Yr orymdaith fwyaf ers blynyddoedd
Sylwodd rhywun ar bennawd yn un o bapurau Blaenau Gwent ddydd Gwener yn cyhoeddi y byddai "hwyl" yr Eisteddfod yn dechrau yfory - "Eisteddfod fun".
Erbyn nos Sadwrn doedd yna ddim amheuaeth i hynny ddigwydd yn dilyn un o wyliau cyhoeddi mwyaf llwyddiannus yr Eisteddfod Genedlaethol ers blynyddoedd lawer.
Ac os oedd y tywydd yn berffaith yr oedd yr orymdaith drwy dref Glynebwy yn well na hynny hyd yn oed!
Gydag ymhell dros fil yn gorymdeithio yr oedd hon yr orymdaith fwyaf y gallai'r rhan fwyaf ei chofio ac nid oedd sedd wag o gwmpas Cylch yr Orsedd yn Ffordd y Fynwent i glywed Selwyn Iolen, yn cyhoeddi'n swyddogol y bwriad i gynnal Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yno fis Awst 2010.
Selwyn Iolen yn arwain y gweithgareddau yn absenoldeb yr Archdderwydd, Dic yr Hendre, sy'n wael ei iechyd - yr unig gwmwl ar ffurfafen y diwrnod. A doedd Selwyn Iolen ychwaith ddim digon iach i orymdeithio gyda gweddill yr Orsedd a'r gwahoddedigion swyddogol drwy'r dref.
Mwy na seremoni
Ond yr oedd y digwyddiad eleni yn fwy na seremoni orseddol gyda dau lwyfan cyhoeddus wedi eu codi ar gyfer perfformiadau gan artistiaid o bob math gan gynnwys plant yr ysgolion lleol - un yng nghanol y dref - lle cychwynnodd yr orymdaith - a'r llall ger Cylch yr Orsedd lle'r oedd hefyd lu o bebyll a gweithgareddau yn amrywio o beintio wynebau i gicio pêl i gôl.
A Heddlu Gwent yn rhannu dŵr am ddim i dorri syched!
'Y fath frwdfrydeddoedd
Dim rhyfedd i Lywydd llys yr Eisteddfod, Dafydd Whittall, ddweud y bore hwnnw mewn cyfarfod o Gyngor yr Eisteddfod i'r gefnogaeth i'r Eisteddfod ym Mlaenau Gwent fod yn "heintus" o'r cychwyn cyntaf.
"Dydy ni erioed wedi gweithio efo Cyngor yn dangos y fath frwdfrydedd. Mae fel pe byddai wedi bod yn ymwneud â'r Eisteddfod ers canrifoedd," meddai am Gyngor Blaenau Gwent.
A hynny'n ei arwain annog pawb yng Nghymru i deithio yno a chefnogi'r Eisteddfod ymhen blwyddyn ac wfftio'r syniad fod Glyn Ebwy "yn bell".
"Mae yn bwysig cael y neges yna drwodd i bobl fod Blaenau Gwent yn paratoi gŵyl ac angen i chi ddod yno," meddai.
Gyda'r ardal yn disgwyl gwaddol "adfywiad cymdeithasol" yn sgil cynnal yr Eisteddfod ychwanegodd: "Fe allem ninnau hefyd roi gwaddol o adfer yr iaith Gymraeg [i'r ardal]," meddai.
"Mae y gallu gan yr Eisteddfod i drosglwyddo ac i adfer iaith yma ," ychwanegodd.
"Gawn ni fod yn genhadon a gyrru y neges allan fod gennym ni wobr fawr i'w rhoi i Lynebwy ac mae gan Lynebwy wobr fawr i'w rhoi i ni," meddai.
Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith
Dywedodd Richard Davies, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, mai'r syniad tu ôl i'w diwrnod oedd rhoi syniad i bobl y dref beth i'w ddisgwyl ymhen blwyddyn.
"Y bwriad tu ôl i hyn i gyd yw ceisio codi ymwybyddiaeth yn y dref a'r ardal bod rhywbeth ar ddod i Lyn Ebwy. Gobeithio y medrwn ddefnyddio'r diwrnod i sbarduno pobl i weithio dros yr Eisteddfod yn ystod y misoedd sydd yn dilyn," meddai Mr Davies sy'n athro yn Ysgol Gwynllyw ac yn un o'r cadeiryddion pwyllgor gwaith ieuengaf yn hanes yr Eisteddfod.
Ymhlith y digwyddiadau nesaf bydd ffurfio côr yr Eisteddfod ym mis Medi ond cyn hynny, yn dilyn Eisteddfod Y Bala bydd un o gynghorwyr Blaenau Gwent, Jason Owen, yn seiclo o'r Bla i Dredegar er mwyn tynnu sylw a chodi arian.
Os oedd yr hyn a welwyd ddydd Sadwrn yn arwydd o beth sydd i ddod mae'n addo bod yn flwyddyn ddiddorol ym Mlaenau - ac er mai ger Ffordd y Fynwent yr oedd canolbwynt y gweithgareddau ddydd Sadwrn arwyddion bywyd oedd yna wrth i'r Cymraeg a'r di-Gymraeg ymuno yn yr "Eisteddfod fun.
Mwy
Newyddion
Blogiau BBC Cymru
Blog Cylchgrawn
Dal ati
Cyfaill dynnodd fy sylw at hwn. Yng Nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth y ... mwy
Glyn Evans, 11 Rhagfyr 2009
Cylchgrawn
Y celfyddydau
Blog, adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm gydol y flwyddyn.

