Mae Les Choix yn adnodd dysgu Ffrangeg trwy gyfrwng y Gymraeg gyda gemau a gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer plant 11-14 oed, cyfnod allweddol 3. Gwyliwch y ddrama'n datblygu yng nghwmni Alex, Jamila a'u ffrindiau - a chodi ychydig o Ffrangeg yr un pryd. Mae yna 12 pennod fer i ddenu'r dysgwr, i gyd yn archwilio'r thema o hunaniaeth ac yn delio â nifer o faterion yn ymwneud â'r arddegau megis cyfeillgarwch, cariad, trosedd a hiliaeth. Cafodd y penodau eu recordio ym Marseilles a'u hysgrifennu'n defnyddio iaith wedi ei symleiddio. Learn French through the medium of Welsh with interactive drama, games, animations and activities aimed at young people aged 11-14, key stage 3.

Pennod 12: La rencontre

Cliciwch isod i fynd yn syth at weithgaredd unigol

La rencontre: Bande Dessinée

Wrth i Alex a'i ffrindiau fynd am y dref, mae'r merched yno'n barod. Fydd cariad yn blaguro rhwng rhai ohonyn nhw?

La rencontre: Vidéo 12

Mae cariad lond y lle ond a fydd Jamilla'n gallu anghofio am enw drwg Alex? Pwy fydd hi'n gredu?

La rencontre: Jeux Vidéo

Dyma gasgliad o gemau fideo i brofi eich sgiliau.

La rencontre: Le Plan Interactif

Mae Alex a Malik eisiau cyrraedd canol y dref. Ydych chi'n gallu dangos y ffordd iddyn nhw?

La rencontre: Matchez Moi

Chwilio am ffrind neu chwilio am gariad? Bydd y gêm yma'n eich helpu i ddod o hyd i rywun sy'n cyfateb i'ch disgrifiad chi.

La rencontre: Inter-Action!

Yr unig ffordd i feistroli berfau Ffrangeg heb ddiflasu!

La rencontre: Le Studio

Lluniwch eich stribed-comic eich hun! Ail-luniwch y stori rydych chi newydd ei gwylio, neu lluniwch stori newydd sbon.

La rencontre: MC des Mots

Gwyliwch a gwrandewch ar yr MC yn gollwng ei odlau. Wrth i'r geiriau fynd heibio, rhowch nhw yn y grwpiau cywir.




Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.