Advertisement
Dawns flodau cyhoeddi Eisteddfod Y Bala

Edrych ymlaen at Y Bala

Wynebu her cwbl wahanol

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol mewn ardal cwbl wahanol i Gaerdydd eleni - ar ei thrydydd ymweliad â'r Bala.

Bu yno o'r blaen yn 1967 ac yn 1997 ac mae Eisteddfod 2009 yn cael ei chynnal ar yr un Maes ag un 1997.

Doedd cadeirydd y pwyllgor Gwaith, Elfyn Llwyd AS, ddim yng Nghaerdydd, i sôn am y paratoadau ond yn Croatia ar wyliau ond dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, y bydd Y Bala yn cynnig "sialens wahanol" iddo ef a'r tîm.

"Mae'n ardal sy'n adnabod Eisteddfod ac yn agos iawn at y lleoliadau diweddar yr ydan ni wedi bod yno, " meddai.

"Rydan ni'n gobeithio y bydd ein ffrindiau yn dod draw, felly hefyd y ffrindiau a wnaed yng Nghaerdydd eleni a gobeithio y gallwn ddathlu Cymreictod a diwylliant efo gwên yn hytrach na chwyno," meddai.

Mae'r gwaith codi arian wedi cychwyn yn Y Bala ers dechrau 2008 gyda dros 70% o'r gronfa leol wedi ei sicrhau.

"Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Medi 2008 ar drefnu cyngherddau, sy'n mynd i fod yn sialens yn dilyn cyngherddau eleni," meddai Mr Roberts ar ddiwedd Eisteddfod Caerdydd y llynedd.

"Mae angen cyngherddau apelgar ac rydym yn ffyddiog y byddwn yn llwyddo," ychwanegodd.

Glynebwy 2010


Mwy

Blogiau BBC Cymru

Blog Cylchgrawn

Glyn Evans

Colli etholiad

Hira'n byd mae rhywun yn meddwl am y peth mwya'n byd mae rhywun yn cael ... mwy

Glyn Evans, 10 Tachwedd 2009

Canlyniadau

Côr Cynta i'r Felin

Rhestr llawn

Canlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r perfformwyr buddugol.

Cylchgrawn

Ffilm

Y celfyddydau

Blog, adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm gydol y flwyddyn.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.