BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau


Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

CefndirAelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Rhestr o'r rhai fydd yn cael eu derbyn yn aelodau o Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod





Llwyddodd yr ymgeiswyr a ganlyn yn arholiadau Gorsedd y Beirdd eleni, ac urddir hwy yn aelodau gan yr Archdderwydd fore Llun 4 Awst 2003:

Urdd Cerddor (Gwisg Las)
Bethan Mair Jenkins (Bethan Penderyn), Rhydychen.
Mary Howell-Pryce (Mair Maldwyn), New Marston, Rhydychen.
Urdd Cerddor (Telynores) (Gwisg Las)
Alecs Peate (Telynores Powys), Llanfair Caereinion.
Urdd Cerdd Ofydd (Telynores) (Gwisg Werdd)
Carys Ann Evans, Abergwaun.

Urdd Iaith Ofydd (Gwisg Werdd)
William Michael Hughes, Carno.
Cecil Vernon Jones, Yr Hôb.

Urdd Llên Ofydd (Gwisg Werdd)
Brian William Baldwin, Prestatyn.
Anne Sims Williams, Glanymôr, Llanelli.

Bu'r ymgeisydd a ganlyn yn llwyddiannus yn arholiad cyntaf ei adran:
Bardd Ofydd 1, Iaith Ofydd 1, Llên Ofydd 1(Arholiad cyntaf cyfansawdd
Illtyd Llyr Dunsford, Rhiwbeina, Caerdydd.

I'w hurddo i'r Wisg Las fore Llun 4 Awst 2003 ar gyfrif eu graddau mewn Cymraeg neu Gerddoriaeth
Urdd Llenor
Mechain
Catherine Parry, B.A., Llanwddyn
Petroc ap Seisyllt, B.A. Llundain

Urdd Cerddor
Deian Siôn Rowlands, M.Cerdd, Llundain

Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro, Tyddewi 2002

Urdd Ofydd er Anrhydedd
Dafydd Wyn Jones, Glantwymyn, Machynlleth

Enillydd yr Unawd Cerdd Dant dros 21 oed
Lyndsey Vaughan Parry, Deiniolen

Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn
Alice James, Crymych

Enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn
Urdd Derwydd Er Anrhydedd
Glenys James, TyddewiCadeirydd Pwyllgor Llywio ac Is-gadeirydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro.

Y Prif Lenor Angharad Price Enillydd Y Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro, Tyddewi 2002

Cefin RobertsEnillydd cystadleuaeth Y Ddrama Hir Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro, Tyddewi 2002

Y Prifardd Aled Jones Williams Bardd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro, Tyddewi 2002

I'w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i'r Orsedd a'r Eisteddfod
William John Davies (W.J.), Llanbrynmair
Dr Prydwen Elfed-Owens (Prydwen Elfed), Trefnant
I'w hurddo fore Gwener 8 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2003

Urdd Ofydd er Anrhydedd

Eirlys Cawdrey, Casnewydd Yn enedigol o Lanon, Ceredigion addysgwyd yn ysgol y pentref ac Ysgol Ramadeg Aberaeron, a Choleg y Santes Fair yn Nulyn lle bu'n dilyn cwrs Dietegydd, a derbyn Diploma yno. Yn ystod ei gyrfa fel Dietegydd arbenigodd mewn anhwylderau plant, gan sefydlu clinigau arbennig i blant yn dioddef o glefyd y siwgr. Bu'n gweithio mewn amryw ysbytai gan gynnwys Ysbyty Radcliffe, Rhydychen, Ysbyty Llandochau, Ysbyty Athrofaol Caerdydd ac Ysbyty Frenhinol Gwent. Yn eisteddfodwraig selog bu'n weithgar iawn adeg Eisteddfod Casnewydd 1988, a dengys yr un brwdfrydedd parthed Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch 2004. Hi yw ysgrifenyddes presennol Merched y Wawr Casnewydd, ac mae'n flaenor ac yn un o organyddion Tabernacl, Llanfaches. Gwraig ymroddgar ym mhob maes y bu'n llafurio ac yn diddori ynddo.

Mair Lloyd Davies, Tregaron Yn frodor o Fwlch-y-Llan rhoddodd oes o wasanaeth i'r Pethe yn ei milltir sgwâr. Ymroes yn frwd i gynnal gweithgareddau Cymraeg, a manteisiodd y capel, eisteddfodau mawr a bach, Merched y Wawr, y 'W. I.' a chymdeithasau diwylliannol o'i gwasanaeth di-flino. Clywir ei llais yn aml ar Radio Ceredigion a BBC Cymru, a bu ei chyfraniad ar raglen Beti a'i Phobl yn un i'w gofio. Gelwir ar ei gwasanaeth fel beirniad Llefaru yn eisteddfodau'r Urdd ymhell y tu hwnt i Geredigion. Y mae ganddi barti cyd-adrodd llwyddiannus yn Nhregaron, a chipiodd hithau'r gwpan am yr actores orau chwe mlynedd yn olynol yng Ngwyl Ddrama Cylch Tregaron. Cyfoethogodd fywyd diwylliannol cefn-gwlad Ceredigion.

