BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau


Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

CefndirEnwogion Bro'r Eisteddfod

Dyffryn MeifodMae bro'r Eisteddfod eleni yn un gyfoethog ei phobol yn ogystal â'i thraddodiadau. Dyma rai o'i henwogion gan gychwyn gyda'r pennaf o'n harwyr cenedlaethol, Owain Glyndwr. Ac mae cyfle i chwithau ychwanegu at y rhestr



Owain Glyndwr arwr cenedlaethol enwocaf Cymru. Bydd darlith amdano gan Rees Davies yn y Babell Lên am 11.00 ddydd Llun yr Eisteddfod, Owain Glyndwr, Gwr y Gororau. Mae ei gartref Sycharth ger Llansilin yn agos i faes yr Eisteddfod.

Melangell y santes a achubodd yr ysgyfarnog rhag Brochfael Ysgithrog. Cysegrwyd eglwys Llanfihangel y pennant iddi. Hi yw testun sioe blant yr Eisteddfod yn y pafiliwn nos Sadwrn, Awst 2.

Iorwerth Cyfeiliog Peate Brodor o Bandy Rhiwsaeson ym mhlwyf Llanbryn-mair a ddaeth yn fardd ac ysgolhaig amlwg gan ennill ei enwogrwydd pennaf fel y gwr a greodd yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan. Bydd cyflwyniad amdano yn y Pagoda brynhawn Iau am 2.00.

Ann Griffiths emynyddes a anwyd ar fferm Dolwar Fach yn Llanfihangel-yng-ngwynfa sy'n agos iawn at faes yr Eisteddfod. Y mae ymhlith y fwyaf blaenllaw o holl emynwyr Cymru yn arbennig ar sail dwyster arbennig ei phrofiad ysbrydol. Cyn ei thröedigaeth grefyddol yr oedd yn cael ei hystyried yn benchwiban oherwydd ei hoffter o fwynhad cymdeithasol a dawnsio yn arbennig.

Edward Lhuyd gwyddonydd, naturiaethwr a ieithydd a anwyd yn 1660 yn fab siawns i Edward Lloyd, Llanforda ger Croesoswallt. Fe'i haddysgwyd yng Nghroesoswallt a Choleg Iesu, Rhydychen. Yn fachgen yn Llanforda lluniodd lyfr nodiadau o'r blodau a welai. Awdur Archaeologia Britannica. Bydd darlith amdano gan Goronwy Wynne yn y Babell Lên am 11.00 ddydd Mawrth.

Gwyn Erfyl darlledwr, bardd, athronydd a gweinidog a anwyd yn Llanerfyl. Daeth i amlygrwydd fel holwr teledu praff a chyflwynydd rhaglenni nodwedd. Bu'n olygydd Barn R. Alun Evans Llywydd llys yr Eisteddfod Genedlaethol. Brodor o Gwm Nant yr Eira. Cyn bennaeth y BBC yng ngogledd Cymru ac awdur cyfrol am ragflaenydd iddo yn y swydd, Sam Jones.

Sian James cantores boblogaidd ac actores o Lanerfyl. Ei CD ddiweddaraf ydi Pur sy'n arddangos ei doniau nid yn unig fel cantores ond fel telynores. Ei llais hi sydd i'w glywed ar sgôr y ffilm The Englishman who went up a hill and came down a mountain. Bydd yn canu yn y cyngerdd agoriadol nos Wener.Nerys Jones: soprano o Lanfair Caereinion a fydd yn perfformio gyda Chôr yr Eisteddfod yn y pafiliwn nos Wener, Awst 8.

Plethyn grwp gwerin a ffurfiwyd yn 1974 ac a ail-ffurfiodd yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod hon ar ôl chwalu yn 1999. Magwyd Roy a Linda ar fferm Penybryn, Meifod, a'r aelod arall, Jac, ar fferm Rhosfawr gerllaw. Maent wedi cyhoeddi wyth CD/casét ac fel cantores unigol mae Linda wedi cyhoeddi tair CD. Byddant yn canu yn y cyngerdd agoriadol nos Wener.

Nansi Richards Telynores Maldwyn. Un o delynorion mwyaf lliwgar Cymru. Awdur Cwpwrdd Nansi. Sefydlwyd ysgoloriaeth er cof amdani. Bydd teyrnged iddi gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn y Babell Lên am 2.00 dydd Sul, Awst 3.

Frances Môn Jones telynores o fri. Bydd disgyblion Ysgol Uwchradd Caereinion yn talu teyrnged iddi yn y Babell Lên 1.00 ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod.

Ieuan Jones telynor a mab fferm Mathrafal lle cynhelir yr Eisteddfod. Astudiodd wrth draed Marisa Robles yn y Coleg Cerdd Brenhinol lle yr enillodd yr holl brif wobrau gan gynnwys un myfyriwr disgleiriaf y flwyddyn. Am 13 mlynedd bu'n delynor Ty'r Cyffredin ac mae'n awr yn Athro'r Delyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Mae ei CD newydd yn cynnwys Concerto D'Aranjuez gan Rodrigo a fydd yn ei berfformio yn y pafiliwn nos Sul wedi ei drawsffurfio ar gyfer y delyn gan Ncanor Zabaleta.

Emrys Roberts prifardd a anwyd yn Lerpwl ond sydd wedi hen gartrefu ym Maldwyn lle bu'n athro. Enillodd Gadair y Genedlaethol yn 1971 a bu'n archdderwydd rhwng 1987 a 1990. Cyhoeddodd nifer o lyfrau gan gynnwys straeon antur a barddoniaeth i blant. Bydd rhaglen i'w gyfarch yn y Babell Lên am 2.00 ddydd Llun yr Eisteddfod






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy