bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cefndir Y rhestr gyflawn o aelodau newydd Gorsedd y Beirdd
Mae cogyddes deledu, barnwr uchel lys, darlledwr, archesgob ac un o Hogiau Llandegai ymhlith y rhai fydd yn cael eu derbyn yn aelodau newydd o Orseedd y Beirdd yn Nhyddewi eleni.

Cyhoeddwn yma y rhestr gyflawn gyda theyrnged yr Orsedd i'r rhai a anrhydeddir:

A. I'w hurddo fore Llun 5 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro, Tyddewi 2002

Enillwyr Llwyfan
Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2001

Urdd Ofydd er Anrhydedd


Aled Wyn Davies, Llanbrynmair
Enillydd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis

Mirain Haf, Bangor
Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn

Spencer Harris, Wrecsam
Enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn

Siân Meinir Lewis, Penarth
Enillydd Gwobr Goffa David Ellis - Y Rhuban Glas

Glesni Pierce Owen, Botwnnog
Enillydd yr Unawd Cerdd Dant dros 21 oed


Urdd Derwydd Er Anrhydedd

Y Prifardd Mererid Hopwood, Caerfyrddin
Bardd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2001

Eifion Lloyd Jones, Prion
Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaehtol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2001

Y Prif Lenor Elfyn Pritchard, Sarnau
Enillydd Y Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2001

Y Prifardd Penri Roberts, Llanidloes
Bardd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2001

Euron Walters, Llundain
Enillydd Tlws y Cerddor Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2001

Y Prif Lenor T. Wilson Evans, Prestatyn
Enillydd Y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983

(iii) I'w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i'r Orsedd a'r Eisteddfod

D. Twynog Davies (Twynog), Llanbedr Pont Steffan

Gerald Davies (Gerallt o Lansaint), Pontypwl

Ron Davies (Ron Aeron), Aberaeron

Eryl Huws Jones (Eryl Caffo o Fôn), Bodffordd

Trefor Owen (Trefor Cynllaith), Y Trallwng

Anne Winston Pash (Annwen Geler), Castell Newydd Emlyn

Siân Teifi (Siân Teifi), Caernarfon

Alice Eileen Williams (Alice Brynrefail), Caernarfon

Emyr Wyn Williams (Emyr o Fôn), Porthaethwy







B. I'w hurddo fore Gwener 9 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro, Tyddewi 2002
(i) Urdd Ofydd er Anrhydedd

Eirwyn Charles, Llundain

Brodor o Glasfryn, Mesur-y-Dorth, ger Trefin. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg, Tyddewi a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle graddiodd mewn mathemateg. Bu'n athro mathemateg mewn amryw ysgolion gan gynnwys yr Ysgol Ryngwladol yn Genefa. Yn meddu ar lais bas cyfoethog, rhoes ei fryd ar ganu ac fe'i 'darganfu' gan Friedlinde Wagner – wyres i'r cyfansoddwr Richard Wagner. O ganlyniad enillodd ysgoloriaeth a'i galluogodd i dderbyn hyfforddiant cerddorol yn Bayreuth. Rhai blynyddoedd yn ôl sefydlodd gwmni opera 'Y Cwmni Opera Rhyngwladol Newydd' gyda'r bwriad o ddod ag opera i fannau lle na cheir cyfle i glywed operau gan gwmnïau mawr. Yn Genedlaetholwr selog, ef oedd asiant Waldo yn Etholiad 1959 a bu'n gefnogwr cyson i ymgyrchoedd etholiadol Gwynfor.

John Christopher Evans, Abertawe
Cymro a godwyd ar aelwyd ddi-Gymraeg, ond a ymroes i ddysgu'r iaith, ac erbyn hyn y mae'n gwbl rugl yn yr iaith. Wrth ei alwedigaeth bu'n Uwch Ddarlithydd mewn Ffiseg a Mathemateg mewn colegau yng Nghaerlyr ac Abertawe, ond fel bardd y gwnaeth gyfraniad arbennig i Gymru a'i diwylliant. Cyhoeddwyd tair cyfrol o'i farddoniaeth, sef The Stone Corn, The Survivor, a Late Lamps, a disgwylir cyfrol arall Paper Songs o'r wasg eleni. Ysgrifennodd nifer o gerddi yn y Gymraeg hefyd ac ymddangosodd rai ohonynt mewn cylchgronau. Bu'n ymwelydd cyson â'r Eisteddfod Genedlaethol. Gwnaeth gyfraniad aeddfed a chyfoethog i'r diwylliant dwyieithog yng Nghymru.

Anthony William David Gorton, Casnewydd
Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Fonedd Cheltenham. Yna cafodd flas ar 'steddfota ac astudiodd y Gymraeg mewn dosbarth lleol gan lwyddo i ennill tystysgrifau lefel O (1990) ac A (1995). Dechreuodd ei yrfa wirfoddol Eisteddfodol yn 1986 pan ddaeth dan ddylanwad Cymry Casnewydd a chael blas ar y Gymraeg a mwynhau pwyllgora a chwmni Cymry Casnewydd a'r Cylch wrth iddynt ymdrechu i sicrhau Eisteddfod mwyaf llwyddiannus posibl mewn ardal a oedd yn eithaf di-Gymraeg, ond sydd erbyn heddiw ar y blaen a'i Chymreictod yn amlygu ei hun yn yr ysgolion Cymraeg. Y mae ef gyda'r mwyaf ffyddlon o stiwardiaid yr Eisteddfod bob blwyddyn a dengys yr un brwdfrydedd tuag at Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru. Enillodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug 1991 am stori ddychmygol Dyddiadur yr wythnos. Mae'n aelod ffyddlon yn Eglwysi Mynydd Seion ac Ebeneser Casnewydd, ac yn flaenllaw fel aelod o bwyllgor Ffrindiau Ty Tredegar a Chymdeithas Cymry Casnewydd. Esiampl nodedig o ddylanwad yr Eisteddfod Genedlaethol ar y di-Gymraeg.

Nathan Hughes, Richardson, Texas
Brodor o Gastell-y-Rhingyll, Sir Gaerfyrddin. Graddiodd mewn Ffiseg a Mathemateg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe ac yna ymunodd â chwmni Marconi fel Peiriannydd a bu'n gosod offer teledu mewn sawl gwlad yn Ewrop, a bu'n goruchwylio'r telediad cyntaf o'r Fatican yn 1954. Bu'n brif beiriannydd cwmni T.W.W. a fu'n gyfrifol am nifer o raglenni Cymraeg. Yna yn 1962 ymunodd â chwmni dan gadeiryddiaeth Dr Haydn Williams i gynllunio a gosod Teledu Cymru ar ei draed. Yr oedd i'r cwmni hwn bwysigrwydd arloesol ym maes teledu yng Nghymru – gwasanaeth a arweiniodd yn y diwedd at sefydlu S4C. Yna bu'n Swyddog Marchnata cwmni o America gan weithio yn y Swisdir. Ymfudodd wedyn i fyw i Unol Daleithiau America. Mae'n awdur cyfrol Reminiscences of Wales 1924-42 – ysgrifennwyd rhagair i'r gyfrol gan Gwynfor. Ar ôl iddo ymddeol gwnaeth lawer i hybu'r bywyd Cymreig yn yr Unol Daleithiau. Gwˆr sy'n ymfalchïo yn ei dreftadaeth Gymreig.

Alun James, Cilgerran
Ffermwr wrth ei alwedigaeth – gwr a gafodd y fraint o dreulio'i oes yn yr un ardal ac yn ffermio'r un fferm. Daeth i amlygrwydd yn y pumdegau fel adroddwr mewn cyfarfodydd cystadleuol Capeli'r ardal, ac mewn eisteddfodau. Bu galw mawr amdano fel adroddwr digri mewn cyngherddau. Yna ym 1986 bu'n cystadlu am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Abergwaun a'r Fro, lle'r enillodd ar yr adroddiad digri. Yn ystod y nawdegau bu'n arweinydd nosweithiau llawen ar hyd a lled y wlad a bydd llawer yn ei adnabod fel arweinydd rhai o nosweithiau llawen S4C. Mae'n ddiacon a chyn Ysgrifennydd Eglwys y Bedyddwyr, Penuel, Cilgerran. Ffermwr a wnaeth gyfraniad sylweddol i'w filltir sgwâr a'i genedl.

Clive James, Hendy, Pontarddulais
Brodor o'r Hendy, Pontarddulais. Ganed ef ar lan afon Gwili mewn ty a saif gyferbyn â'r ty lle ganed yr Archdderwydd Gwili. Addysgwyd ef yn Ysgol yr Hendy ac Ysgol Ramadeg y Gwendraeth. Bu ganddo erioed ddiddordeb mewn chwaraeon a bu'n aelod o dimau rygbi a chriced yr Hendy am dros 16 mlynedd.
Bu'n Gadeirydd nifer o bwyllgorau Undeb Rygbi Cymru, a bu'n Ysgrifennydd Clwb Rygbi'r Hendy am 38 mlynedd ac etholwyd ef ar Bwyllgor Cyffredinol Undeb Rygbi Cymru. Ef yw Ysgrifennydd presennol Capel Newydd yr Hendy, lle bu'n ddiacon ers deg-mlynedd-ar-hugain. Deuddeg oed ydoedd pan gychwynnodd chwarae organ y capel a deil yn organydd yng Nghapel Newydd. Ers 1995 ef yw Cadeirydd Cantorion Pontarddulais, côr o bensiynwyr Pontarddulais sy'n weithgar yn cynnal cyngherddau a chystadlu'n gyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gwenfydd Mair James, Caio, Llanwrda
Ganed ym Mlaencwmbowi, Cilrhedyn. Yn ysgrifennydd cyntaf Adran yr Urdd, tref Aberteifi, a chadeirydd cyntaf Mudiad Ffermwyr Ifanc Capel Iwan, ac ysgrifennydd, trysorydd a chadeirydd Sefydliad y Merched Pumsaint cyn ymuno â Merched y Wawr Pumsaint ym 1971 a chael ei hethol i'r un swyddi yn y mudiad hwnnw. Gwnaeth gyfraniad arbennig i'r diwylliant Cymraeg yn ei bro a'i hardaloedd mabwysiedig. Cychwynodd barti Dawnsio Gwerin Dyffryn Cothi, grwp offerynnol Ieuenctid Eglwys Caio – ac yn sgîl hynny sefydlu cymanfaoedd modern, a chychwyn Cymanfa Ganu Undebol Dyffryn Cothi 1977 – a fydd yn dathlu chwarter canrif eleni. Wrth ail-godi Hen Ffeiriau Caio, gwnaeth lawer o ymchwil i hanes y pentref a'r fro. Yn nechrau'r wythdegau dechreuodd ymddiddori mewn hen wisgoedd Cymreig ac agorodd amgueddfa fechan yng Nghaio. Daeth yn awdurdod ar y gwisgoedd diddorol a gwerthfawr yn ei chasgliad. Ym 1989 penodwyd hi yn Feistres y Gwisgoedd Theatr Felin Fach.

