Gwybodaeth i rieni ac athrawon am Y Goeden Greu - gwefan iaith Cymraeg gyda storis, caneuon, cerddi a gemau lliwgar a hwyliog ar gyfer plant 5-7 oed, cyfnod allweddol 1

Gwybodaeth i Rieni ac Athrawon



Mae Y Goeden Greu yn rhan o gasgliad o wefannau addysgol gan y BBC ar gyfer plant 5-7 oed. Mae'r adnoddau canlynol hefyd yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 1:

Dewch i gael hwyl gyda iaith! Mae Y Goeden Greu yn cynnwys storïau lliwgar wedi eu hanimeiddio, caneuon gan grŵp o greaduriaid rhyfedd ond cyfeillgar a cherddi gan rai o feirdd plant gorau Cymru. Mae yna hefyd weithgareddau creadigol a diddorol i gyd-fynd â'r rhain i gyd.

Mae pedair stori:
Mami Wata gan Jan Blake (Addaswyd gan Eirlys Eckley)
Jîni y Darten Geirios gan Christina Shingler (Addaswyd gan Elin Meek)
Jac Do gan Gwenno Hughes
Chwilio am yr Haul gan Rob Lewis (Addaswyd gan Elin Meek)

Mae modd gwylio neu ddarllen y storïau cyn mynd ati i wneud gweithgareddau trefnu, newid a chreu stori.

Er mwyn gwylio fersiwn sgrin lawn o'r storïau, ewch at y dudalen fideos

Mae pedair cân yn cael eu canu gan bedwar cymeriad rhyfedd:
• Cân Ychapych
• Baled Beni Waered
• Rap Gwditwhw
• Cân Rwbi Dwbi

Gallwch chi ddewis geiriau newydd ar gyfer pob cytgan a dewis gwisgoedd y cymeriadau.

Mae pedair cerdd:
• Bachgen Da Ofnadwy gan Ceri Wyn Jones
• Diwrnod Diflas Du gan Myrddin ap Dafydd
• Sôs Coch gan Tudur Dylan Jones
• Ysgol yr Adar Bach gan Mererid Hopwood

Gwrandewch ar ymateb Ychapych, Beni Waered, Gwditwhw a Rwbi Dwbi i'r cerddi ac yna rhoi eich ymateb chi trwy gyfrwng testun a lluniau.

Cymorth sain a gweledol
Byddwch chi'n gallu clicio ar y botwm 'Cymorth clyweledol' er mwyn:
• newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrîn
• clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen
• arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain.

Dydy hi ddim yn bosib mynd at y dewisiadau yma tra eich bod chi yn yr adran Rhieni ac Athrawon.

Byddwch chi'n gallu symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys drwy ddefnyddio bysell Tab.





Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.