Janet Maureen Hughes, LlanrwstFe'i ganed ar fferm yn Aberangell a derbyniodd ei haddysg yn Aberangell, Machynlleth a'r Coleg Normal. Penodwyd hi'n athrawes cerdd yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, ac yn ei thro bu'n bennaeth ysgolion cynradd Maenan a Rowen. Ers deg-mlynedd-ar-hugain bu'n hyfforddi Côr Merched Carmel, côr enwog a gynhaliodd gyngherddau ar hyd a lled Cymru, yn ogystal a'r Almaen ac Iwerddon, ac wedi ennill yn yr Wyl Ban Geltaidd. Y mae'n weithgar iawn yn ardal Llanrwst, yn athrawes Ysgol Sul ac yn un o organyddion Capel Seion, yn hyfforddi aelodau Mudiad y Ffermwyr Ieuanc ac y mae galw am ei gwasanaeth fel beirniad cerdd. Hi yw llywydd cenedlaethol 'Iaith a Gofal' mudiad Merched y Wawr.

Ben Jones, Caerffili Brodor o Gwm-gors Cwm Tawe a ddaeth dan ddylanwad Eic Davies yn Ysgol Ramadeg Pontardawe. Aeth i Goleg Caerllion lle derbyniodd hyfforddiant athro. Treuliodd ei oes ym myd addysg gan gychwyn yn athro Cymraeg yng Nghaerdydd a Chaerffili. Bu'n brifathro Ysgol Ynys Wen, Treorci, ac Ysgol Gymraeg Caerffili. Mae'n wr diwylliedig ac yn weithgar ym myd y Pethe yng Nghwm Rhymni. Mae'n un o sylfaenwyr Cylch Llenyddol Bro Elyrch, Bargoed; bydd yn cyfrannu colofn Rhwng dau Glawr i'w papur bro lleol, a bu'n gyd-fuddugol ar y stori fer ym Mae Colwyn yn 1995. Gweithiwr di-flino dros yr iaith.

Lona Jones, Penrhyncoch Magwyd hi ym Machynlleth yn ferch i'r diweddar William a Myfi Williams. Graddiodd yn y Gymraeg yn 1977 a bu'n aelod o staff y Llyfrgell Genedlaethol ers 1993. Mae'n ddarllenydd lleyg yn yr Eglwys yng Nghymru ers pum mlynedd. Bu'n weithgar gyda Mudiad Madryn, a bu'n frwd dros groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i Faldwyn yn 2003. Bu ganddi golofn yn y Llan ers blynyddoedd, a cholofnydd yn awr i'r Tincer, un o bapurau bro ardal Aberystwyth. Y mae'n frwd dros weld y Gymraeg yn cael lle amlwg yng ngwasanaethau'r Eglwys yng Nghymru.

Edith Macdonald, Chubut Ers ei phlentyndod chwaraeodd cerddoriaeth ran bwysig yn ei bywyd, gan gynnal traddodiad cerddorol ei thylwyth, traddodiad y gellir ei olrhain mor bell yn ôl a glaniad y fintai gyntaf yn 1865, ac a hyrwyddwyd ar yr aelwyd ymhob cenhedlaeth ers hynny. Derbyniodd ei haddysg gerddorol cynnar yn Y Gaiman, a dilynodd gyrsiau byr yn Nhrelew a thaleithiau Mendoza ac Entre Rios, cyn astudio cerddoriaeth gysegredig yn Buenos Aires. Bu'n brif ddylanwad i berswadio'r awdurdodau i sefydlu ysgol i hyfforddi athrawon i ddysgu cerddoriaeth yn ysgolion y dalaith. Gwahoddwyd hi i osod sylfeini Ysgol Gerdd Uwchradd Talaith Chubut a gweithredodd fel prifathrawes gyntaf yr ysgol. Bu ei dylanwad cerddorol ar y dalaith yn fawr. Mae'n cefnogi pob achos Cymraeg a Chymreig yn y Wladfa, a bu'n aelod o bwyllgorau sefydliadau megis Cymdeithas Dewi Sant ac Eisteddfod y Wladfa. Adnabyddir hi yn ngorsedd y Wladfa fel Edith Brynalaw. Gareth Owen, Pencaenewydd Brodor o Lanllyfni sydd yn byw yn awr ym Mhencaenewydd ger Pwllheli. Eleni y mae'n ddeugain mlynedd ers iddo gychwyn ar ei yrfa fel gwr camera. Dros y blynyddoedd bu'n gweithio i TWW, HTV, a'r BBC cyn mynd i weithio ar ei liwt ei hun ddeuddeg mlynedd yn ôl. Gweithiodd ar ystod eang o raglenni gan gynnwys 'Mil o Alwadau', 'Er Gwaetha'r Gelyn' a 'Dechrau Canu, Dechrau Canmol'. Mae'n ystyried hi'n fraint o geisio cadw agweddau ar ddiwylliant Cymru rhag mynd i ddifancoll. Sumbol o hyn yw'r ffaith iddo fod yn ffilmio ar Bont Trefechan adeg dathlu deugain mlynedd Cymdeithas yr Iaith ac yntau fel un o'i dasgau cyntaf wedi bod yn ffilmio'r brotest wreiddiol. Bu ganddo gysylltiad hir â'r Eisteddfod Genedlaethol yn rhinwedd ei alwedigaeth. Bardd lluniau ydyw a bu ei waith yn ganolog i'r dehongliadau fideo a wnaed gan y Sioe Gelf dros y blynyddoedd diwethaf.

