Wrth i bethau ddirwyn i ben yn Eisteddfod Caerdydd dechreuodd yr edrych ymlaen at y nesaf. Ac at yr un ar ôl honno! p>
Yn wir yr oedd yna gymaint o edrych ymlaen yng Nghaerdydd at Eisteddfod Glynebwy 2010 ag oedd yn at un Y Bala, a gynhaliwyd ym mis Awst eleni. p>
Er bod darogan cyn hynny, ar y dydd Iau yn Eisteddfod Caerdydd gwnaed y cyhoeddiad am Lynebwy gan ddweud y bydd yn cael ei chynnal ar 185 erw o dir wedi ei adfer sy'n cael ei adnabod fel The Works yn lleol gan gyfeirio at y gwaith dur arferai fod yno. p>
Gydag addewid y gallai'r Eisteddfod ychwanegu £6m at yr economi leol croesawyd y penderfyniad gan wleidyddion yn genedlaethol ac yn lleol gydag arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, Des Hillman, yn ei weld meddai yn gyfle i ddod a'r "Blaenau Gwent newydd" i sylw pobol ar hyd a lled Cymru a newid ar yr un pryd y ddelwedd a fu o flaenau'r Cymoedd.
"Yr ydym yn hyderus y gallwn gynnal Eisteddfod lwyddiannus ac unigryw ym Mhennau'r Cymoedd," meddai. p>
"Gobeithiwn dynnu at ei gilydd bobl o bob cenhedlaeth. Siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg a phob un sy'n ymddiddori yn y diwylliant Cymreig," meddai. p>
Mae'r symudiad yn un sy'n cael ei gefnogi'n swyddogol gan y Cynulliad ac er mai ddydd Iau y gwnaed y cyhoeddiad yr oedd y penderfyniad wedi ei wneud gymaint â phedwar mis yn ôl. p>
Pan fydd yr Eisteddfod yn symud ymlaen ddiwedd wythnos gyntaf Awst 2010 dywedwyd y bydd cartrefi, siopau, swyddfeydd, ysgol a chanolfan gelfyddydau yn cael eu codi ar y safle. p>
Y tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld â Glynebwy oedd yn 1958 pan oedd William Morris yn Archdderwydd, T Llew Jones yn ennill y Gadair, Llewelyn Jones y Goron ac E Cynolwyn Pugh y Fedal Ryddiaith. p>
Ymhlith yr areithwyr yno yr oedd Aneurin Bevan, hyn cyn dyddiau y Rheol Gymraeg. p>
Ymhlith y digwyddiadau hanesyddol y gellir eu cofio bydd: p>
- Ffurfio CND.
- Agor gwasanaeth teledu annibynnol yng Nghymru.
- Agor yr Academi Gymreig.
Newyddion
Blogiau BBC Cymru
Blog Cylchgrawn
Democratiaeth dderwyddol
Mae hi'n dal yn ddryswch pam na chafodd aelodau Gorsedd y Beirdd ddewis eu harchdderwydd ... mwy
Glyn Evans, 18 Tachwedd 2009
Cylchgrawn
Y celfyddydau
Blog, adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm gydol y flwyddyn.

