Mae'r Caban Cyfansoddi yn cynnig cyfle i chi gyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd â chlip ffilm byr. Dewiswch un o'r clipiau fideo, yna ewch ati i greu trac sain ar ei gyfer gan ddefnyddio'r dewis helaeth o steiliau cerddoriaeth, offerynnau a rhythmau gwahanol.

Caban Cyfansoddi



Dyma'ch cyfle i gyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd â chlip ffilm byr. Darganfyddwch sut gall cerddoriaeth newid naws ffilm neu raglen deledu. Byddwch chi hefyd yn dysgu sut mae gwahanol haenau'r gerddoriaeth yn gweithio gyda'i gilydd i ffurfio sgôr cerddorol cyfoethog.

Ar ôl dewis fideo, dewiswch pa gerddoriaeth hoffech chi ei defnyddio.

Mae cerddoriaeth Siani yn gymysgedd Fodern, mae cerddoriaeth Hazel mewn arddull Clasurol modern, Roc a Pop ydy cerddoriaeth Ziggy a chyfuniad o gerddoriaeth Werin a Byd sydd gan Xanthu.

Mae pedair rhan i bob ffilm:
• dechrau
• canol 1
• canol 2
• diweddglo.

Mae pedair haen o gerddoriaeth:
• yr alaw (dotiau coch)
• y cyfeiliant (dotiau porffor)
• y bas (dotiau gwyrdd)
• offerynnau taro (dotiau melyn).

Gallwch chi ychwanegu'r gerddoriaeth mewn unrhyw drefn. Mae'n bosob dewis holl rannau un haen yn gyntaf cyn symud ymlaen at y lleill neu ddewis yr holl gerddoriaeth ar gyfer un rhan o'r ffilm ar y tro.

Gallwch chi arbed darnau o'ch gwaith er mwyn eu llwytho rywbryd eto.

Os ydych chi'n cael trafferth dechrau, dewiswch ddarn sydd bron wedi'i orffen drwy glicio ar 'Llwytho' neu dewiswch weithio ar y lefel 'Hawdd' ar ddechrau'r gweithgaredd.

> Ewch i'r Caban Cyfansoddi





Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.