Owain Aneurin Owain, Llansannan Cyfarwyddwr CAIS yr asiantaeth Alcohol a Chyffuriau yng Nghymru. Ganed yn Durtlang ger Aizawl yn Mizoram lle'r oedd ei dad yn Genhadwr a'i fam yn athrawes. Maged ym Mhontrhydyfed a Llansannan, addysgwyd yn Ysgol Glan Clwyd, Coleg Prifysgol Cymru, Bangor a Chaergrawnt. Mae'n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol ar Alcohol a Chyffuriau. Bu'n aelod cynnar o'r grwp roc gwerin Pererin, ac y mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Llansannan. Mae'n flaenor yn ei gapel, yn bregethwr lleyg ac yn athro Ysgol Sul. Ers 1981 bu'n gyfarwyddwr CAIS a llwyddodd i'w feithrin yn gorff cadarn i herio Alcohol a Chyffuriau yng Nghymru.

Laura Richards, Y Foel Ganed yn Llangadfan, Powys a rhoddodd oes o wasanaeth i'r Pethe yn ei hardal. Hi yw gofalwraig y Tlysau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers Eisteddfod Maldwyn 1981, a bu'n cyflawni'r un gwaith yn Eisteddfod Talaith Powys ers 1994. Cyflawnir y gwaith cyfrifol hwn yn dawel ac effeithiol a hynny gyda dychymyg, dyfalbarhad a deallusrwydd. Y mae'n aelod o Orsedd Powys (Lowri Cadfan) ac yn gefn i Eisteddfodau bach a mawr ym Mhowys. Y mae'n aelod o Orsedd Powys, a theilwng i Orsedd y Beirdd ei hanrhydeddu am ei gwasanaeth anhunanol a chwbl ddibyniadwy.

Nansi Selwood, Penderyn Ganwyd yn Fferm Trebannog Isa, plwy Penderyn. Addysgwyd yn ysgolion cynradd Hirwaun a Phenderyn, Ysgol Uwchradd y Faenor a Phenderyn, Cefncoedycymer, Merthyr, a Choleg y Prifysgol, Caerdydd lle graddiodd gydag anrhydedd mewn Hanes. Bu'n dysgu Cymraeg a Hanes yn ysgolion uwchradd Cathays, Caerdydd a Phwllheli. Bu'n dysgu Cymraeg yn Ysgol Gynradd Penderyn fel rhan o brosiect Awdurdod Addysg Morgannwg i ddysgu Cymraeg, a bu ganddi ran mewn sefydlu uned Gymraeg lwyddiannus yr ysgol. Chwaraeodd ran amlwg mewn gweithgarwch lleol, megis Merched y Wawr, Undeb Cymru Fydd, a Chymdeithas Hanes Lleol. Mae'n aelod ac yn flaenores yng nghapel y Bedyddwyr, Siloam Penderyn. Bydd yn cyfrannu erthyglau i'r papur bro Clochdar, Cwlwm a'r Casglwr. Enillodd wobr Gruffydd John Williams gwobr yr Academi Gymreig am y nofel Brychan Dir 1988 a ddarlledwyd ar Radio Cymru, a derbyniodd wobr am 'Gyflawniad Neilltuol' gan Gyngor Bwrdeistref Cwm Cynon.

Gareth Williams, Llanbrynmair Gwr a roes wasanaeth maith ac anhunanol i'r Eisteddfod Genedlaethol a hynny am dros ddeg mlynedd ar hugain. Bu'n stiwardio ar y drysau gydol yr wythnos o 1973 hyd 1982. Ers hynny bu'n un o'r stiwardiaid llwyfan dan oruchwyliaeth W. J. Davies yn cludo a symud dodrefn a chyfarpar llwyfan yn ôl y galw, a hynny eto am yr wythnos gyfan. Dyma lafur cariad hollol wirfoddol. Dyma Gymro Cymraeg brwdfrydig, a'i wasanaeth maith a ffyddlon i'r Eisteddfod Genedlaethol yn haeddu anrhydedd aelodaeth Gorsedd y Beirdd.

Urdd Derwydd er Anrhydedd

Jayne Davies, Y Drenewydd Yn enedigol o'r Bontnewydd sydd bellach yn yr hen Sir Fynwy. Ar ôl dilyn gyrfa ddisglair yn Adran Gerdd Coleg y Brifysgol, Aberystwyth ymsefydlodd yn Y Drenewydd, a thrwy gydol ei hoes bu ei chyfraniad i gerddoriaeth ei bro fabwysiedig, ac i'w chenedl, yn arbennig iawn. Yn eisteddfodau lleol ei hardal, yn ogystal ar lwyfannau Cenedlaethol a Rhyngwladol, gwelwyd maint ac amrywiaeth ei chyfraniad. Bu'n gyfeilydd yn y Brifwyl ac yn Eisteddfod Llangollen sawl gwaith, a bu ei chôr, sef Côr Merched Hafren, yn llwyddiannus ar y llwyfan cenedlaethol lawer tro. Gwnaeth gymwynas fawr â llu o gorau hefyd trwy gyfrwng ei threfniadau chwaethus a chanadwy o lawer o ganeuon gwerin Cymru. Mae llawer unawdydd wedi eu rhoddi ar ben y ffordd ganddi, a bu ei chyfraniad i wyliau cerddorol y Canolbarth yn fawr. Cymraes a gyfrannodd yn helaeth i'w milltir sgwâr yn ogystal â Chymru.

