BBC HomeExplore the BBC

IAU
20fed Mehefin 2013
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
cymru Home
cymru Education


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
help

Croeso i eCips - adnoddau fideo, sain a lluniau gan BBC Cymru ar gyfer athrawon. Gallwch ddod o hyd i gannoedd o glipiau a'u defnyddio yn eich gwersi. Maen nhw i gyd yn berthnasol i'r Cwricwlwm yng Nghymru

Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol
Defnyddiwch y wefan ar fwrdd gwyn rhyngweithiol neu ar unrhyw gyfrifiadur sydd wedi ei gysylltu i'r we. Darperir gwasanaeth band cul a band llydan ond awgrymwn eich bod yn defnyddio band llydan ar gyfer y wefan hon.

Chwilio gyda gair allweddol
Mae'r cyfan yn hawdd iawn. Teipiwch air allweddol a gwasgwch 'EWCH'. Neu os hoffech fod yn fwy penodol, cliciwch ar y dewislenni priodol.

Pori rhannau o'r cwricwlwm
Mae modd pori rhannau o'r cwricwlwm. Cliciwch ar yr opsiwn yma a dewiswch bwnc i weld y testunau. Cliciwch ar is-bwnc i weld y clipiau priodol.

Canlyniadau
Ar ôl chwilio am glip bydd y system yn dangos y clipiau perthnasol. Dangosir fersiwn talfyredig ar gyfer pob clip gan gynnwys iaith, testun, blwyddyn ysgol a hyd y clip. Er mwyn dod o hyd i wybodaeth ychwanegol ac i weld y lluniau perthnasol cliciwch ar "mwy am y clip". Bydd cyfle ichi nodi eich sylwadau.

Lluniau
Gyda phob fideo fe gewch gasgliad o luniau. Cliciwch ar lun i'w ehangu. Gellir naill ai argraffu'r rhain fel copïau caled neu eu defnyddio fel rhan o'ch cyflwyniad cyfrifiadurol.

Chwarae'r clipiau
Gellir chwarae'r clipiau naill ai drwy ddefnyddio 'Real Player' neu 'Windows Media Player'. Cewch gyfle i chwarae'r darnau fideo ar sgrin lawn drwy glicio ar "full screen". Wrth ddefnyddio'r gwasanaeth am y tro cyntaf mae'n bosibl y bydd y system yn gofyn ichi ddewis naill ai 'Real Player' neu 'Windows Media Player'. Os nad oes gennych y naill neu'r llall gallwch eu lawrlwytho.

Eich ffefrynnau
Beth am nodi eich hoff glipiau drwy ddefnyddio'r adran 'Ffefrynnau' ar eich porwr? Bydd modd i chi eu chwarae'n syth heb orfod chwilio amdanyn nhw eto. Mae cofnodi eich hoff glipiau yn hawdd - cliciwch fotwm de'r llygoden ar "Gwyliwch y clip" a dewiswch "Ychwanegu at y Ffefrynnau".

Defnyddio llun fel rhan o'ch cyflwyniad cyfrifiadurol
Cliciwch ar lun er mwyn ei ehangu. Cliciwch ar fotwm de'r llygoden a dewiswch "copïo" o'r ddewislen. Agorwch eich rhaglen gyfrifiadurol. Pastiwch y llun - ewch at "Golygu" a dewiswch "Gludio".

Defnyddio clip fel rhan o'ch cyflwyniad cyfrifiadurol
Amlygwch gyfeiriad gwe'r clip (URL) yn y blwch cyfeiriad ym mhen ucha'r sgrin. Copïwch y cyfeiriad - cliciwch ar fotwm de'r llygoden gan ddewis "Copïo'r Llwybr Byr". Ewch at eich rhaglen gyfrifiadurol gan ddewis y testun neu'r gwrthrych yr hoffech ei ddefnyddio i gynrychioli'r hypergyswllt. I greu hypergyswllt, amlygwch y testun neu'r gwrthrych, cliciwch ar fotwm de'r llygoden a dewiswch hypergyswllt. Gludiwch gyfeiriad y clip i'r blwch cyfeiriad priodol. Daliwch y botwm 'Ctrl' gan bwyso'r botwm 'V'. Cliciwch 'OK'.

Awgrymu clip
Rydym bob amser yn chwilio am ddeunydd newydd. Os ydych yn chwilio am rywbeth penodol rhowch wybod i ni.

Chwaraewr 'Flash'
Mae'n ofynnol ichi ddefnyddio chwaraewr 'Flash' er mwyn gweld y cyflwyniad a'r gwaith animeiddio sy'n rhan o'r wefan. Lawrlwythwch y chwaraewr diweddaraf.

Cymorth
Os hoffech holi unrhyw gwestiwn ebostiwch y tîm: eclips@bbc.co.uk



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy