Mwynhewch casgliad o weithgareddau yn ymwneud â synau a rhythmau. Rhowch help llaw i Mali Mwg roi trefn ar ei chegin a chadwch at y curiad gyda Wish-Wash y robot golchi llestri. Jamiwch gyda Gordon a gweddill y cogyddion ac ewch ati i greu eich rhythmau eich hun.

Cegin Gerdd



Mae pedwar gweithgaredd yn y Gegin Gerdd. Cliciwch ar fwydlen Mali Mwg i'w chwarae. Cofiwch, mae'n well cwblhau'r lefelau yn y drefn iawn!

1. Dewch i Chwilio

Mae Mali Mwg eisiau i chi ddod o hyd i'r seiniau sydd yn y gegin.

Gwrandewch ar Mali Mwg a dewiswch sain sy'n cyd-fynd â'i disgrifiad hi.

Bydd Mali Mwg yn rhoi cynnig ar eich awgrym ac yn dweud wrthoch chi a oeddech chi'n gywir neu beidio.

Mae help ar gael drwy glicio ar y botwm 'Awgrym' yng nghornel dde uchaf y sgrin.

2. Cadw at y Curiad

Dewch i gyfarfod Wish-Wash y robot golchi llestri. Eich sialens chi fydd copïo rhythmau y tair cerdd mae'n eu hadrodd.

Mae Wish-Wash yn defnyddio odlau arbennig i'w helpu i roi'r platiau ar y rhesel. Gwrandewch ar rhythmau yr odlau ac yna eu copïo wrth daro'r curiadau ar y bylchwr.

Os llwyddwch chi i roi'r platiau ar y rhesel i guriad y rhythm, byddwch chi'n ennill tocynnau i glywed y rhythmau'n cyd-fynd â chaneuon ar y jiwcbocs yn y gegin. Cân bop yw'r gân gyntaf, mae'r ail yn gân pync roc, a'r drydedd yn gân jazz.

I weld faint o docynnau sydd eu hangen arnoch chi, cadwch lygad ar y rhifydd yng nghornel chwith uchaf y sgrin.

3. Jamio gyda'r Band

Defnyddiwch y bylchwr i gopïo'r rhythmau mae Gordon y prif cogydd yn eu creu.

Gordon ydy'r cogydd ar y chwith ond chi sy'n rheoli'r cogydd ar y dde. Byddwch chi'n cael dewis lliw het eich cogydd.

Ceisiwch deimlo curiad y rhythm a dod i mewn ar yr amser cywir. I'ch helpu chi, edrychwch yn ofalus ar y rhes o oleuadau o dan y ddau gogydd.

Mae dewis o ddeg trac cefndir - pob un yn cynrychioli genre cerddorol gwahanol. Dim ond Roc, Jazz a Byd fydd ar gael i chi i ddechrau. Bydd cwblhau'r lefelau hyn yn datgloi Pop, Gwerin a Soul.

Ar ôl cwblhau'r lefelau hynny cewch chi fynd ymlaen at Hip Hop, Reggae, Cyfeiliant Ffilm a Chlasurol.

4. Beth am Greu

Ewch ati i greu trac rhythm ar gyfer darnau o gerddoriaeth gwahanol.

Mae tri dewis gennych chi:

• Creu rhythmau newydd - cyfansoddi traciau newydd sbon

• Fy rhythmau i - defnyddio rhythmau rydych chi wedi eu creu a'u harbed o'r blaen

• Rhythmau Mali Mwg - defnyddio rhythmau mae Mali Mwg wedi eu creu i chi.

Dewiswch gerddoriaeth gyson, cymedrol neu gyflym, yna dewiswch arddull cerddoriaeth o'r rhestr.

Gall pob cogydd chwarae hyd at wyth, deuddeg neu un deg chwech curiad mewn bar yn dibynnu ar y math o gerddoriaeth ddewisoch chi.

Pan fyddwch chi wedi creu rhythm gallwch chi ei chwarae er mwyn gwrando arni.

Pan fyddwch chi'n hapus gyda'ch gwaith ewch ymlaen i ychwanegu rhythm cogydd arall. Gallwch chi ddewis defnyddio rhythmau hyd at bedwar cogydd.

Gallwch chi greu a chadw hyd at dri gwahanol drac.

> Ewch i'r Gegin Gerdd





Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.