Mae Les Choix yn adnodd dysgu Ffrangeg trwy gyfrwng y Gymraeg gyda gemau a gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer plant 11-14 oed, cyfnod allweddol 3. Gwyliwch y ddrama'n datblygu yng nghwmni Alex, Jamila a'u ffrindiau - a chodi ychydig o Ffrangeg yr un pryd. Mae yna 12 pennod fer i ddenu'r dysgwr, i gyd yn archwilio'r thema o hunaniaeth ac yn delio â nifer o faterion yn ymwneud â'r arddegau megis cyfeillgarwch, cariad, trosedd a hiliaeth. Cafodd y penodau eu recordio ym Marseilles a'u hysgrifennu'n defnyddio iaith wedi ei symleiddio. Learn French through the medium of Welsh with interactive drama, games, animations and activities aimed at young people aged 11-14, key stage 3.

Pennod 1: Belle Caisse

Cliciwch isod i fynd yn syth at weithgaredd unigol

Belle Caisse: Bande Dessinée

Mae Ben yn cynnig reid i Alex ar hyd glan y môr, y to i lawr, yr haul yn gwenu a chaneuon yn llenwi'r awyr. Beth allai fod yn well?

Belle Caisse: Vidéo 1

Car neis, ond car pwy ydy e? Mae'r ddau gefnder Ben ac Alex mewn trafferth ym mhennod gyntaf 'Les Choix'.

Belle Caisse: Jeux Vidéo

Dyma gasgliad o gemau fideo i brofi eich sgiliau.

Belle Caisse: Voiture de Sport

Archwiliwch gar to agored Ben. Beth ydy enwau holl rannau pwysig y car a beth yw eu pwrpas?

Belle Caisse: Le Mots-Croisés

Profwch eich sgiliau a gwellwch eich sillafu gyda'n croesair rhyngweithiol.

Belle Caisse: Le Studio

Lluniwch eich stribed-comic eich hun! Ail-luniwch y stori rydych chi newydd ei gwylio, neu lluniwch stori newydd sbon.

Belle Caisse: MC des Mots

Gwyliwch a gwrandewch ar yr MC yn gollwng ei odlau. Wrth i'r geiriau fynd heibio, rhowch nhw yn y grwpiau cywir.




Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.