R. Karl Davies, Caerdydd Gwr a fu'n weithgar yn y mudiad iaith a'r mudiad cenedlaethol ers dyddiau ysgol. Bu'n Olygydd Tafod y Ddraig a bu'n Gadeirydd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1984-85. Ar ôl graddio mewn Hanes a Hanes Cymru yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, aeth i weithio i Dafydd Wigley a Dafydd Elis Thomas fel Prif Ymchwilydd Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan, a bu'n allweddol yn hybu nifer o achosion yn y Senedd gyda'r Aelodau Seneddol hyn. Gweithiodd yn agos gyda Dafydd Wigley a'r Arglwydd Gwilym Prys Davies yn llunio ac yn hyrwyddo Deddf Iaith gerbron Senedd San Steffan. Wedi cyfnod yn Olygydd Seneddol BBC Cymru penodwyd ef yn Brif Weithredwr Plaid Cymru yn 1993. Bu'n allweddol yn y broses o foderneiddio'r Blaid, gan ei pharatoi ar gyfer y llwyddiannau mawr yn etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol, Senedd Ewrop a llywodraeth leol yn 1999. Bu ganddo ran amlwg yn ymgyrch y refferendwm o blaid Cynulliad Cenedlaethol ym 1997, gan gydlynu cyfraniad Plaid Cymru i'r ymgyrch honno. Yn ystod y cyfnod a dreuliodd gyda Phlaid Cymru gall ymfalchïo o weld y Blaid yn datblygu o fod yn blaid ymylol i fod yn brif wrthblaid Cymru, ac yn blaid sydd â'r potensial o ffurfio llywodraeth ei gwlad.

Heini Gruffudd, Abertawe Gwr a roes ei oes i weithio dros yr iaith Gymraeg, yn genedlaethol ac yn lleol, fel athro, ymgyrchwr, llenor ac academydd. Ef yw Cadeirydd Rhieni dros Addysg Gymraeg (RHAG) a bu ar flaen y gad mewn ymgyrchoedd led-led Cymru er mwyn sicrhau'r hawl i blant Cymru dderbyn addysg Gymraeg a dwyieithog. Bu'n dysgu Cymraeg i oedolion ers blynyddoedd yn wirfoddol ac yn rhinwedd ei swydd yn Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Cymru, Abertawe. Mae'n awdurdod cydnabyddedig rhyngwladol ar gymdeithaseg iaith, yn arbennig felly gyda golwg ar ieithoedd lleiafrifol. Cyhoeddodd yn helaeth ar y pwnc yn Gymraeg, Saesneg ac Almaeneg. Awdur nifer o lyfrau, gan gynnwys cyfrolau barddoniaeth a rhyddiaith. Yn Abertawe bu'n un o bileri Cymreictod. Ef oedd Golygydd cyntaf y papur bro Wilia, ac roedd yn un o sylfaenwyr Canolfan Gymraeg Ty Tawe. Gwr eangddysg a adawodd ei ôl yn drwm ar Gwm Tawe.

Ioan Gruffudd, Caerdydd Un o actorion mwyaf dawnus ac adnabyddus Cymru, a thuhwnt. Bu ganddo rannau blaenllaw yn Pobl y Cwm, Austin, William Jones a Solomon a Gaenor. Bu hefyd mewn nifer o gynyrchiadau Saesneg rhai ohonynt yn ddramâu a/neu ffilmiau a gafodd broffeil uchel iawn megis Titanic, 101 Dalmatians, Hornblower, The Forsyte Saga, Warriors, Great Expectations a Poldark. Dyfarnwyd ef yn actor gorau mewn drama deledu gyfres yn Biarritz 1999. Actor o fri rhyngwladol a'i wreiddiau yn ddwfn yn naear Cymru.

John Hefin, Y Borth, Aberystwyth Cynhyrchydd a chyfarwyddwr adnabyddus. Ymunodd â'r BBC ym 1962. Daeth yn Gynhyrchydd yn 1965, yn bennaeth yr Adran Ddrama yn 1978, yn Gyfarwyddwr Ffilm Cymru yn 1988 a bu'n Gymrawd Adran Ddrama Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth (1994-2001). Bu ganddo ddylanwad trwm ar nifer o gynyrchiadau adnabyddus Cymraeg, megis Penyberth, Stafell Ddirgel, Rhandir Mwyn, Pobl y Cwm, Mr Lollipop M.A., Un Nos Ola Leuad, Yn y Trên, a Sgwarnogod Hapus. Yn yr un modd gwelwyd ôl ei ddawn ar gynyrchiadau Cymreig megis The Life and Times of Lloyd George, Grand Slam ac Off to Philadelphia in the Morning. Bu'n feirniad Gwobr Richard Burton yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac y mae'n aelod o bwyllgor Ymddiriedolaeth Saunders Lewis. Bu ei ddoniau creadigol yn drwm eu dylanwad ar y sgrin deledu.

