mhrydain. Yn chwe milltir a hanner o hyd mae'n 237 troedfedd o uchder. Gerllaw, mae olion gwaith plwm Bryntail.

Er gwaethaf ei henw mae'r Drenewydd yn dyddio ôl i'r ddegfed ganrif. Tyfodd y dre o amgylch castell bychan gan gynyddu mewn maint yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn sgil datblygiad y diwydiant nyddu.

Y Drenewydd yw cartref cwmni siopau papurau W. H. Smith. Mae yno arddangosfa yn olrhain hanes y cwmni o 1792.

Yn Y Drenewydd lle mae amgueddfa goffa iddo y ganwyd y sosialydd Robert Owen yn 1771. Yn yr amgueddfa mae llyfrau nodiadau o'i eiddo a lluniau o'i fentrau cydweithredol arloesol yn yr Unol Daleithiau ac yn New Lanark.

Ar un adeg yr oedd Y Drenewydd yn cael ei hadnabod fel 'Leeds Cymru' oherwydd prysurdeb y diwydiant gwehyddu yno gyda 1,200 o wehyddion wrth eu gwaith yn nhai y dref.

Yn y Drenewydd y cyfarfu'r Siartwyr Cymreig am y tro cyntaf - 1838.

Gadawodd Robert Owen ei dref enedigol, Y Drenewydd, pan oedd yn ddeg oed ac ym Manceinion daeth yn fasnachwr defnyddiau ac yn rheolwr melin gotwm pan yn 23 oed.

Bum milltir o'r Drenewydd mae Plas Gregynog, cartref Gwasg Gregynog sy'n enwog am ei hargraffwaith gain. Y plasty hwn oedd un o'r adeiladau concrid cyntaf ym Mhrydain ond wedi ei wneud i ymddangos fel hen adeilad Elisabethaidd.

Bu Edward Elgar, Adrian Boult a Benjamin Britten yn aros yng Ngregynog.

Y Trallwng yw prif dref Trefaldwyn.

Y Pool oedd yr enw Saesneg ar Y Trallwng yn wreiddiol ond ychwanegwyd y Welsh o flaen yr enw yn 1835 am fod pobl yn cymysgu rhwng y dref a thref glan môr Poole yn Dorset.

Atyniad mwyaf mawreddog ardal y Trallwng ydi Castell Powys.Cynlluniwyd gerddi terasog Castell Powys gan bensaer o Gymru, William Winde.

Lladdwyd bron i hanner trigolion y Trallwng gan y Pla Mawr.

Mae Rheilffordd Fach Y Trallwng a Llanfair yn rhedeg am wyth milltir rhwng Y Trallwng a Llanfair Caereinion.

Bu trigolion Llanfyllin yn manteisio ar rinweddau iachusol ffynnon Sant Myllin yn y dref ers y chweched ganrif.

Y mae Pistyll Rhaeadr y tu allan i Lanrhaeadr ym Mochnant yn un o saith rhyfeddod Cymru. Dyma raeadr uchaf Cymru, 150 troedfedd.

Boddwyd pentref o 400 o bobl yn yr 1880au er mwyn creu Llyn Efyrnwy gyda dim ond £5 o iawndal yn cael i dalu i bobl a gollodd eu cartrefi. Mae'r hanes yn cael ei adrodd mewn canolfan ymwelwyr.

Ym Machynlleth y cyfarfu'r senedd Gymreig gyntaf wedi ei galw gan Owain Glyndwr.

Y mae Llwybr Glyndwr yn ymdroelli am 123 milltir drwy Drefaldwyn a Maesyfed o Drefyclo i Fachynlleth.

Cafodd Penfforddlas ei enw Saesneg Staylittle oherwydd fod y gof lleol mor sydyn yn pedoli nad oedd angen i neb oedi'n hir yno.

Yn Llanrhaeadr ym Mochnant y cyfieithodd William Morgan y Beibl i'r Gymraeg.

Mewn cerdd "Yn Eglwys Selatyn" dywedodd Bryan Martin Davies: Yma,/ar y gororau hyn,/y mae/afradloni/a barddoni/cystal ffordd â'r un/i fardd/dreulio egwyl/o boen byw.
Goronwy Owen a dreuliodd gyfnod yn yr ardal oedd ar ei feddwl wrth gyfansoddi'r geiriau.

Bu gan Lanfyllin enw drwg am yfed ac yr oedd yn ddywediad cyffredin fod hen gwrw yn llenwi Llanfyllin gyda gweddwon ifainc.

Dywedir mai o gyffiniau Llanfair Caereinion y gellir gweld orau hyfrydwch dyffryn Meifod.

Yr oedd caer Rufeinig yn Llanfair Caereinion.






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy