Mae Les Choix yn adnodd dysgu Ffrangeg trwy gyfrwng y Gymraeg gyda gemau a gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer plant 11-14 oed, cyfnod allweddol 3. Gwyliwch y ddrama'n datblygu yng nghwmni Alex, Jamila a'u ffrindiau - a chodi ychydig o Ffrangeg yr un pryd. Mae yna 12 pennod fer i ddenu'r dysgwr, i gyd yn archwilio'r thema o hunaniaeth ac yn delio â nifer o faterion yn ymwneud â'r arddegau megis cyfeillgarwch, cariad, trosedd a hiliaeth. Cafodd y penodau eu recordio ym Marseilles a'u hysgrifennu'n defnyddio iaith wedi ei symleiddio. Learn French through the medium of Welsh with interactive drama, games, animations and activities aimed at young people aged 11-14, key stage 3.

Pennod 7: De bons amis

Cliciwch isod i fynd yn syth at weithgaredd unigol

De bons amis: Bande Dessinée

Mae angen ffrind ar Malik felly mae'n mynd draw i dŷ Jamila. Yn anffodus mae ei meddwl hi yn rhywle arall.

De bons amis: Vidéo 7

Mae mam Jamila'n ceisio trefnu cariad ar gyfer ei merch.

De bons amis: Jeux Vidéo

Dyma gasgliad o gemau fideo i brofi eich sgiliau.

De bons amis: La Chambre de Jamila

Chwiliwch drwy ystafell wely Jamila i ddod o hyd i leoliad nifer o bethau o amgylch yr ystafell.

De bons amis: Mini Moi

Hoffech chi greu copi bach ohonoch chi eich hun? Nawr gallwch chi greu person sy'n cyfateb i'ch disgrifiadau chi!

De bons amis: Le Studio

Lluniwch eich stribed-comic eich hun! Ail-luniwch y stori rydych chi newydd ei gwylio, neu lluniwch stori newydd sbon.

De bons amis: La Chaîne des Mots

Llywiwch eich beic o gwmpas a chasglwch bopeth yn y drefn gywir er mwyn perfformio campau anhygoel!




Llywio drwy’r BBC

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.