Edward Morus Jones a Gwyneth Morus Jones, Llandegfan Gwr a gwraig a roes wasanaeth enfawr i Gymru, a'u cyfraniadau'n cyd-redeg fel nad oedd modd eu gwahanu. Magwyd Gwyneth ym Mhwllheli ac Edward yn Llanuwchllyn, a bu dylanwad capel ac eisteddfod yn drwm arnynt ers bore oes. Bu'r ddau'n athrawon ysgol a bu Edward yn brifathro Ysgol Gynradd Llandegfan. Chwaraeodd y ddau ohonynt ran amlwg yn Eisteddfod Llandegfan a hynny am chwarter canrif. Buont yn amlwg hefyd yng ngweithgarwch Eisteddfod Môn a'r Eisteddfod Genedlaethol. Buont yn weithgar hefyd gydag Urdd Gobaith Cymru a Mudiad Ysgolion Meithrin, a bu'r ddau yn eu tro yn Lywyddion Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru yr unig wr a gwraig i dderbyn yr anrhydedd. Buont yn dra ffyddlon i'r eglwys lle maent yn aelodau ac yn ddiaconiaid sef Eglwys y Tabernacl, Porthaethwy. Buont yn drwm eu dylanwad yn y filltir sgwâr a ledled Cymru.

Huw Jones, Betws, Rhydaman Ganed a magwyd yn y Betws, a'i addysgu yn ysgol y pentref, Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman a Choleg Prifysgol Cymru, Abertawe, lle graddiodd gydag anrhydedd mewn peirianwaith sifil. Ar ôl cyfnod byr yn gweithio yn y Brifddinas daeth adre i ymuno yng nghwmni'r teulu ac erbyn heddiw y mae yn Reolwr Gyfarwyddwr un o gwmnïau adeiladu a pheirianwaith sifil mwyaf De Ddwyrain Cymru. Bu'n Gadeirydd Pwyllgor Safle Eisteddfod Bro Dinefwr. Gwr a'i wreiddiau'n ddwfn yn ei filltir sgwâr. Blaenor a chyn-athro Ysgol Sul yng Nghapel Newydd Betws, Cadeirydd Cantorion y Rhyd, Llywydd Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman, Llywydd Band Arian a Chlwb Rygbi Rhydaman a Trysorydd Pwyllgor Lleol Ymgyrch Cancr. Gweithiwr gwirfoddol diarbed a gymer ddiddordeb byw ym mywyd ei ardal. Cymeriad diymhongar a chymwynaswr hael, bu'n arbennig o gefnogol i'r Eisteddfod Genedlaethol a bu'n gefn i'w wraig, Meistres y Gwisgoedd, wrth iddi gyflawni ei dyletswyddau trwm.

Pat Jones, Chwilog Brodor o Foncath, Sir Benfro sydd ers 1984 wedi ymgartrefu yn Chwilog. Yn raddedig yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Llundain, daeth yn adnabyddus iawn fel cerddor, arweinydd, a chyfeilydd ledled Cymru a thu hwnt. Bu'n gystadleuydd cyson mewn Eisteddfodau bach a mawr, a chipiodd y wobr gyntaf am ganu offeryn bum gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n organydd ar Dechrau Canu, Dechrau Canmol, a bu'n arweinydd amryw gorau gan gynnwys Côr Meibion Hendygwyn, Côr Meibion yr Eifl, Côr Merched Lleisiau'r Gest a Chôr Eifionydd côr a ffurfiwyd dan ei harweinyddaieth yn 1986. Bu'r corau hyn yn llwyddiannus iawn gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n Gadeirydd Pwyllgor Cerdd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pwllheli, ac yn aelod o Bwyllgor Cerdd Canolog yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd. Cerddor hyd flaenau ei bysedd, a drwythwyd mewn cerdd ar hyd ei hoes. Y mae ei medr, ei hymroddiad a'r gwasanaeth a gafwyd ganddi yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol yn ganmoladwy a chlodwiw.

Y Parchedig Gareth Maelor Jones, Dinas, Caernarfon Pregethwr grymus a gyfrannodd yn helaeth dros y blynyddoedd i bulpud Cymru ac yn arbennig i feysydd yn ymwneud â phlant a phobl ifanc. Ysgrifennodd bump o lyfrau ag iddynt naws grefyddol i'w defnyddio mewn oedfaon i oedolion. Bu'n gyfrifol am ysgrifennu rhyw ugain o lyfrau plant (ar y cyd). Bu'n gyfrifol hefyd am y cylchgrawn Antur 1977-1992, a gyhoeddid yn fisol, gan lunio llawer o'i gynnwys, yn storïau a chartwnau. Sefydlodd Wasg Ty ar y Graig (ar y cyd) ac o ganlyniad cyhoeddodd lyfrau diddorol a lliwgar ar gyfer plant am gyfnod o ddeunaw mlynedd (1969-85). Bu'n athro Addysg Grefyddol yn Ysgol Dyffryn Nantlle, a chyflawnodd waith arbennig gyda'r disgyblion ym maes siarad cyhoeddus, lle buont lwyddiannus droeon yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Bu'n warden ac ysgrifennydd Cartref plant Y Bontnewydd (M.C.) o 1975-82 ac ef yw ysgrifennydd mygedol y Cartref ar hyn o bryd. Bu ei ofal a'i gariad o'r plant hyn yn fawr, fel y tystia'r gyfrol a 'sgrifennodd am y sefydliad hwn sef Drws Agored. Yn llenor a bardd, ymroes i gynnal y Pethe yn mhob cylch y bu'n troi ynddo.

