Mae Les Choix yn adnodd dysgu Ffrangeg trwy gyfrwng y Gymraeg gyda gemau a gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer plant 11-14 oed, cyfnod allweddol 3. Gwyliwch y ddrama'n datblygu yng nghwmni Alex, Jamila a'u ffrindiau - a chodi ychydig o Ffrangeg yr un pryd. Mae yna 12 pennod fer i ddenu'r dysgwr, i gyd yn archwilio'r thema o hunaniaeth ac yn delio â nifer o faterion yn ymwneud â'r arddegau megis cyfeillgarwch, cariad, trosedd a hiliaeth. Cafodd y penodau eu recordio ym Marseilles a'u hysgrifennu'n defnyddio iaith wedi ei symleiddio. Learn French through the medium of Welsh with interactive drama, games, animations and activities aimed at young people aged 11-14, key stage 3.

Pennod 3: Sale voleur

Cliciwch isod i fynd yn syth at weithgaredd unigol

Sale voleur: Bande Dessinée

Dydy pethau ddim yn edrych yn dda i Alex. Sut y bydd e'n egluro'r trafferth mae e ynddo i'w dadcu?

Sale voleur: Vidéo 3

Mae Alex a Malik yn sgwrsio am ferched a cherddoriaeth, ond mae rhywun arall yn cyrraedd. Pwy ydy e a pham?

Sale voleur: Jeux Vidéo

Dyma gasgliad o gemau fideo i brofi eich sgiliau.

Sale voleur: Le site web de You Are

Hoff grŵp Alex a Malik ydy'r grŵp hip hop 'YOU ARE'. Ewch i'w gwefan a gwrandewch ar eu cân diweddaraf.

Sale voleur: Inter-Action!

Mwynhewch eich hun yn meistroli berfenwau!

Sale voleur: Le Studio

Lluniwch eich stribed-comic eich hun! Ail-luniwch y stori rydych chi newydd ei gwylio, neu lluniwch stori newydd sbon.

Sale voleur: MC des Mots

Gwyliwch a gwrandewch ar yr MC yn gollwng ei odlau. Wrth i'r geiriau fynd heibio, rhowch nhw yn y grwpiau cywir.




Llywio drwy’r BBC

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.