Ann Jones, Bow Street

Cymraes a wnaeth gyfraniad gwirfoddol, cadarnhaol ac uniongyrchol anghyffredin dros adfer y Gymraeg. Hi sy'n trefnu ac yn goruchwylio pump o ganghennau CYD yn Aberystwyth. Gwnaiff hyn yn dawel effeithiol, ond gyda dychymyg, dyfalbarhad a deallusrwydd. Bob nos Lun, nos Fawrth, bore a nos Fercher, a phob bore Iau fe'i gwelir hi mewn canghennau gwahanol, y gyntaf i gyrraedd a'r olaf i ymadael. Yna mae'n mynd adref i drefnu un o 'weithgareddau CYD' – rhyw Ginio Gwˆyl Ddewi, rhyw daith, rhyw barti carolau neu ddarlith i CYD gan un o'r dysgwyr. Hi ers rhai blynyddoedd sydd wedi trefnu rota i bedair o'r canghennau, ac y mae dull y rota yn ddatblygiad pwysig sydd bellach yn cael ei ddynwared mewn rhannau eraill o Gymru. Dyma lle mae'r canghennau hyn yn wahanol i'r gangen gonfensiynol yn ymuno â'r dosbarth ar ddiwedd sesiwn dysgu er mwyn ymarfer sgyrsio. Dyma gyfraniad adeiladol gwych dros ein hiaith a'n gwlad.

Carys Jones, Mynytho
Wedi cwblhau ei chwrs dysgu yn y Coleg Normal, Bangor, rhoddodd oes o wasanaeth fel athrawes yn y sector cynradd ac yn ddiweddarach fel Prifathrawes Ysgol Tudweiliog yn Llyn. Mae ei diddordeb a'i hymroddiad yn gyson yng ngweithgareddau Neuadd Mynytho ym myd drama, eisteddfod, cyngerdd a'r sioe flynyddol yn ogystal â bod yn awreinydd diflino ar barti meibion Hogia'r Mynydd sydd yn diddori ardaloedd Llyn ac Eifionydd ers blynyddoedd. Yn ei ffordd dawel, ddirodres y mae wedi hybu llawer iawn ar ein diwylliant Cymreig yn y fro.

Dafydd Norman Jones, Llanwnda
Newyddiadurwr wrth ei alwedigaeth, gan gychwyn ar Y Cymro pan oedd yn bymtheg oed. Bu'n newyddiadurwr amser llawn am 47 o flynyddoedd – 14 ohonynt ar Y Cymro. Ymunodd wedyn â'r North Wales Weekly News i ddechrau argraffiad Bangor a'r Cylch. Pan lansiwyd y Bangor & Anglesey Mail cafodd berswad ar y cwmni i gyhoeddi colofn Gymraeg ac ef a fu'n gyfrifol amdani, gan wahodd cyfraniadau gan wahanol 'sgrifenwyr. Er iddo ymddeol yn gynnar deil i ohebu – mewn amryw bapurau. Chwaraeodd cerddoriaeth ran bwysig yn ei fywyd, ac enillodd gannoedd o wobrau fel unawdydd bas mewn eisteddfodau mawr a bach yng Nghymru a'r gororau. Uchafbwynt ei yrfa eisteddfodol oedd ennill yn Llangollen – trydydd yn 1971, ail yn 1972, a'r wobr gyntaf yn 1973. Y mae'n is-lywydd Côr Meibion y Penrhyn. Newyddiadurwr ac eisteddfodwr o fri.

Emrys Jones ac Olwen Jones, Llanllyfni
"Pâr a wnaeth yr Eisteddfod yn fwy fel ffordd o fyw" yn ôl yr Herald, mewn portread ohonynt fis Awst y llynedd. Buont yn gweithio ar fynedfa'r maes, yn ddi-fwlch, ers Prifwyl 1969 yn Y Fflint. Buont yn treulio eu gwyliau, ar eu traul eu hunain, yn gwasanaethu pob Prifwyl ers dros deng mlynedd ar hugain. Gwelsant lawer o newid yn yr Eisteddfod dros y cyfnod hwn, ac y maent yn ymfalchïo yn natblygiad cryf yr Eisteddfod dros y blynyddoedd. Eisteddfodwyr sy'n mwynhau'r Eisteddfod bob blwyddyn ac yn rhoi o'u gorau i sicrhau llwyddiant ein Prifwyl. Dyma wasanaeth cwbl anhunanol er lles Cymru a'r Gymraeg.

Ifan Glyn Jones, Llandudno
Athro â chanddo gymwysterau arbennig ar gyfer dysgu plant ag anghenion arbennig, a rhoddodd bron ddeugain mlynedd o wasanaeth di-dor yn dysgu disgyblion a chanddynt anawsterau dysgu dwys. Cafodd brofiad helaeth fel athro mewn amryw ysgolion cyn ei benodi'n Brifathro Ysgol y Graig, Hen Golwyn ym 1982 ac yna'n Brifathro Ysgol y Gogarth yn 1985 – ysgol ddyddiol breswyl Gymraeg ar gyfer plant a chanddynt anghenion addysgol arbennig – swydd a ddeil o hyd. Canmolwyd gwaith yr ysgol hon mewn Arolwg a gynhaliwyd ym 1998, a derbyniodd y Prifathro lythyr oddi wrth Brif-Arolygydd Ysgolion Cymru yn llongyfarch Ysgol y Gogarth ar ansawdd ac ehangder y ddarpariaeth addysgol yno. Mae'n flaenor yng Nghapel Cymraeg Bethania, Craig-y-Don er 1993 ac yn aelod o Gôr Meibion Maelgwyn.

