Mae Les Choix yn adnodd dysgu Ffrangeg trwy gyfrwng y Gymraeg gyda gemau a gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer plant 11-14 oed, cyfnod allweddol 3. Gwyliwch y ddrama'n datblygu yng nghwmni Alex, Jamila a'u ffrindiau - a chodi ychydig o Ffrangeg yr un pryd. Mae yna 12 pennod fer i ddenu'r dysgwr, i gyd yn archwilio'r thema o hunaniaeth ac yn delio â nifer o faterion yn ymwneud â'r arddegau megis cyfeillgarwch, cariad, trosedd a hiliaeth. Cafodd y penodau eu recordio ym Marseilles a'u hysgrifennu'n defnyddio iaith wedi ei symleiddio. Learn French through the medium of Welsh with interactive drama, games, animations and activities aimed at young people aged 11-14, key stage 3.

Pennod 8: Pas un mauvais garçon

Cliciwch isod i fynd yn syth at weithgaredd unigol

Pas un mauvais garçon: Bande Dessinée

Mae Alex yn mynd i siopa dros ei dadcu a gallwch chi weld beth sy mewn archfarchnad Ffrengig.

Pas un mauvais garçon: Vidéo 8

Ydy Alex yn fachgen cynddrwg â hynny? Mae pawb yn dweud pethau cas amdano, ond ei dadcu sy'n ei nabod orau.

Pas un mauvais garçon: Jeux Vidéo

Dyma gasgliad o gemau fideo i brofi eich sgiliau.

Pas un mauvais garçon: Le Supermarché Interactif

Beth mae Alex yn brynu yn yr archfarchnad?

Pas un mauvais garçon: Inter-Action!

Mae Léo a Léa yn dangos sut i gael hwyl gyda gwaith tŷ, os ydy hynny'n bosib...

Pas un mauvais garçon: Le Studio

Lluniwch eich stribed-comic eich hun! Ail-luniwch y stori rydych chi newydd ei gwylio, neu lluniwch stori newydd sbon.

Pas un mauvais garçon: La Chaîne des Mots

Llywiwch eich beic o gwmpas a chasglwch bopeth yn y drefn gywir er mwyn perfformio campau anhygoel!




Llywio drwy’r BBC

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.