Gwybodaeth i rieni ac athrawon am y caneuon ar Y Goeden Greu. Mae pedair cân yn cael eu canu gan bedwar cymeriad rhyfedd - Cân Ychapych; Baled Beni Waered; Rap Gwditwhw; Cân Rwbi Dwbi. Gallwch chi ddewis geiriau newydd ar gyfer pob cytgan a dewis gwisgoedd y cymeriadau.


Mae Ychapych, Beni Waered, Gwditwhw a Rwbi Dwbi yn ysu am gael canu i chi! Cliciwch ar bob cymeriad i glywed nhw'n canu eu cân arbennig nhw.

Baled Beni Waered
Mae'r faled drist yma'n sôn am Beni Waered yr ystlum a'i hoff bethau. Mae'r gytgan yn rhoi neges gadarnhaol sy'n gwrthgyferbynnu â chanu truenus Beni Waered. Gallwch chi chwarae gyda'r synau truenus i greu eich effeithiau eich hun yn y gytgan.

Rap Gwditwhw
Dewch i adnabod Gwditwhw yn well gyda'r rap arbennig yma. Mae'r gytgan yn creu llun gweledol ohoni wrth i'r cymeriadau eraill ganu amdani hi a'i hoff bethau. Ewch ati i greu eich cytgan eich hun drwy ddewis eich hoff ddisgrifiadau ohoni.

Cân Rwbi Dwbi
Dyma gân yn arddull Bollywood sy'n sôn am Rwbi Dwbi a'i bywyd prysur. Dewiswch eich hoff ddisgrifiadau ohoni er mwyn cynnwys y llinellau yma yn y gytgan.

Cân Ychapych
Ymunwch yn y gân wallgof yma sy'n sôn am Ychapych, yr anghenfil afiach, a'i hoff bethau ych-a-fi! Mae'r gytgan yn llawn hiwmor gyda geiriau a synau doniol. Dewiswch pa eiriau gwirion hoffech chi eu cynnwys yn y gytgan.

Mae tri dewis.

Gwrando ar y gân
Gwrandewch ar y cymeriad ddewisoch chi yn canu ei gân. Bydd geiriau'r gân i'w gweld yn y blwch ar dop y sgrin.

Newid y gân
Dewiswch eiriau newydd i gytgan y gân.

Mae modd argraffu'r geiriau.

Gwisgo'r cymeriadau
Dewiswch ddillad newydd o'r wardrob ar gyfer Ychapych, Beni Waered, Gwditwhw a Rwbi Dwbi.

Gwrandewch ar y gân unwaith eto er mwyn gweld y cymeriadau'n perfformio yn eu gwisgoedd newydd!

Defnyddwyr llai hyderus
Gall defnyddwyr llai hyderus glicio ar 'Gwnewch y dewis i mi' i greu perfformiadau gyda geiriau newydd yn y gytgan neu i wylio'r cymeriadau yn perfformio mewn gwisgoedd gwahanol.

> Ewch i'r caneuon




Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.