Mae Les Choix yn adnodd dysgu Ffrangeg trwy gyfrwng y Gymraeg gyda gemau a gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer plant 11-14 oed, cyfnod allweddol 3. Gwyliwch y ddrama'n datblygu yng nghwmni Alex, Jamila a'u ffrindiau - a chodi ychydig o Ffrangeg yr un pryd. Mae yna 12 pennod fer i ddenu'r dysgwr, i gyd yn archwilio'r thema o hunaniaeth ac yn delio â nifer o faterion yn ymwneud â'r arddegau megis cyfeillgarwch, cariad, trosedd a hiliaeth. Cafodd y penodau eu recordio ym Marseilles a'u hysgrifennu'n defnyddio iaith wedi ei symleiddio. Learn French through the medium of Welsh with interactive drama, games, animations and activities aimed at young people aged 11-14, key stage 3.

Pennod 10: Ce n'est pas mon style

Cliciwch isod i fynd yn syth at weithgaredd unigol

Ce n'est pas mon style: Bande Dessinée

Wrth i'r merched baratoi i fynd i'r dref, mae gan Jamila drefniadau eraill.

Ce n'est pas mon style: Vidéo 10

Mae Justine ac Anaïs yn ceisio cael Jamila i newid ei steil. Oes angen eu help nhw arni mewn gwirionedd?

Ce n'est pas mon style: Jeux Vidéo

Dyma gasgliad o gemau fideo i brofi eich sgiliau.

Ce n'est pas mon style: L'Armoire de Justine

Felly beth yn union ddylai fod yng nghwpwrdd dillad brenhines ffasiwn? Chwiliwch drwy gwpwrdd dillad Justine i ddarganfod!

Ce n'est pas mon style: Le Studio

Lluniwch eich stribed-comic eich hun! Ail-luniwch y stori rydych chi newydd ei gwylio, neu lluniwch stori newydd sbon.

Ce n'est pas mon style: MC des Mots

Gwyliwch a gwrandewch ar yr MC yn gollwng ei odlau. Wrth i'r geiriau fynd heibio, rhowch nhw yn y grwpiau cywir.




Llywio drwy’r BBC

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.