Jeux vidéo

Jeux Vidéo



Mae'r gweithgareddau yma wedi eu seilio ar bennod ddiweddaraf stori Les Choix. Gwyliwch y fideo yna cwblhewch yr ymarferion.

Gwylio'r fideo

Mae ganddoch chi reolaeth lawn o'r fideo fel eich bod yn gallu gweithio ar eich cyflymder eich hun.

Gallwch chwarae'r fideo cyfan (Tout) neu ei chwarae cymal wrth gymal (Phrases).

Gallwch argraffu'r sgript ar gyfer y bennod trwy glicio ar eicon yr argraffydd.

Gweithgareddau fideo

Mae yna dri math o ymarferion ac mae gan bob un lefel hawdd a lefel anodd.

Pan fyddwch yn chwarae trwy fyd Les Choix rhaid i chi chwarae dilyniant o'r gweithgareddau yma, gan ddechrau gyda Le Bon Choix Hawdd. Bydd yr ymarferion nesaf y byddwch yn eu chwarae yn dibynnu ar ba mor dda y byddwch yn ei wneud.

Mae pwyntiau'n cael eu rhoi am bob un o'ch atebion a phan fyddwch yn chwarae trwy fyd Les Choix, mae'ch llwyddiant yn cael ei fesur gan gyfanswm eich pwyntiau ar gyfer gêm. Os ydych eisiau gwylio clip mwy nag unwaith cyn ateb, cliciwch ar docyn seren, ond cofiwch y bydd yn costio 100 o'ch pwyntiau gwerthfawr i chi gael gwneud hyn. Y nifer lleiaf o weithiau y byddwch yn ailadrodd y clip, y mwyaf y byddwch yn ei sgorio!

Le Loto (Bingo)

Dyma'r gweithgaredd fideo hawsaf. Gwyliwch glip byr o'r fideo yna cliciwch ar y gair neu'r geiriau yn y rhestr a ddefnyddir yn y clip.

Le Bon Choix (Cloze)

Gwyliwch y clip yna dewiswch y gair neu'r geiriau a glywsoch o'r gwymp-ddewislen.

La Case Vide (Llenwi Bylchau)

Dyma'r gweithgaredd fideo mwyaf anodd. Gwyliwch glip byr yna teipiwch y geiriau coll ar y sgrîn. Cliciwch ar yr eicon â i ddefnyddio'r bysellfwrdd rhithwir pan fyddwch angen teipio llythrennau ag acen.



Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.