Mae Les Choix yn adnodd dysgu Ffrangeg trwy gyfrwng y Gymraeg gyda gemau a gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer plant 11-14 oed, cyfnod allweddol 3. Gwyliwch y ddrama'n datblygu yng nghwmni Alex, Jamila a'u ffrindiau - a chodi ychydig o Ffrangeg yr un pryd. Mae yna 12 pennod fer i ddenu'r dysgwr, i gyd yn archwilio'r thema o hunaniaeth ac yn delio â nifer o faterion yn ymwneud â'r arddegau megis cyfeillgarwch, cariad, trosedd a hiliaeth. Cafodd y penodau eu recordio ym Marseilles a'u hysgrifennu'n defnyddio iaith wedi ei symleiddio. Learn French through the medium of Welsh with interactive drama, games, animations and activities aimed at young people aged 11-14, key stage 3.

Pennod 6: Les étrangers

Cliciwch isod i fynd yn syth at weithgaredd unigol

Les étrangers: Bande Dessinée

Mae'r clecs diweddara am Alex yn lledaenu fel tân gwyllt. Gyda ffrindiau fel Julie a Justine pwy sy angen gelynion?

Les étrangers: Vidéo 6

Mae Justine ac Anaïs yn hel clecs. Mae rhywun mewn trafferth - ond pam mae pawb yn rhoi'r bai ar Malik?

Les étrangers: Jeux Vidéo

Dyma gasgliad o gemau fideo i brofi eich sgiliau.

Les étrangers: Téléphone portable

Felly beth yn union ddwedodd Julie wrth Justine am Alex a Malik? Gallwch chi wrando ar ei neges ffôn yma...

Les étrangers: Qui est Qui?

Pa mor dda ydych chi am adnabod pobl? Profwch eich sgiliau cofio ac adnabod yn y gêm hwyliog yma.

Les étrangers: Le Studio

Lluniwch eich stribed-comic eich hun! Ail-luniwch y stori rydych chi newydd ei gwylio, neu lluniwch stori newydd sbon.

Les étrangers: La Chaîne des Mots

Llywiwch eich beic o gwmpas a chasglwch bopeth yn y drefn gywir er mwyn perfformio campau anhygoel!




Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.