Eddie Jones, Bow Street, Ceredigion Brodor o Fethel, Arfon. Bu'n athro yn Ysgol Gynradd Penygroes ac yn Ysgol Uwchradd Machynlleth. Oddi yno aeth yn ddirprwy Brifathro yn Ysgol Park Avenue, Aberystwyth cyn iddo gael ei benodi'n bennaeth Ysgol Rhydypennau yn 1966. Yno y bu nes iddo ymddeol ym 1985. Rhoddodd oes o wasanaeth i ddawnsio gwerin fel hyfforddwr, beirniad cenedlaethol ac enillydd cyson yng nghystadlaethau cyfansoddi dawns. Cyhoeddodd nifer o lyfrau perthnasol i Ddawnsio Gwerin gan gyflwyno pob elw o'r gwerthiant i Gymdeithas Ddawns Werin Cymru. Deil i weithio'n ddibaid fel awdur, golygydd a chyd-lynydd ar gyfer gweld ail-gyhoeddi nifer helaeth o lyfrau'n ymwneud â dawnsio gwerin. Mae hefyd yn awdur dwy gyfrol swmpus o emynau modern ar gyfer plant ysgolion cynradd. Bu'n Lywydd Anrhydeddus Gwyl Cerdd Dant Cymru ar ddau achlysur. Eisteddfodwr o fri gweithiwr di-arbed yn ei gapel a'i gymuned, a chefnogwr pob gweithgarwch Cymraeg.

Dafydd Morgan Lewis, Aberystwyth Un o feibion Maldwyn, wedi ei eni a'i fagu yn y Foel. Cymhwysodd yn athro yn y Coleg Normal a threuliodd rhai blynyddoedd yn dysgu yn ei fro enedigol. Oddi yno aeth i Goleg Prifysgol Cymru lle graddiodd gydag anrhydedd mewn Cymraeg a Hanes Cymru. Yna bu'n gweithio i nifer o sefydliadau gan gynnwys yr Academi Gymreig a'r Llyfrgell Genedlaethol. Yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth daeth yn fwy gweithredol fel aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn ystod yr ymgyrch dros Gorff Datblygu Addysg Gymraeg fe dreuliodd gyfnod yn y carchar. Ers dros bymtheg mlynedd bellach bu'n gweithio'n ddi-flino fel un (fel arfer yr unig un) o swyddogion cyflogedig y Gymdeithas. Daeth ei wyneb a'i lais yn gyfarwydd ers blynyddoedd ar y teledu a'r radio wrth iddo ymgyrchu dros barch a hawliau i'n hiaith a'n cymunedau. Bu'n golofnydd teledu a beirniad theatr, a golygodd nifer o gyfrolau barddoniaeth. Yn 2003 cydnabuwyd ei gariad a'i wybodaeth am lenyddiaeth o bob math wrth ofyn iddo fod yn un o feirniaid gwobr Llyfr y Flwyddyn, Cyngor y Celfyddydau.

Y Barnwr Wyn Rees, Pentyrch Cymro a wnaeth gyfraniad gwirfoddol mawr i ddatblygu Addysg Gymraeg ym Morgannwg ac yna yn genedlaethol hefyd. Ef oedd ysgrifennydd cyntaf Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) a dyfodd o'r mudiad Undeb Rhieni Ysgolion Cymraeg. Yn y swydd hon gweithiodd yn egnïol a diflino dros RhAG ac o ganlyniad hybwyd twf yr ysgolion Cymraeg ym mhob rhan o Gymru. Trwy gyfrwng RhAG a'i waith yn yr ymgyrch i sicrhau defnyddiau ac athrawon i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â'r gwaith a gyflawnodd ar y Cwricwlwm Cymraeg a lle'r Gymraeg oddi fewn iddo cyflawnodd waith sylweddol iawn, nad oes pris arno. Bu'n gyfrwng rhoi llawer o bwysau ar y Swyddfa Gymreig a'r Awdurdodau Lleol er sicrhau'r nod. Ys dywedwyd amdano "Os oes rhaid cyplysu llwyddiant RhAG ag un person" efe yw hwnnw.

Huw Roberts, Pwllheli Gwr a wnaeth gyfraniad sylweddol iawn i fyd y theatr amatur a phroffesiynol yng Nghymru ers dros hanner canrif. Mae ei frwdfrydedd tuag at gelfyddyd y theatr yn ei holl agweddau yn parhau'n ysbrydoliaeth i nifer fawr o bobl, ac fe dystia llawer sy'n gysylltiedig â'r theatr Gymraeg i'w arweiniad cadarn diflino a'i gefnogaeth barhaus. Bu'n aelod o Banel Drama'r Eisteddfod Genedlaethol er 1985. Bu'n aelod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Theatr Cymru ers ei sefydlu ym 1967 a bu'n Gadeirydd a Llywydd arni. Yn 2001 yn gydnabyddiaeth i'w gefnogaeth a'i gyfraniad helaeth i theatr broffesiynol Gymraeg, fe'i etholwyd yn Lywydd Anrhydeddus am oes. Ysgrifennodd dair drama lwyfan ei hun; dwy ddrama gomisiwn i'r Eisteddfod Genedlaethol a lwyfannwyd gan Gwmni Theatr Cymru Hywel A yn 1979 a Pont Robart yn 1981, a Plas Dafydd a lwyfannwyd gan Gwmni Theatr Gwynedd. Ysgrifennodd hefyd nifer o ddramâu teledu, a bu'n gysylltiedig a Phobol y Cwm o'r dechrau cyntaf. Yn enedigol o Lanberis treuliodd y rhan helaethaf o'i oes ym Mhwllheli. Bu'n athro gwyddoniaeth yn Ysgol Botwnnog am dros ddeng mlynedd ar hugain, hyd ei ymddeoliad yn 1978.

