Gwybodaeth: El Impostor Wythnos 2

Wythnos 2



En la Playa

Ymlacio gyda'r Grŵp - Cyfrinachau Arwyddion y Sêr
Ymunwch â'r grŵp sy'n trafod horosgopau. Mae Carla'n rhannu cyfrinach â Cristina am un o'r bechgyn ond a all hi ymddiried ynddi?

Mae'r gweithgaredd yma'n canolbwyntio ar:
• ansoddeiriau yn gorffen yn -'e'
• ansoddair 'buen/a' + enw; y meintiolwr 'muy' + ansoddair
• cyflwyniad i'r gwahaniaeth rhwng (ser) 'es' ac (estar) 'está'
• y person cyntaf, ail berson a'r trydydd person o 'ser': 'soy, eres, es'
• cyflwyniad i 'tener'- 'tengo'
• rhagenwau personol 'el, ella'
• rhagenwau personol 'me, te, conmigo, contigo'.

Gêm Bar y Traeth
Eich gwaith chi yw bod yn weinydd bar y traeth. Gwrandewch ar geisiadau pawb a rhowch yr hyn maen nhw'i eisiau iddyn nhw.

Mae'r gweithgaredd yma'n canolbwyntio ar:
• geirfa bwyd a diod
• sut mae archebu
• amser presennol 'querer': 'quiero'
• amser presennol
• tener - 'tienes'

Dyddiadur Fideo - Carla 2
Mae Carla'n sôn am ei gefeilles.

Mae'r gweithgaredd yma'n canolbwyntio ar:
• cyflwyniad i'r lluosog
• ansoddeiriau: cytuno
• cymharol, 'mas... que...'
• amser presennol 'tener': 'tengo, tiene'
• aelodau'r teulu
• y rhifau 1-3.

En la Casa

Ymlacio gyda'r Grŵp - Dyna Gêm
Mae Cristina a Jaime'n sgwrsio am eu hoff gemau fideo. Ond beth yw gwir reswm Cristina am geisio gwneud ffrindiau? Ymunwch â nhw i gael yr ateb!

Mae'r gweithgaredd yma'n canolbwyntio ar:
• ansoddeiriau, 'pobre' + enw
• amser presennol 'tener': 'tengo',tienes'
• amser presennol 'ser': 'son'
• amser presennol 'querer': 'quiero, quieres'
• person cyntaf, ail berson a thrydydd person unigol amser presennol 'pensar': 'pienso, piensa, piensas' + 'que'
• y gofynnol: '¿cómo?' i ofyn am gadarnhad
• barnau gwrthgyferbyniol.

Dyddiadur Fideo - Jaime 2
Mae Jaime'n siarad am ei we-ddarllediad.

Mae'r gweithgaredd yma'n canolbwyntio ar:
• amser presennol 'estar, tener, poner': 'estoy, tengo, tiene, pongo'
• cyflwyniad i 'estar'.

Gêm y Gofod
Edrychwch ar y geiriau ar y planedau a symudwch y llong i'r chwith a'r dde i ddewis yr un cywir!

Mae'r gweithgaredd yma'n canolbwyntio ar:
• y berfenw
• cyflwyniad i ferfau a'u terfyniadau
• cyflwyniad i ferfau afreolaidd
• berfau cysefin sy'n newid
• adnabod patrymau berfau.

En la Plaza

Ymlacio gyda'r Grŵp - Diwrnod Marchnad
Mae'n ddiwrnod marchnad yn y dref. Mae Mercedes, Ángel a Leo'n chwilota trwy'r stondin comics, ond mae gan Mercedes rywbeth ar ei meddwl. Allwch chi ei helpu?

Mae'r gweithgaredd yma'n canolbwyntio ar:
• cyflwyniad i amrywiaethau yn y Sbaeneg: 'che' o'r Ariannin
• ansoddeiriau: cytundeb (rhyw personol, rhyw gramadegol)
• y cymharol 'más' + ansoddair
• cymharol gyda 'como' + enw
• y perthnasol 'quando'
• rhagenwau personol 'ellos, ellas'
• y rhagenw personol 'mi' neu'r meddiannol 'mi'
• y meddiannol 'tu, tus'
• ymestyniad o ferfau wedi eu rhedeg 'quiero, prefiero' + rhagenw
• berfau gydag arddodiad 'pensar en'
• y cysylltyn 'bueno'
• cydymdeimlo: 'comprendo'
• perthnasau personol.

Dyddiadur Fideo - Ángel 1
Mae Ángel o Golombia'n siarad am ei daith yn ystod yr haf i fforest law'r Amazon.

Mae'r gweithgaredd yma'n canolbwyntio ar:
• ansoddeiriau
• lluosog
• berfau
• cyflwyniad i'r gorffennol.

Y Swît Olygu
Crëwch eich stori lluniau eich hun yn defnyddio'r cymeriadau o 'El Impostor' gyda'r swît olygu arbennig hon.

En el Campo

Ymlacio gyda'r Grŵp - Dadlau dros Dân y Gwersyll
Mae Mercedes, Jaime ac Ángel yn mwynhau trip gwersylla nes bod dadl yn cychwyn, ond pwy sydd ar fai?

Mae'r gweithgaredd yma'n canolbwyntio ar:
• ansoddeiriau ac enwau yn gorffen yn '-ista' (terfyniad gwrywaidd a benywaidd)
• enw + arddodiad '(respeto) por'
• y person cyntaf, ail a thrydydd person unigol gorffennol o 'ser': 'fui, fuiste, fue'
• y gofynnol 'donde, quien, por que'
• cyflwyniad i ragenwau: 'lo'
• angen: 'ser necesario, necesitar'
• materion amgylcheddol
• delio â gwrthdaro.

Dyddiadur Fideo - Mercedes 1
Mae Mercedes yn siarad am fod o dras gymysg.

Mae'r gweithgaredd yma'n canolbwyntio ar:
• ansoddeiriau, adolygu gwahanol derfyniadau, dieithriad '-a'
• y meddiannol 'su'
• gwreiddiau.

Gêm Giamocs Gwersylla
Rydych wedi cael eich gwneud yn Rheolwr y Gwersyll ac mae angen i chi gadw'r gwersyllwyr yn hapus. Gwrandewch ar eu ceisiadau a rhowch yr hyn maen nhw'i eisiau iddyn nhw. Pob lwc!

Mae'r gweithgaredd yma'n canolbwyntio ar:
• cynyddu geirfa
• sut mae gofyn am rywbeth rydych ei angen
• cyflwyniad i 'estar' + ansoddair (rhangymeriad)
• dywediadau gyda 'tener'.



Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.