Dewch i ddarganfod mwy am wahanol fathau o gerddoriaeth. Gwarandewch ar bob math o gerddoriaeth, o roc i reggae, pop i hip hop. Dysgwch am 10 math o gerddoriaeth gwahanol trwy ddarllen nodiadau syml wrth i chi wrando.

Jiwcbocs



Gwarandewch ar y casgliad o glipiau cerddorol sydd gan Madame Vaudeville yn ei jiwcbocs. Mae nodiadau byr yn cyd-fynd â phob clip sy'n rhoi mwy o wybodaeth i chi am y gerddoriaeth.

Mae'r clipiau yn perthyn i ddeg arddull:

• Roc

• Clasurol

• Gwerin

• Jazz

• Pop

• Reggae

• Soul

• Cyfeiliant Ffilm

• Hip Hop

• Byd

Bydd nodiadau syml yn ymddangos wrth i chi wrando ar y caneuon. Mae'r rhain yn eich arwain drwy bob cân ac yn tynnu sylw at beth i wrando arno yn y gerddoriaeth. Byddan nhw'n dweud mwy am sut cafodd y gerddoriaeth ei chreu, yr offerynnau sy'n chwarae, y defnydd o leisiau a'r arddull cerddorol ei hun.

> Ewch i'r jiwcbocs





Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.