Haydn Thomas, Y Fenni Brodor o'r Hendy, Pontarddulais. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Llanelli, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Ar ôl ymadael â'r coleg ymgartrefodd yn y Gogledd am gyfnod a bu'n dysgu'r Gymaeg yn Ysgol Ramadeg Bae Colwyn ac yna yn Ysgol Ramadeg Y Rhyl, lle y bu'n bennaeth yr Adran Gymraeg. Yn 1956 fe'i penodwyd yn brifathro cyntaf Ysgol Glan Clwyd, yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf un. Bu ei ymroddiad di-flino a'i arweiniad cadarn, a gynhwysau gyfieithu a golygu gwerslyfrau mewn cyfnod prin ei adnoddau, yn elfen allweddol yn llwyddiant yr ysgol arbrofol ac arloesol hon. Bu ffynniant diymwad Ysgol Glan Clwyd nid yn unig yn brawf y gallai addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg lwyddo ond bu hefyd yn ysbrydoliaeth i'r arloeswyr cynnar eraill. Yn 1966 fe'i penodwyd yn brifathro Ysgol Ramadeg Abergele gyda'r nod o ddatblygu dwy ysgol uwchradd y dref yn un ysgol gyfun. Ef a sicrhaodd enwi'r ysgol newydd ar ôl un o gewri Abergele, Emrys ap Iwan. Ymddeolodd o'r swydd hon yn 1979 gan ddychwelyd i'r De at y teulu. Trwy gydol ei fywyd bu'n ddygn ddiwyro dros y Pethe. Bu'n weithgar gyda'r Urdd, y capel a'r cymdeithasau Cymraeg. Eleni ac yntau'n 80 oed fe'i hetholwyd yn Gadeirydd Cymreigyddion Y Fenni.

Dr Peter Wyn Thomas, Caerdydd Magwyd yn Y Rhyl, Prestatyn ac Abergele. Graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd ac enillodd ddoethuriaeth am draethawd ymchwil ar iaith lafar Morgannwg. Ar ôl cyfnod yn darlithio yn Adran y Gymraeg, Coleg y Brifysgol Dulyn, fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn ei hen adran yng Nghaerdydd. Fe'i dyrchafwyd yn uwch-ddarlithydd ac yn ddarllenydd, a dyfarnwyd iddo gadair bersonol yn 2000. Mae'n awdurdod ar hanes a datblygiad y Gymraeg o'i chyfnodau cynharaf hyd at y presennol. Y mae'n gyd-awdur Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg Cyflwyno'r Tafodieithoedd a bu'n olygydd adran iaith a llên Studio Celtica, Bwletin y Bwrdd gwybodau Celtaidd. Y llynedd fe'i penodwyd yn Gadeirydd ar is-bwyllgorau Termau'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd. Cyhoeddodd nifer o erthyglau arleosol ar yr iaith, gan gynnwys rhai sy'n olrhain cysylltiadau daeryddol rhyddiaith yr oesoedd canol. Dyfarnwyd iddo wobr goffa Vernon Hull am ei olygiad o un o chwedlau'r Mabinogion, sef Peredur: Golygiad Lleiafrifol, ond Gramadeg y Gymraeg yw ei gymwynas fwyaf. Yn y gyfrol hon o dros 800 tudalen y ceir y dadansoddiad llawnaf a thrylwyraf a fu erioed o'r Gymraeg, ac fe ystyrir bellach mai hi yw gramadeg safonol yr iaith. Enillodd yr astudiaeth feistraidd hon iddo un o wobrau academaidd pennaf Cymru, sef gwobr John Legona am Ymchwil Celtaidd, a ddyfernir gan y Llyfrgell Genedlaethol.

Sulwyn Thomas, Caerfyrddin Brodor o Gaerfyrddin, daeth ei lais a'i wyneb yn gyfarwydd i bawb yng Nghymru, gan iddo fod yn un o'r darlledwyr mwyaf amlwg am rhagor na deugain mlynedd. Ar ôl gadael Ysgol Ramadeg y Bechgyn Caerfyrddin fe'i hyfforddwyd fel newyddiadurwr yn swyddfa'r Evening Post yn Abertawe. Ymunodd â chwmni teledu TWW fel gohebydd yng ngorllewin Cymru i raglen Y Dydd, gan barhau gyda'r un gwaith pan gymerodd HTV le Teledu Cymru. Yna yn 1977 ymunodd â'r BBC fel un o gyflwynwyr y rhaglen Heddiw a throi wedyn i fyd radio gan lywio Stondin Sulwyn un o raglenni mwyaf poblogaidd y chwarter canrif diwethaf. Bu'r rhaglen arbennig hon yn lwyfan i gannoedd o bobl o bob rhan o Gymru i drafod pynciau'r dydd, a chytunir mai ffordd arbennig Sulwyn o'i llywio fu'n gyfrifol am ei llwyddiant rhyfeddol. Daliodd ati gyda theledu hefyd, a bu'n amlwg fel un o gyflwynwyr Y Sioe Fach, rhaglenni o Sioe Llanelwedd, a'r rhaglen Ffermio. Bu'n arweinydd poblogaidd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, a bu ganddo ran mewn sefydlu Radio Glangwili yn 1972 a Papur Llafar y Deillion. Diacon selog, hyrwyddwr gwaith Cymdeithas y Plant, aelod o gwmnïau drama'r Priordy a'r Aelwyd a ddaeth i'r brig yn gyson yn y ddwy Brifwyl, ac aelod o'r cwmni drama a gyflwynodd Dan y Wenallt am y tro cyntaf y mae ei gyfraniad i fywyd y genedl yn aruthrol.

