Dragon de Jade - am y wefan

Am Dragon de Jade



Defnyddiwch eich Ffrangeg er mwyn datrys y dirgelwch a dod o hyd i'r ddraig werdd. Gêm antur ryngweithiol ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 yw Le Mystère de Dragon de Jade.

Mae lladron wedi dwyn y Dragon de Jade a'i guddio mewn banc ym Mharis. Chi yw 'Asiant X' - a'ch tasg chi yw cael gafael ar y cerflun trwy ddatrys posau a chwarae cyfres o gemau.

Casglwch wrthrychau sydd wedi eu cuddio i ddarganfod cliwiau wrth i chi symud o ystafell i ystafell. Bydd y pethau rydych chi'n eu casglu'n cael eu cadw yn y Stockage (storfa) ar waelod y sgrîn.

Ydych chi'n barod am yr her?

Gemau
Wrth i chi fynd ar drywydd y 'Dragon de Jade', bydd rhaid i chi gwblhau cyfres o gemau a gweithgareddau.

Mae'r gemau'n eich dysgu chi i:

  • ddweud y dyddiad yn Ffrangeg
  • adnabod cenedl geiriau
  • adnabod berfenwau Ffrangeg
  • rhoi cyfarwyddiadau syml (chwith, dde a syth ymlaen)
  • defnyddio gwybodaeth rydych chi wedi ei darganfod i ateb cwestiynau.

Côd
Does dim angen i chi ddechrau o'r dechrau bob tro rydych chi'n chwarae. Byddwch yn derbyn côd fydd yn eich galluogi chi i symud yn syth i unrhyw ystafell rydych wedi ymweld ag hi o'r blaen.

Help
Os ydych chi'n cael trafferth, cliciwch ar y botwm cymorth. Neu, crafwch eich pen tan i chi ddarganfod yr ateb drosoch chi eich hun!

Bonne chance Asiant X!

Ewch at wefan Les Choix i fwynhau mwy o weithgareddau ar gyfer dysgu Ffrangeg trwy gyfrwng y Gymraeg

Cymorth Clyweledol
Gallwch chi glicio ar y botwm 'Cymorth clyweledol' i:

  • newid lliw testun a'r cefndir
  • clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen yn uchel.

Nid yw'n bosib defnyddio'r dewisiadau yma tra'ch bod yn yr adran Gwybodaeth.

Gallwch chi hefyd symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys trwy ddefnyddio'r bysellfwrdd.



Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.