Tegid Jones, Llanharan
Brodor o Brynrefail oedd Tegid (Teg) Jones ond symudodd i'r De pan ymunodd â BBC Cymru yng Nghaerdydd. Mewn gyrfa o dri deg a phedwar o flynyddoedd gyda'r Gorfforaeth, a phum mlynedd wedyn fel rhyddgyfrannwr, bu'n rheolwr peirianyddol a chyfarwyddwr goleuo hynod lwyddiannus. Bu'n aelod allweddol o dimoedd cynhyrchu nifer helaeth o delediadau allanol, gan gynnwys gemau rygbi a phêl droed rhyngwladol, cynadleddau gwleidyddol, y gyfres hynod boblogaidd Dechrau Canu, Dechrau Canmol a'r Eisteddfod Genedlaethol. Fe fu'n gyfrifol am oleuo'r pafiliwn mawr a safleoedd eraill ar y maes am dros ugain mlynedd, ond llafur cariad fu'r blynyddoedd hynny i Teg Jones. Ysbrydolodd ei gydweithwyr technegol i ymddiddori yng ngweithgareddau'r Eisteddfod a phrin fod neb yn fwy brwdfrydig dros y Brifwyl nag ef. Peiriannydd wrth ei alwedigaeth ond amaethwr wrth reddf, bu'n byw am sawl blwyddyn ar Ffarm Llwyn y Brain Llanharan, ac yno y bu farw fis Mai eleni ac yntau ond trigain oed. Roedd y cannoedd a ddaeth i'w wasanaeth coffa yn Llanharan ac i'w angladd ym Mhenisarwaun yn dystiolaeth o'r cariad a'r parch tuag ato o bob cwr. Collodd y byd darlledu a'r Eisteddfod Genedlaethol, ffrind a chymwynaswr ffyddlon.

Wmffra Jones, Waunfawr, Gwynedd
Gwr sydd yn un o Eisteddfodwyr mwyaf ffyddlon Cymru. Prin bod yr un Sadwrn yn mynd heibio heb iddo ymddangos ar lwyfan un o'r eisteddfodau lleol, ac megis ei gyfaill a'i gyd-eisteddfodwr Mabon, gwnaeth hynny ers blynyddoedd. Bydd yn cystadlu ar nifer o gystadlaethau yn yr Adran Gerdd, gan gynnwys cystadlu ar adrodd ac ar y ddeuawd gyda Mabon. Gan fod Mabon yn gaeth i'w gadair olwyn Wmffra sy'n gyfrifol am fynd â'i gyfaill i'r eisteddfodau. Byddent ill dau yn crwydro led-led Cymru i eisteddfota. Dyma yn wir asgwrn cefn ac anadl einioes eisteddfodau bach Cymru.

Robert Morris Owen, Dinbych
Ganwyd ac addysgwyd yn Ninbych. Bu'n athro yn ysgolion Sir Ddinbych cyn ei benodi'n Brifathro Ysgol y Grawys, Dinbych ac yna yn 1976 penodwyd ef yn brifathro ysgol newydd Heulfre, Dinbych. Bu'n un o'r sawl a sefydlodd Gymdeithas Hanes Dinbych ac adnabyddir ef fel gwir hanesydd lleol. Cyhoeddodd amryw lyfrau ac ysgrifau'n ymwneud â hanes lleol. Ef yw Golygydd Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych. Mae'n gasglwr llyfrau, hen lythyrau a lluniau a gwelwyd detholiad o'r rhain mewn arddangosfa yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a'r Cyffiniau 2001. Gweithiwr diarbed dros y Gymraeg a hanes ei fro.

Arthur Wyn Parry, Y Groeslon
Brodor o'r Groeslon ger Caernarfon a roes gyfraniad sylweddol yn ddiwylliannol a chymdeithasol yn ei filltir sgwâr. Crefftwr wrth ei alwedigaeth a bu'n ddarlithydd yng Ngholeg Menai Bangor cyn iddo ymddeol. Bu'n weithgar iawn gyda phobl ifanc gan hyfforddi corau plant ac unigolion ar gyfer Eisteddfodau'r Urdd. Bu'n arweinydd Côr Meibion Dyffryn Nantlle ar ôl bod yn aelod o'r côr am flynyddoedd. Gwˆr amryddawn a roes oes o wasanaeth clodwiw fel cymwynaswr, crefftwr, cynghorydd plwyf ac arweinydd cymanfaoedd. Cefnogodd eisteddfodau ledled Cymru ar hyd ei oes ac yn enillydd cyson. Daeth i'r brig ar ganu emyn yn Eisteddfodau Cenedlaethol Bro Ogwr, Môn a Dinbych a'r Cyffiniau. Aelod ffyddlon yng Nghapel Bwlan, Llandwrog lle bu'n flaenor ers dros chwarter canrif ac yn arweinydd y gân ers bron hanner canrif.

Grace Roberts, Nefyn
Brodor o Benysarn, Ynys Môn, ymsefydlodd ym Mhenrhyn Llyn lle bu'n ymroddgar iawn i'r diwylliant Cymraeg ers blynyddoedd. Deunaw mlynedd yn ôl sefydlodd hi a'i gwr Cylch Lenyddol Llyn, a bu'n gweithredu fel ysgrifenyddes weithgar y gymdeithas hon gan drefnu cyfarfodydd, teithiau a darlithoedd o safon uchel. Cyhoeddwyd amrywiaeth o'i gwaith yn cynnwys Sgyrsiau Hogiau yn Bennaf (1985), Rhodd o Ferch (1989), Dyddiau Teisen Bwdin (1991), Drysfa, ynghyd â nifer o erthyglau, adolygiadau a straeon byrion mewn amryw gylchgronau. Mae'n awdures sawl sgript i'r gyfres deledu Pobl y Cwm ac yn ddarlledwraig ar y radio o bryd i'w gilydd.


Gruffudd Roberts, Aberhonddu
Bu am nifer o flynyddoedd yn athro mewn ysgolion yn Sir Forgannwg, a bu'n brifathro Ysgol Gynradd Penyderyn, ger Aberdâr am ddwy-ar-hugain o flynyddoedd. Gweithiodd hefyd yn athro Cymraeg oedolion am nifer o flynyddoedd ym Mrycheiniog a De Powys yn ddiweddarach. Yna bu'n athro Cymraeg gwirfoddol yn y Wladfa am flwyddyn 1994-5 ac urddwyd ef yn aelod o Orsedd y Wladfa pan ail sefydlwyd yr Orsedd honno yn 2001. Bu'n weithgar iawn ym mudiad Urdd Gobaith Cymru gan weithredu am gyfnod yn Drefnydd rhan amser ym Mrycheiniog. Treuliodd y rhan helaethaf o'i fywyd mewn ardaloedd ag iddynt hen wreiddiau Cymraeg ond a gollodd yr iaith. Bu ef yn lladmerydd yr iaith yn yr ardaloedd hyn gan weithio'n ddygn drosti bob amser mewn amryw ffyrdd.
Y mae'n bregethwr lleyg a wasanaethodd ym Mrycheiniog a'r Wladfa.

W. Reggie Smart, Llandudoch
Ganed ym Mhantygwyddel, plwyf Llanfyrnach, Sir Benfro. Addysgwyd ef yn ysgolion Tegryn a Bwlch-y-Groes a bu'n gweithio ar ffermydd yn ardal y Frenni ac yn ardal Llandudoch wedi iddo adael yr ysgol. Yn ddiweddarach, bu'n gweithio i gwmni o adeiladwyr ac yn negesydd gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Aberporth. Eithr fel bardd y meddylir yn bennaf amdano. Dechreuodd ymhél â barddoniaeth, a throi'n fardd cynhyrchiol iawn drwy fynychu dosbarth Gweithdy'r Bardd o dan gyfarwyddyd y Prifardd Eirwyn George yn Ysgol y Preseli am ddeg mlynedd gyfan. Bu'n aelod o Ddosbarth Cynganeddu y Prifardd T. Llew Jones yn nhre Aberteifi hefyd. Cafodd lwyddiant mawr mewn eisteddfodau gan ennill saith o gadeiriau, nifer o wobrau yn Eisteddfod Gwyl Fawr Aberteifi yn cynnwys y wobr ar y soned wyth o weithiau, y faled tair gwaith, y gerdd dafodiaith bedair gwaith a'r wobr am y delyneg. Bu'n fuddugol ar y gerdd rydd yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1992. Bu'n aelod di-flwch o Dîm y Preselau ar Dalwrn y Beirdd ers ugain mlynedd. Derbyniodd glod haeddiannol yn y bennod a neilltuwyd iddo gan y Prifardd Eirwyn George yn y gyfrol 'Gwyr Llên Sir Benfro'.

Ena Thomas, Caerfyrddin
Magwyd yn Felindre, Abertawe. Graddiodd mewn Rheolaeth Arlwyo yng Ngholeg Polytechneg Battersea, ac yna cafodd swyddi mewn amryw leoedd. Ymroes i goginio a dysgu'r grefft i eraill, gan gychwyn mewn dosbarthiadau nos yng Nghaerfyrddin a Nantgaredig. Bu wrth y gwaith hwn am ddeng mlynedd-ar-hugain. Yna daeth yn adnabyddus drwy Gymru wrth iddi ymddangos yn wythnosol ar y rhaglen Heno ar S4C, yn arddangos celfyddyd coginio. O ganlyniad bu galw mawr am ei gwasanaeth ledled Cymru, ac elwodd nifer o achosion da o ganlyniad i'r gwaith hwn. Bu ei gweithgarwch hefyd yn fodd i godi arian tuag at o leiaf bum Eisteddfod Genedlaethol. Cyflawnodd hyn drwy roi ei gwasanaeth yn ddi-dâl.

John Gomer Williams, Pantiago, Wdig, Sir Benfro
Fel ei gyndeidiau dros genedlaethau, gof yw John Gomer Williams ym Mhencaer, Sir Benfro. Gwr y mae Gorsedd y Beirdd a'r Eisteddfod Genedlaethol, yn fawr eu dyled iddo. Bu'n Gadeirydd Pwyllgor yr Orsedd, Eisteddfod Abergwaun 1986 ac Is-Gadeirydd Pwyllgor yr Orsedd yn Nhyddewi 2002. Bu'n gyfrifol am ddod o hyd i feini'r Cylch yn y ddwy Eisteddfod. Ef hefyd a drefnodd atgyweirio'r union injan a dynnodd feini'r Cylch i'w lle yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936 a'i defnyddio i wneud y gwaith eto yn Eisteddfodau 1986 a 2002. Yn ogystal â'i gyfraniad cenedlaethol, mae'n ddyn ei filltir sgwâr. Ef yw Cadeirydd Cyngor Cymuned Pencaer, ac o dan ei ddylanwad ef y mae'r Cyngor wedi parhau i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn Eisteddfod flynyddol Rhys Thomas James, Llanbedr Pont Steffan 1999 enillodd y newyddiadurwr Hefin Wyn Fedal yr Wyl gyda'i bortread o John Gomer Williams. Mewn cyfweliad dywedodd yr awdur "Cefais fy swyno gan wybodaeth Jac o hanes a chwedloniaeth bro ei febyd a'i frwdfrydedd i rannu'r cyfoeth hwn gyda'r llu o ymwelwyr a ddaethai ar drywydd hanes y Ffrancod, a hynny yn syml ac yn ddirodres trwy gyfrwng ei famiaith, sef tafodiaith goeth Pencaer". Y mae ymdrech oes John Gomer Williams i warchod iaith a diwylliant Pencaer yn nodedig. Iddo ef a'i debyg y mae'r diolch am barhad traddodiadau gorau y bywyd Cymreig mewn ardaloedd gwledig fel Carreg Wastad a Phwllderi a Phencaer.

(ii) Urdd Derwydd er Anrhydedd

Lyn Lewis Dafis, Aberystwyth

Ganed ym Mynachlog-ddu. Mae'n Guradur Cynorthwyol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn Eglwyswr selog, y mae'n aelod o Bwyllgor Litwrgi yr Eglwys yng Nghymru, gyda chyfrifoldeb arbennig am y Gymraeg. Mae'n gyn-aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, a chyn-olygydd Y Llan. Mae'n ddarllenydd lleyg ac ef gyfieithodd y Cwrs Alffa i'r Gymraeg. Y mae'n aelod o Banel Grantiau Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru, a bu'n gwasanaethu am nifer o flynyddoedd ar Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, gan olygu Tafod y Ddraig am gyfnod. Mae'n gyd-olygydd rhaglenni Clwb Pêl-droed Aberystwyth, a'r cylchgrawn pêl-droed 'Cic'. Bu'n darlithio ar iaith Sir Benfro a chyfieithodd yr Efengylau i iaith ei sir enedigol.


Syr David Roderick Evans, Abertawe
Ganed yn Abertawe ac addysgwyd ef yn Ysgol yr Esgob Gore, Abertawe a Phrifysgol Llundain lle graddiodd yn y Gyfraith. Galwyd ef i'r bar yn 1970 ac ymunodd â Chylchdaith Cymru a Chaer. Tan 1992 bu'n dilyn ei yrfa fel bargyfreithiwr gan wneud llawer o'i waith drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y nawdegau bu'n Farnwr Cyswllt â gofal am hybu'r defnydd o'r Gymraeg yn llysoedd barn Cymru. Yn 1999 dyrchafwyd ef yn brif Farnwr Cylchdaith Cymru ac yn Gofiadur Dinas Caerdydd. Yn 2001 cafodd ddyrchafiad pellach a'i benodi'n Farnwr yn yr Uchel Lys. Eisoes cymerodd ran flaenllaw mewn datganiadau pwysig a chwyldroadol ym materion yn ymwneud â'r Gymraeg yn y Llysoedd Barn. Cymro Cymraeg cadarn ei argyhoeddiadau.

Neville Hughes, Bethesda
Ganed yn Nhalybont, yn fab i chwarelwr. Tua dechrau ei yrfa yn y banc, ymddiddorodd mewn canu ysgafn a ffurfiodd gyda nifer o ffrindiau lleol grwp sgiffl a dechreuodd yntau feistroli'r gitâr. Dyna ddechrau 'Hogia Llandygai' ac ym 1957 nhw oedd y grwp sgiffl cyntaf i ddarlledu yn y Gymraeg. Yr oedd Neville gyda'i ddoniau amryddawn yn perfformio a chyfieithu, yn allweddol yn y cwmni o'r dechrau. Newidiodd a datblygodd y grwp yn y chwedegau ac fel grwp o bedwar y daeth Hogia Llandygai i'w bri cenedlaethol mewn cyngherddau ac ar y cyfryngau. Wedi bwlch yn y saithdegau ailddechreuwyd eto yn 1979, y cyfnod hwn yn dri, gan ganu ar hyd a lled Cymru ac o ganlyniad rhoddodd Neville a'i gyfeillion gyfraniad sylweddol iawn i fyd y canu pop Cymraeg o'r pumdegau hyd at 1996 pan ymddeolodd y grwp o fyd canu cyhoeddus. Cyfranodd Neville yn helaeth iawn hefyd i fywyd ei gymdeithas yn lleol a chenedlaethol. Bu'n aelod ar Gyngor Bwrdeistref Arfon am ddeunaw mlynedd ac mae'n aelod brwdfrydig ar Gyngor Cymuned Bethesda, ac yn un o olygyddion papur bro Llais Ogwen. Yn ogystal â'i ddyletswyddau cyhoeddus, ni ellir rhifo ei gymwynasau dirgel. Mae'n ysgrifennydd ei eglwys yn Nhalybont, Trysorydd Cyfundeb Gogledd Arfon ac Ysgrifennydd Cymanfa Ysgolion Sul Bangor a Bethesda. A bellach ef yw Trysorydd Annibynwyr Cymru. Ar sail cysondeb ei gyfraniadau amlochrog ar hyd y blynyddoedd anrhydeddir ef, a thrwy hynny cydnabyddir cyfraniad cyfoethog yr Hogia i fywyd y genedl.