Derec Williams, Llanuwchllyn Gwr sydd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Theatr Maldwyn a sefydlwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1981. O dan ei ddylanwad bu'n gyfrifol am roi cyfleoedd i bobl ifanc canolbarth Cymru ym myd y theatr am ugain mlynedd. Elwodd cannoedd o'r profiadau a gawsant, a nifer ohonynt wedi mynd ymlaen i'r byd proffesiynol. Bu ei gyfraniad i ieuenctid Maldwyn yn enfawr yn ogystal a'i gyfraniad i Gwmni Theatr Meirion. Elwodd yr Eisteddfod Genedlaethol o'r sioeau a lwyfannwyd drwy ei ymroddiad megis Y Mab Darogan, Heledd (De Powys 1993) ac Er Mwyn Yfory (Y Bala 1997). Ar gyfer Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau bu'n llunio ar y cyd â Linda Gittins a'r Prifardd Penri Roberts sioe newydd am fywyd Ann Griffiths. Bu'r sioeau hyn yn destun edmygedd i filoedd o eisteddfodwyr. Pencampwr theatrig a welodd ac a greodd gyfle i ieuenctid ymarfer eu doniau ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol, ac o ganlyniad, cyfoethogi diwylliant y genedl.

John Eric Williams, Pwllheli Yn frodor o Bwllheli, addysgwyd ef yn Ysgol Troed yr Allt Pwllheli, Ysgol Ramadeg Pwllheli a Choleg Addysg Dinas Caerdydd. Bu'n athro addysg gorfforol yn Lerpwl am dair blynedd cyn mynd yn Drefnydd Gwersylloedd a Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru. Yna bu'n Bennaeth Gwersyll yr Urdd Glan-llyn am bymtheg mlynedd (1967-82) ac yn Gyfarwyddwr Urdd Gobaith Cymru o 1982 hyd 1996. Elwodd miloedd o blant Cymru o'r profiadau a gawsant yn y gwersylloedd y bu'n gyfrifol am eu gweithgareddau. Yn ogystal â'i gyfraniad at fywyd gwersylloedd yr Urdd bu'n weithgar iawn mewn cylchoedd diwylliant Cymraeg ym Mhenllyn, Aberystwyth ac yn awr ym Mhen Llyn. Fel ei gyfaill y diweddar Ted Breeze Jones bu'n gweithio'n ddiflino i boblogeiddio enwau a thermau Cymraeg ym myd natur, a byd adar yn benodol. Gydol ei oes bu'n lladmerydd cryf a chyson dros yr iaith a'i diwylliant.

Y Diweddar Athro Dr Phil Williams, Aberystwyth Gwr sydd yn un o wyddonwyr mwyaf disglair y genedl. Ar ôl graddio (dosbarth cyntaf dwbl) mewn Ffiseg Ddamcaniaethol yng Nghaergrawnt, ymunodd â'r grwp Seryddiaeth Radio yno. Ef a ddyfeisiodd ddull o fesur maes magnetedd o fewn cwasariau (quasars) a llwyddodd i arddangos eu bod ymysg y cyrff mwyaf egnïol yn y Bydysawd. Am hyn dyfarnwyd iddo Ph.D., etholwyd ef yn Gymrawd yng Ngholeg Clare, a phenodwyd ef yn Arddangosydd y Brifysgol yn Labordy fyd-enwog Cavendish Caergrawnt. Yn 1967 ymddiswyddodd o'i swyddi yng Nghaergrawnt pan benodwyd ef yn Ddarlithydd yn Adran Ffiseg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1980 secondiwyd ef i Sweden am ddwy flynedd lle cafodd ran arweiniol fel Cyfarwyddwr Gwyddonol cyntaf EISCAT gwaith sy'n ymwneud â thrydan a cherrynt yr Aurora Borealis. Yn y naw degau dychwelodd at seryddiaeth radio. Gwnaeth waith arloesol ar fesur y gwynt solar. O ganlyniad etholwyd ef ar Gyngor y Gymdeithas Seryddol Frenhinol. Penodwyd ef i Gadair Bersonol yn Adran Ffiseg Aberystwyth yn 1991. Serch ei fod wedi ei fagu yn ddi-Gymraeg, dysgodd yr iaith mor drwyadl fel ag iddo fedru darlithio a darlledu ynddi. Traddododd y Ddarlith Wyddonol ym Mhrifwyl Cwm Rhymni 1990 Ar Ffiniau'r Gofod a bu'n feirniad ar nifer o gystadlaethau gwyddonol yr Eisteddfod Genedlaethol. Oddi allan i'w briod faes gwyddonol, bu'n ddiwyd iawn ym maes economaidd a gwleidyddol Cymru. Bu'n Is-Lywydd Cadeirydd a Chyfarwyddwr Ymchwil Plaid Cymru am gyfnodau a bu'n aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol tan iddo ymddeol eleni. Gwr cyfanddysg ac arwyddocad byd-eang i'w ddarganfyddiadau.






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy