Cyfweliadau gyda rhai o aelodau Tîm Cynhyrchu Mosgito

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Dulliau cynhyrchu ar raglen fyw.

Ffilm a baratowyd yn arbennig i gynnwys cyfweliadau gyda thîm cynhyrchu rhaglen fyw BBC Cymru, 'Mosgito', er mwyn esbonio cefndir y gyfres a'r dulliau cynhyrchu a ddefnyddir wrth greu rhaglen gylchgrawn ar gyfer cynulleidfa ifanc. Dangosir golygfeydd o'r lleoliad lle cynhyrchwyd y gyfres, rhai o'r ymarferion ar gyfer un o'r rhaglenni a darnau o'r rhaglen fyw ei hun.
O: Mosgito
Darlledwyd yn gyntaf : 02 Gorffennaf 2009

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Astudiaethau Cyfryngau

Testun : Adloniant

Allweddeiriau : Cynhyrchu, Rhaglenni ysgafn i bobl ifanc, Rhaglen cylchgrawn,Adloniant,Traws genre

Nodiadau : 1) Gan ddefnyddio'r wybodaeth o'r clip cynlluniwch raglen newydd i bobl ifanc. Bydd angen ymchwilio rhaglenni eraill sy'n targedu'r ifanc er mwyn penderfynu ar y genre; rhaid creu holiaduron (ymchwil meintiol) neu gwestiynau cyfweliadau - unigol neu grŵp ffocws (ymchwil ansoddol) i benderfynu ar ba ystod oedran y targedir. Rhaid meddwl am enw, logo ac arwyddgan. Gellir creu set addas a meddwl am gyflwynwyr. Rhaid meddwl sut y byddent yn trefnu'r rhaglen. Gellir cynllunio dilyniant teitl ar ffurf storifwrdd ac o bosib, ei greu. Gellir creu rhaglun i'w hysbysebu yn yr un modd. 2) Gellir creu rhaglun i hysbysebu Mosgito ei hun er mwyn ehangu'r gynulleidfa ac i ymglymu'r gynulleidfa bresennol. 3) Disgyblion Blwyddyn 12 a greodd y cwestiynau hyn mewn grwpiau ffocws yn y dosbarth; nhw ddewisodd y cwestiynau gorau a gwirfoddolodd rhai i gyfweld. Gellir edrych ar raglenni eraill o'ch dewis, ymchwilio pwy yw'r tîm cynhyrchu a chynllunio cyfweliadau i ddarganfod gwybodaeth arbennig. Efallai y gellid cysylltu â chyfarwyddwr y rhaglen a gofyn y cwestiynau a'u ffilmio. Gweler Mosgito am ragor o glipiau a wybodaeth ar y gyfres.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.