Christine James, Abertawe
Ysgolhaig Cymraeg ac aelod o Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru Abertawe. Llynedd ymddangosodd y gyfrol Cerddi Gwenallt o dan ei golygyddiaeth hi. Yn ogystal â chywain holl gerddi Gwenallt ynghyd mewn un gyfrol, y mae safon y Golygu ynghyd â'r nodiadau helaeth gan y Golygydd yn gyfraniad arbennig a holl bwysig i'r neb sydd yn ymddiddori yng ngwaith un o feirdd pwysicaf Cymru – a hynny mewn unrhyw gyfnod. Dyma gymwynas fawr â chenedl y Cymry.

Branwen Jarvis, Bangor
Yn frodor o Aberdâr bu'n athrawes ysgol yn dysgu Cymraeg, yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Caerdydd ac Adran y Gymraeg, Bangor. Erbyn hyn hi yw Athro a Phennaeth Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Bangor. Y mae'n ysgolhaig a beirniad llenyddol o fri ac wedi cyhoeddi'n sylweddol ym maes llenyddiaeth Gymraeg. Y mae wedi gwasanaethu'r Eisteddfod Genedaethol gan weithredu fel beirnaid yn rhai o'i phrif gystadlaethau llenyddol, ac fel darlithydd ar achlysuron pwysig yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Glyn Lewis Jones, Aberystwyth
Brodor o Aberystwyth, a Llyfrgellydd wrth ei alwedigaeth. Bu'n Swyddog Llyfryddol a Hyfforddi Adran Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Sir Dyfed am dros ugain mlynedd 1974-1996. Bu'n gefnogol iawn dros y blynyddoedd i'r Eisteddfod Genedlaethol ac i Eisteddfodau lleol yng Ngheredigion, a bu'n weithgar ym myd diwylliannol, crefyddol ac ysgolheigaidd y genedl. Dengys ei gampwaith Llyfryddiaeth Ceredigion (1964, ac Atodiad 1964-68) ei fod yn wr egnïol ac yn lyfryddwr penigamp. Bu'n Ysgrifennydd, Cadeirydd, a Llywydd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru. Y mae hefyd yn Ysgrifennydd Eglwys Annibynol Seion, Aberystwyth.

Hywel Glyn Lewis, Castell-y-Rhingyll, Gorslas
Ganed yng Ngodre'r Graig, Cwmtawe. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg y Sir Ystalyfera, lle graddiodd mewn Cerddoriaeth a Chymraeg. Bu'n athro mewn amryw ysgolion cyn ei benodi i'w swydd bresennol yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Pantycelyn, Llanymddyfri. Ym 1985 sefydlodd gôr cymysg Cantorion y Rhyd, côr a enillodd deirgwaith yn olynol yn y Brifwyl rhwng 1987 a 1989, gan gynnwys y gystadleuaeth prif gorawl yn Llanrwst yn 1989. Ers hynny, mae'r côr wedi cefnogi cystadlaethau corawl y Brifwyl bron yn ddi-dor. Ym 1995 penodwyd ef yn gôr-feistr Côr Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr ar gyfer perfformiad o waith Elgar, Breuddwyd Gerontius, perfformiad ym Mhrifwyl 1996 a gafodd ganmoliaeth uchel.


Manon Easter Lewis, Corwen
Magwyd yn nhref Corwen, a gwasanaethodd am flynyddoedd yn organyddes Capel Seion, Corwen. Athrawes wrth ei galwedigaeth, gyda diddordeb arbennig mewn cynorthwyo plant ôl-gynnydd i ddatblygu sgiliau addysgol. Yn ystod ei chyfnod fel athrawes yn Ysgol y Berwyn, Y Bala, cyfrannodd o'i dawn gerddorol yno a bu llawer parti ac unigolion dan ei hyfforddiant yn ennill llawryfon ar lwyfan cenedlaethol yr Urdd. Manteisiodd ar ei hadnabyddiaeth o ieuenctid Penllyn ac Edeyrnion i ffurfio côr merched yn 1979. Dros gyfnod o ddwy flynedd-ar-hugain mae'r côr merched o dan ei harweiniad wedi ennill y brif wobr i gorau merched yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddeuddeg o weithiau. Cyfrannodd y côr hwn yn helaeth i fyd y gân yng Nghymru dros y cyfnod a bu'n llysgenad cerddorol mewn amryw wledydd tramor. Yn ystod ymweliad y côr â'r Eidal enillodd y côr y brif wobr gorawl yng Ngwyl Gerdd Verona. Bu cyfraniad arweinydd y côr hwn i gerddoriaeth ac i Gymreictod yn sylweddol.

Donald Moore, Aberystwyth
Ganed yn y Barri, ac addysgwyd ef yn Ysgol Sir y Bechgyn, Y Barri; Colegau Prifysgol Cymru Aberystwyth a Chaerdydd a Phrifysgol Rhydychen. Bu ei gyfraniad i fywyd Cymru yn helaeth a chyfoethog – yn arbennig felly ym maes celfyddyd a hanes. Gydol ei oes bu'n gyfrwng i ddod â llawer iawn o bobl i well adnabyddiaeth o'u treftadaeth, a thrwy ei waith yn yr Amgueddfa Genedlaethol a'r Llyfrgell Genedlaethol amlygwyd amrediad eang ei ddiddordeb a'i wybodaeth. Bu ganddo gysylltiadau agos â Llydaw, a bu'n gyfrwng dod â diwylliant Cymru a Llydaw yn nes at ei gilydd. Bu ei gyfraniad i adran Celf a Chrefft yr Eisteddfod Genedlaethol yn sylweddol. Gwr eangddysg a roddodd oes i ddehongli cyfoeth treftadaeth Cymru.

Gari Owen, Pontarddulais
Brodor o'r Hendy, a'i wreiddiau'n ddwfn yn yr ardal. Ers yn blentyn bu'n Eisteddfodwr brwd gan ganu ac adrodd mewn Eisteddfodau lleol a chenedlaethol, lle'r enillodd dros gant o gwpanau a thystysgrifau. Ar hyd ei oes bu'n ddyn ei filltir sgwâr, a deil nifer o swyddi anrhydeddus cyfrifol a ddengys ei ddiddordeb ym mywyd y gymdeithas – megis Llywydd Cymdeithas Henoed Yr Hendy, a Llywydd Cantorion Pontarddulais. Y mae hefyd yn gefnogol iawn i Eisteddfod Gadeiriol Yr Hendy. Bu'n weithgar iawn adeg Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000 - yn aelod o'r Pwyllgor Gwaith, Cadeirydd y Pwyllgor Gweithgareddau ac yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llefaru. Y mae ei wyneb a'i lais yn gyfarwydd ar sgrin S4C a Radio Cymru fel cyflwynydd newyddion. Mae'n aelod brwd o Gapel yr Hope Pontarddulais a bydd yn hyfforddi pobl ifanc y capel i gyflwyno gwasanaethau arbennig.

Alwyn Owens, Porthaethwy
Peiriannydd electroneg yn ôl ei alwedigaeth yn yr Adran ym Mhrifysgol Cymru,
Bangor. Cyfrannodd yn helaeth i fywyd diwylliannol Cymru. Gwnaeth gyfraniad arbennig i Urdd Gobaith Cymru, yn ei gynefin ac yn genedlaethol dros lawer o flynyddoedd. Yn yr un modd gwnaeth gyfraniad tra arbennig i Eisteddfod Genedlaethol Cymru dros lawer o flynyddoedd o ran goleuo a hyrwyddo cynyrchiadau drama a hefyd trwy gefnogaeth sylweddol ac ymarferol i'r Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg a'i gweithgareddau. Cyfrannodd yn helaeth tuag at godi pont gadarn rhwng gwyddoniaeth a'r celfyddydau.

Gruffydd Aled Williams, Llandre, Ceredigion
Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Ysgolhaig, bardd a hanesydd llên. Cyn ddarlithydd yn y Brifysgol Genedlaethol, Dulyn, hefyd cyn-ddarllenydd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Arbenigwr ym marddoniaeth yr Oesoedd Canol a chyfnod y Dadeni, cyhoeddodd laweroedd o ysgrifau yn ymwneud â'r meysydd hyn a meysydd eraill. Awdur nifer o lyfrau a llyfrynnau. Ystyrir yn gampwaith ei Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal. Golygydd Llên Cymru ers 1996.

Y Parchedicaf Rowan Williams, Casnewydd
Ganed gerllaw Abertawe ac addysgwyd ef yn Ysgol Dinefwr, Abertawe a Choleg Crist, Caergrawnt. Ar ôl darlithio mewn Diwinyddiaeth yng Ngholeg yr Atgyfodiad, Mirfield, ordeiniwyd ef i'r Weinidogaeth yn yr Eglwys Anglicanaidd. Parhaodd i ddysgu Diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt pan ddaeth yn Ddeon Coleg Clare, ac yn Rhydychen fel athro Diwinyddiaeth y Fonesig Margaret. Ym 1992 daeth yn Esgob Mynwy yn yr Eglwys yng Nghymru, ac etholwyd ef yn Archesgob Cymru ar ddiwedd 1999. Cyhoeddodd nifer helaeth o lyfrau, ac yn eu plith The Wound of Knowledge – astudiaeth o ysbrydolrwydd Gristnogol o gyfnod y Testament Newydd hyd at Sant Ioan y Groes – cyfrol a ddengys ystod gwybodaeth a diddordeb yr Athro. Cyhoeddwyd hefyd gasgliad o'i gerddi yn y gyfrol After Silent Centuries cyfrol sy'n cynnwys cyfieithiadau o nifer o gerddi Waldo i'r Saesneg – gan gynnwys cyfieithiad o Wedi'r Canrifoedd Mudan, cyfieithiad a roes iddo deitl i'r gyfrol. Yn ddiwinydd, ysgolhaig, llenor bu hefyd yn ymarfer ei grefft fel bardd ers bron i ddeg mlynedd ar hugain.

Thomas John Williams, Llanrwst
Gwr a dreuliodd ei oes yn ffarmio yn Nyffryn Conwy, a ddaeth i fri cenedlaethol fel beirniad yn yr Adran Gerddoriaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Llanbedr Pont Steffan 1984, Y Rhyl 1985, Llandeilo 1996, Bro Colwyn 1995 a Dinbych 2001. Bu'n arweinydd dwy Gymanfa Ganu yn yr Eisteddfod Genedlaethol - Porthmadog 1987 a Llanrwst 1989. Ef oedd arweinydd Côr yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1989 yn perfformio'r oratorio Elias. Gwahoddwyd y côr wedyn i berfformio yn yr Albert Hall; yr unig Gôr Eisteddfod a wnaeth hynny. Y mae ei gyfraniad lleol hefyd yn ddisglair - lle bu'n hyfforddi cantorion ac arwain Cymanfaoedd Canu. Bu'n organydd Capel Salem Llanddoged ers pan oedd yn 11 oed, gan roi 62 mlynedd o wasanaeth. Gwr cyfarwydd â thrin y tir, a gwr cyfarwydd â meithrin doniau cerddorol cymdeithas wledig, ac a gyfrannodd ymhellach i'r llwyfannau cenedlaethol.




Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

BBC Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Eisteddfod genedlaethol Cymru


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy