Nodiadau Rhieni ac Athrawon Camau Cyfri

Gwybodaeth i Rieni ac Athrawon



Mae Camau Cyfri yn rhan o gasgliad o wefannau addysgol gan y BBC ar gyfer plant 5-7 oed. Mae'r adnoddau canlynol hefyd yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 1:

Mae Camau Cyfri yn cynnwys tair set o gemau mathemateg anhygoel sy'n annog plant i feddwl am strategaethau mathemategol wrth ddatrys problemau rhif.

Dilynwch Cwningen, Llwynog a Deryn wrth iddyn nhw adael eu cartref o dan y mynydd i edrych am antur mewn byd sy'n llawn rhifau a chreaduriaid rhyfedd.

Cofiwch:
• mae gemau'n mynd dipyn yn anoddach unwaith cyrhaeddwch chi lefel pedwar
• mae'r nifer o droeon sy'n ennill medal aur yn amrywio o gêm i gêm.

Gemau Cwningen
Gweithgareddau llinell rif yw y rhain lle mae'n rhaid i chi wneud i Cwningen lanio ar y llysiau blasus ac osgoi'r angenfilod. Mae Cwningen yn adrodd y symiau mae'n wneud wrth neidio yn ôl ac ymlaen ar hyd y llinell rif.

Mae'r gweithgareddau yma'n ymdrin â'r cysyniadau mathemategol canlynol:
• cyfri ymlaen ac yn ôl
• adio a thynnu
• eilrifau ac odrifau
• lluosrifau
• patrymau a dilyniannau rhif
• adio a thynnu drosodd a throsodd
• lluosi a rhannu.

Gemau Llwynog
Mae'r gemau yma'n debyg i weithgareddau cyfri pan fydd plant yn defnyddio gwrthrychau fel cownteri, gleiniau neu flociau i wneud gwaith rhif. Nod y gemau yw llenwi llongau gofod gyda'r nifer cywir o greaduriaid rhyfedd o'r enw Wiblod.

Mae'r gweithgareddau yma'n ymdrin â'r cysyniadau mathemategol canlynol:
• cyfri ymlaen ac yn ôl
• adio a thynnu
• eilrifau ac odrifau
• lluosrifau
• dyblu a haneru
• lluosi a rhannu.

Gemau Deryn
Mae'r gemau hyn yn debyg i weithgareddau ystafell ddosbarth lle bydd plant yn defnyddio ciwbiau i wneud gwaith rhif. Nod y gemau yw tywys creaduriaid rhyfedd o'r enw Cogiaid i'r ystafell drysor. Mae'n rhaid trefnu'r Cogiaid mewn petryalau o'r maint a'r siâp cywir cyn gallu symud ymlaen.

Mae'r gweithgareddau yma'n ymdrin â'r cysyniadau mathemategol canlynol:
• cyfri ymlaen ac yn ôl
• adio a thynnu
• eilrifau ac odrifau
• lluosrifau
• dyblu a haneru
• lluosi a rhannu.

Cymorth sain a gweledol
Cliciwch ar y botwm 'Cymorth Clyweledol' er mwyn:
• newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrîn
• clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen
• arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain.

Allwch chi ddim clicio ar y botwm 'Cymorth Clyweledol' tra eich bod chi'n darllen y Nodiadau Rhieni ac Athrawon.

Byddwch chi'n gallu symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys drwy ddefnyddio'r bysellfwrdd.



Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.