Gwybodaeth i rhieni ac athrawon am wefan rhyngweithiol Ar Daith, adnodd Hanes ar gyfer plant ysgol Cymru 7-11 oed, cyfnod allweddol 2. Sut i fynd ati i greu eich map mudo neu eich ddyddiadur eich hun.

Ar Daith



Mae Ar Daith yn rhan o gasgliad o wefannau addysgol gan y BBC ar gyfer plant 7-11 oed. Mae'r adnoddau canlynol hefyd yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2:

Mae Ar Daith yn cynnwys pedair gêm ryngweithiol yn seiliedig ar y thema mudo. Dilynwch hanesion y bobl a ymfudodd yn ystod yr ugeinfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cewch hefyd gyfle i adrodd eich storïau eich hun ac i greu mapiau o'ch teithiau chi.

Y pedwar gweithgaredd yw:

Dyddiaduron
Darllenwch am ddeuddeg o blant a ymfudodd yn ystod yr ugeinfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dychmygol yw'r dyddiaduron ond maen nhw wedi eu seilio ar ddigwyddiadau hanesyddol a maen nhw'n llawn ffotograffau a lluniau hanesyddol.

Creu Dyddiadur
Ewch ati i wneud eich dyddiadur eich hun wrth greu testun a dewis pa ffotograffau a lluniau hanesyddol rydych am eu cynnwys.

Map Mudo
Mae'r map yma'n gronfa ddata anferth sy'n llawn gwybodaeth am ymfudiadau yr ugeinfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r wybodaeth am bob ymfudiad yn egluro lle a phryd digwyddodd e, pwy a ymfudodd, sut teithion nhw a pham gwnaethon nhw ymfudo. Mae ffotograffau, lluniau neu ffilm hanesyddol wedi eu cynnwys yn y wybodaeth yma.

Creu Map
Ewch ati i greu map i ddangos taith rydych chi wedi ei gwneud.

Cymorth Sain a Gweledol
Cliciwch ar y botwm 'Cymorth Clyweledol' er mwyn:
• arddangos isdeitlau'r fideos yn Dyddiaduron
• newid maint, lliw a chefndir testun isdeitlau fideos Dyddiaduron
• clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen.

Allwch chi ddim clicio ar y botwm 'Cymorth Clyweledol' tra eich bod chi'n darllen yr adran Gwybodaeth.

Gallwch chi hefyd ddefnyddio'r bysellfwrdd i symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys.





Llywio drwy’r BBC

Copyright © 2014 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.